Sigmund Freud
Gwedd
| Sigmund Freud | |
|---|---|
| Llais | Sigmund Freud's Voice (1938).wav |
| Ganwyd | Sigismund Schlomo Freud 6 Mai 1856 Příbor |
| Bu farw | 23 Medi 1939 o canser breuannol Llundain |
| Man preswyl | Fienna, Llundain, Birth house of Sigmund Freud |
| Dinasyddiaeth | Ymerodraeth Awstria, Cisleithania, Awstria, yr Almaen Natsïaidd |
| Addysg | Doctor of Sciences |
| Alma mater | |
| Galwedigaeth | seicdreiddydd, niwrolegydd, awdur ysgrifau |
| Swydd | athro cadeiriol |
| Cyflogwr | |
| Adnabyddus am | The Interpretation of Dreams, Civilization and Its Discontents, Totem und Tabu, Three Essays on the Theory of Sexuality, The Ego and the Id, id, ego and super-ego |
| Tad | Jacob Freud |
| Mam | Amalia Freud |
| Priod | Martha Bernays |
| Plant | Anna Freud, Ernst Ludwig Freud, Martin Freud, Oliver Freud, Sophie Freud, Mathilde Freud |
| Perthnasau | Edward Bernays, Lucian Freud |
| Gwobr/au | Gwobr Goethe, Aelod Tramor o'r Gymdeithas Frenhinol |
| llofnod | |
Niwrolegydd a seiciatrydd Iddewig o Awstria oedd Sigmund Freud (IPA: ˈziːkmʊnt ˈfʁɔʏt; ganed Sigismund Schlomo Freud; 6 Mai 1856 – 23 Medi 1939; . Fe sefydlodd wyddor seicdreiddiad, ac fe'i cofir yn bennaf am ei waith ar yr meddwl anymwybodol (ac am ataliad yn benodol), ei ail-ddiffiniad o chwenychiad rhywiol, a'i dechneg therapi (gan gynnwys dadansoddi breuddwydion). Mae olion ei waith i'w weld o hyd mewn llenyddiaeth, ffilm, damcaniaethau Marcsaidd a Ffeministaidd, Swrealaeth ac athroniaeth yn ogystal â seicoleg. Er hyn, erys lawer o'i ddamcaniaethau'n ddadleuol iawn.
Tadcu y darllediadwr Clement Freud oedd ef.
Un o'i gydweithwyr agosaf oedd y Cymro Ernest Jones a oedd yn ŵr i Morfudd Llwyn Owen.
Astudiaethau
[golygu | golygu cod]- Harri Pritchard Jones, Freud, Y Meddwl Modern (Gwasg Gee, 1982)