Juan de Torquemada
Gwedd
Juan de Torquemada | |
---|---|
Ganwyd | 1388 Valladolid |
Bu farw | 26 Medi 1468 Rhufain |
Dinasyddiaeth | Coron Castilia |
Alma mater | |
Galwedigaeth | offeiriad Catholig, llenor, ffrier |
Swydd | cardinal, camerlengo, Cardinal-esgob Palestrina, Bishop of Ourense, gweinyddwr apostolaidd, bishop of Cadiz, Bishop of Ourense, Cardinal Bishop of Sabina (Vescovio), cardinal-offeiriad, cardinal-offeiriad, abad |
Perthnasau | Tomás de Torquemada |
Cardinal a chlerigwr blaenllaw o Sbaenwr yn y bymthegfed ganrif oedd Juan de Torquemada (1388 – 26 Medi 1468).[1] Fe anwyd ac addysgwyd yn Valladolid. Ei nai oedd yr Arch-chwilyswr Tomás de Torquemada.[2]
Ymunodd ag Urdd y Dominiciaid yn ifanc, gan ragori mewn dysg a duwiolfrydedd. Ym 1415, hebryngodd bennaeth ei urdd i Gyngor Konstanz. Oddi yno aeth i Baris i astudio, gan ennill doethuriaeth yno ym 1423. Bu'n dysgu am beth amser ym Mharis cyn cael ei benodi'n brior yŷ cynta'r Brodyr Dominicaidd yn Valladolid, ac wedyn yn Toledo. Ym 1431 fe alwyd i Rufain gan Bab Eugenius IV a'i wneud yn magister sancti palatii. Bu'n flaenllaw yng Nghyngor Basel, a daeth yn gardinal yn 1439. Bu farw yn Rhufain ym 1468.
Gweithiau
[golygu | golygu cod]- Meditationes, seu Contemplationes devotissimae (Roma, 1467)[2]
- In Gratiani Decretum commentarii (4 cyfrol, Fenis, 1578)
- Expositio brevis et utilis super toto psalterio (Mainz, 1474)
- Quaestiones spirituales super evangelia totius anni (Brixen, 1498)
- Summa ecclesiastica (Salamanca, 1550)
-
Decretum Gratiani, 1727
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Kenneth Meyer Setton (1976). The Papacy and the Levant, 1204-1571 (yn Saesneg). American Philosophical Society. t. 282. ISBN 978-0-87169-127-9.
- ↑ 2.0 2.1 "Meditations, or the Contemplations of the Most Devout". World Digital Library. 1479. Cyrchwyd 2013-09-04.