Brian Stowell

Oddi ar Wicipedia
Brian Stowell
GanwydThomas Brian Stowell Edit this on Wikidata
6 Medi 1936 Edit this on Wikidata
Douglas Edit this on Wikidata
Bu farw18 Ionawr 2019 Edit this on Wikidata
Douglas Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Ynys Manaw Ynys Manaw
Alma mater
Galwedigaethysgrifennwr, cyflwynydd radio, darlithydd, ffisegydd Edit this on Wikidata

Roedd Thomas Brian Stowell (6 Medi 193618 Ionawr 2019 ) yn bersonoliaeth radio, ieithydd, ffisegydd ac awdur Manawaidd . Roedd yn gyn Yn Lhaihder (Darllenydd) y Tynwald, Senedd Ynys Manaw.  Ystyrir ef yn un o'r bobl blaenaf yn yr ymgyrch dros adfywiad yr iaith Manaweg.[1]

Cefndir[golygu | golygu cod]

Ganwyd Stowell yn Douglas ym 1936. Derbyniodd ei addysg yn Ysgol Uwchradd Douglas a Phrifysgol Lerpwl, lle dderbyniodd gradd mewn ffiseg niwclear.

Yn ei arddegau darllenodd traethawd gan Douglas Faragher a oedd yn gofidio bod y Fanaweg yn cael ei hanwybyddu. Penderfynodd rhoi gais ar ddysgu'r iaith a mynychodd ysgol nos, lle mae ef oedd yr unig ddisgybl. Bu'n cynorthwyo Faragher i recordio'r ychydig o siaradwyr cynhenid a oedd dal yn fyw. Wrth wneud y recordiadau daeth yn rhugl yn yr iaith lafar.[2]

Gyrfa[golygu | golygu cod]

Wedi ymadael a'r brifysgol arhosodd ar lannau Merswy i weithio fel darlithydd ffiseg ac i ennill doethuriaeth mewn ffiseg gymhwysol. Yn ystod y cyfnod hwn bu'n ymweld ag Ynys Manaw yn rheolaidd ac yn parhau i hyrwyddo'r iaith. Ym 1979 cafodd gais gan weinidog addysg y Tynwald i baratoi cwrs dysgu Manaweg. Dychwelodd i Ynys Manaw ym 1991 wedi iddo gael ei benodi yn ddeiliad cyntaf swydd Swyddog yr Iaith Manaweg yn yr Adran Addysg. Bu'n gyfrifol am gyflwyno'r Fanaweg i ysgolion yr ynys. Bu'r galw am rywfaint o addysg Manaweg yn ysgubol gyda thua 40% o ddisgyblion ysgolion cynradd a 10% o ddisgyblion uwchradd yn derbyn gwersi.[2]

Ysgrifennodd Stowell nifer o gyrsiau Manaweg a chyhoeddodd nifer o erthyglau yn ymwneud â materion Manawaidd a Cheltaidd. Roedd yn gyfieithydd lluosog mewn amrywiaeth o gyfryngau, ac mae'n arbennig o adnabyddus am ei gyfieithiad o Anturiaethau Alys yng Ngwlad Hud (Contoyryssyn Ealish ayns Cheer ny Yindyssyn). Roedd yn aelod o'r Pwyllgor Darlledu Gaeleg, a bu'n cyflwyno sioe radio ac eitemau newyddion Manawaidd a Manaweg ar Radio Manx gan gynnwys bod yn brif gyflwynydd Moghrey Jedoonee (Bore Sul) am dros ugain mlynedd. Yn 2006, cyhoeddodd nofel lawn gyntaf y Fanaweg, Dunveryssyn yn Tooder-Folley (Llofruddiaethau'r Fampir).[1]

Anrhydeddau[golygu | golygu cod]

Gwasanaethodd Stowell fel Yn Lhaihder (Darllenydd) ar Ddydd Tynwald rhwng 2001-2012, rôl sy'n dathlu'r iaith Manaweg ac sy’n ganolog i gadarnhau hunaniaeth Manw a pharhad cysylltiad ffurfiol llywodraeth Manaw a Bryn Tynwald dros nifer fawr o ganrifoedd.[3]

Yn 2008 anrhydeddwyd Dr Stowell gyda gwobr Reih Bleeaney Vanannan (Dewis y Flwyddyn Manaw), prif anrhydedd ddiwylliannol yr ynys am gyfraniadau eithriadol i ddiwylliant Manaw. Yn 2010 enillodd Anrhydedd y Tynwald, prif anrhydedd ddinesig yr ynys.[4]

Cyhoeddiadau[golygu | golygu cod]

  • 1968: Gaelg Trooid Jallooghyn
  • 1973: Chronicle of The Kings of Mann and The Isles / Recortys Reeaghyn Vannin as ny hEllanyn gyda George Broderick
  • 1974: Bunneydys: A Course in Spoken Manx (wedi ei selio ar Buntús Cainte)[5]
  • 1986: Abbyr Shen
  • 1990: Contoyrtyssyn Ealish ayns Çheer ny Yindyssyn
  • 1996: Bun-Choorse Gaelgagh
  • 1996: A Short History of the Manx Language
  • 1998: Y Coorse Mooar
  • 2005: Dunveryssyn yn Tooder-Folley
  • 2006: Ealish ayns Çheer ny Yindyssyn
  • 2010: Contoyrtyssyn Ealish ayns Çheer ny Yindyssyn[6]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 "Dr Brian Stowell (1936-2019) Manx Speaker, Teacher, and Broadcaster". Y Tynwald. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2021-01-13. Cyrchwyd 22 Ionawr 2019.
  2. 2.0 2.1 "First Person: Brian Stowell". Financial Times. 10 Chwefror 2012. Cyrchwyd 22 Ionawr 2019.
  3. "President of Tynwald pays tribute to Dr Brian Stowell RBV TH". Y Tynwald. 21 Ionawr 2019. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2022-01-22. Cyrchwyd 22 Ionawr 2019.
  4. "Tributes paid to Manx Gaelic revival 'pioneer'". BBC. 21 Ionawr 2019. Cyrchwyd 22 Ionawr 2019.
  5. O'Néill, Diarmuid (2005). Rebuilding the Celtic languages. Y Lolfa. t. 403. ISBN 978-0862437237.
  6. Everson, Michael (21 June 2010). "Contoyrtyssyn Ealish ayns Çheer ny Yindyssyn - Alice's Adventures in Wonderland in Manx" (yn Manaweg a Saesneg). Evertype. Cyrchwyd 20 January 2019.CS1 maint: unrecognized language (link)