Y Ffliwt Hud

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search




Trafferth chwarae'r these files? Gweler yr Adran Gymorth.

Opera dwy-act gan Wolfgang Amadeus Mozart yw'r Ffliwt Hud (Almaeneg: Die Zauberflöte) a gyfanosoddwyd yn Almaeneg ym 1791 gan Wolfgang Amadeus Mozart. Perfformiwyd yr opera am y tro cyntaf yn y Freihaus-Theater auf der Wieden, Fienna, Awstria, ar 30 Medi 1791. Un o operau enwocaf y byd opera yw hi. Canwyd y prif rôl gan Bryn Terfel a Wynne Evans ymhlith eraill. Yn yr opera ceir caneuon a llefaru, a gelwir y math hwn o opera yn Singspiel.[1]

Rhannau[golygu | golygu cod y dudalen]

Rhan Llais
Tamino tenor
Papageno bariton
Pamina soprano
Brenhines y nos soprano
Sarastro bas
Tair boneddiges 3 soprano
Monostatos tenor
Tri ysbryd plentyn trebl, alto, mezzo-soprano
Llefarydd y deml bas bariton
Tri offeiriad bas, tenor, llefarydd
Papagena soprano
Dau ŵr arfog tenor, bas
Tri chaethwas 2 tenor, bas
Offeiriaid, merched, pobl, caethion, corws

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. Galwyd yr opera gan Mozart ei hun yn Singspiel (Berger and Foil 2007:11).