Morfydd Llwyn Owen
Morfydd Llwyn Owen | |
---|---|
![]() | |
Ganwyd | 1 Hydref 1891 ![]() Trefforest ![]() |
Bu farw | 7 Medi 1918 ![]() o clorofform ![]() Abertawe ![]() |
Dinasyddiaeth | ![]() |
Alma mater | |
Galwedigaeth | canwr, cyfansoddwr ![]() |
Arddull | opera ![]() |
Math o lais | mezzo-soprano ![]() |
Priod | Ernest Jones ![]() |
Cantores, pianydd a chyfansoddwraig o Gymru oedd Morfydd Llwyn Owen (1 Hydref 1891 – 7 Medi 1918). Cafodd ei geni yn Nhrefforest, Sir Forgannwg.
Dyddiau cynnar
[golygu | golygu cod]Roedd yn ferch gerddorol yn gynnar iawn yn ei hoes a phan oedd yn 16 oed dechreuodd astudio'r piano a chyfansoddi gyda David Evans. Mynychodd Ysgol Ganolradd Pontypridd cyn cael ei derbyn i Brifysgol Caerdydd, gan ennill ysgoloriaeth gerddorol "Caradog" 1909-12 a graddio mewn cerddoriaeth yn 1912.[1]
Symudodd i Lundain i astudio dan Frederick Corder yn yr Academi Frenhinol ar ennill ysgoloriaeth Goring Thomas, 1913-7 gan ennill clod a nifer o wobrwyon am ganu a chyfansoddi.
Priododd y seiciatrydd Ernest Jones ar 6 Chwefror 1917, sef bywgraffydd swyddogol a chyfaill Sigmund Freud.[2]
Cerddoriaeth
[golygu | golygu cod]Ymysg ei chyfansoddiadau ceir gweithiau i gerddorfau, corau, unawdau piano a cheir ymdeimlad personol drwy lawer o'i gwaith.
Seiliodd lawer o'i gwaith ar ganeuon gwerin a llenyddiaeth Cymru. Ymhlith ei chyfansoddiadau mwyaf nodedig y mae Gweddi Pechadur, To our Lady of Sorrows a Slumber Song of the Madonna ac yn enghreifftiau o'i hathrylith; mae'r tair, a'r dôn gynulleidfaol 'William' wedi ennill eu plwyf yng Nghymru ers blynyddoedd.
Teledu
[golygu | golygu cod]Bu pennod ar hanes bywyd Morfydd Llwyn Owen ar S4C wedi ei chyflwyno gan Ffion Hague fel rhan o'r gyfres, Mamwlad ar ddarlledwyd yn 2016.[3] Gwnaed rhaglen drama ddogfen arni yn 2003.[4] Cafwyd rhaglen arall arni yn 2018.[5]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Y Bywgraffiadur Cymreig Arlein; Llyfrgell Genedlaethol Cymru; adalwyd 6 Chwefror 2017.
- ↑ Hafina Clwyd, Rhywbeth Bob Dydd (Gwasg Carreg Gwalch, 2008)
- ↑ https://www.bbc.co.uk/programmes/p03l91h9
- ↑ https://www.bbc.co.uk/programmes/p06jf0cg
- ↑ https://twitter.com/s4c/status/1073559846308454400