Ffinan
Gwedd
Ffinan | |
---|---|
Ganwyd | c. 470 Myshall, Iwerddon |
Bu farw | 549, 552 o y pla |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | mynach, athro |
Swydd | abad |
Dydd gŵyl | 12 Rhagfyr |
Mam | Tailech |
- Erthygl am y sant yw hon. Am y bardd canoloesol gweler Crach Ffinant.
Sant Celtaidd oedd Ffinan (hefyd Ffinnan Wynin a ffurfiau tebyg: Finan a Finnian of Clonard mewn rhai llyfrau Saesneg) (6g). Gwyddel oedd ef, ond mae ein gwybodaeth amdano yn ei gysylltu â gogledd Cymru a de'r Alban. Mae ganddo ddwy wylmabsant: 14 Medi a 18 Mawrth.
Dywedir mai Ffinan a sefydlodd eglwys Llanffinan, ar lannau afon Cefni ym Môn. Daeth yn un o ddisgyblion Sant Cyndeyrn ac ymddengys ei fod wedi astudio neu wasanaethu gyda'r sant yn Llanelwy. Yn y flwyddyn 573 gadawodd Lanelwy am yr Alban gyda'i feistr i wneud gwaith cenhadol yn nhir y Pictiaid.
Yn ogystal â Llanffinan yng Nghymru, fe'i cysylltir â Lumphanan yn Swydd Aberdeen, yr Alban.
Ffynhonnell
[golygu | golygu cod]- T. D. Breverton, The Book of Welsh Saints (Cyhoeddiadau Glyn Dŵr, 2000).