Catar

Oddi ar Wicipedia
Qatar
Doha, prifddinas Qatar.
ArwyddairBle daw breuddwydion yn fyw Edit this on Wikidata
MathEmirate, gwladwriaeth sofran, gwlad Edit this on Wikidata
PrifddinasDoha Edit this on Wikidata
Poblogaeth2,639,211 Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 1870 Edit this on Wikidata
AnthemAs Salam al Amiri Edit this on Wikidata
Pennaeth llywodraethMohammed bin Abdulrahman Al Thani Edit this on Wikidata
Cylchfa amserUTC+03:00, Asia/Qatar Edit this on Wikidata
Iaith/Ieithoedd
  swyddogol
Arabeg Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynolDe-orllewin Asia, Y Dwyrain Canol, Gulf States Edit this on Wikidata
GwladBaner Qatar Qatar
Arwynebedd11,437 ±1 km² Edit this on Wikidata
Yn ffinio gydaSawdi Arabia, Iran Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau25.26954°N 51.21277°E Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
Corff deddfwriaetholCynulliad Ymgynghorol Qatar Edit this on Wikidata
Swydd pennaeth
  y wladwriaeth
Emir Gwladwriaeth Qatar Edit this on Wikidata
Pennaeth y wladwriaethTamim bin Hamad Al Thani Edit this on Wikidata
Swydd pennaeth
  y Llywodraeth
Prif Weinidog Qatar Edit this on Wikidata
Pennaeth y LlywodraethMohammed bin Abdulrahman Al Thani Edit this on Wikidata
Map
Ariannol
Cyfanswm CMC (GDP)$179,677 million, $237,296 million Edit this on Wikidata
ArianQatari riyal Edit this on Wikidata
Cyfartaledd plant2.026 Edit this on Wikidata
Mynegai Datblygiad Dynol0.855 Edit this on Wikidata

Gwlad yng Ngorllewin Asia yw Catar (Arabeg: قطر ; ˈqɑ̱.tˁɑ̱r), yn swyddogol Gwladwriaeth Catar (Arabeg: دولة قطرDawlaṫ Qatar) a leolir ar orynys ar arfordir gogledd-ddwyreiniol Arabia yn y Dwyrain Canol. Mae'n ffinio â Sawdi Arabia i'r de—ei hunig ffin—ac amgylchynir ei harfordir gan Gwlff Persia. Mae ynys Bahrein yn gorwedd i'r gorllewin, ar ochr draw Gwlff Bahrein. Doha, sy'n gartref i iwch na 80% o drigolion y wlad, ydy'r brifddinas.

Yn 2013 roedd poblogaeth Catar yn 1.8 miliwn; 278,000 o ddinasyddion Qatari ac 1.5 miliwn o alltudion.[1] Yn y cyfrifiad diweddaraf roedd poblogaeth y wlad yn 2,639,211 (2017)[2].

Hanes[golygu | golygu cod]

Yn yr 20g, ar ôl iddi gael ei rheoli gan Ymerodraeth yr Otomaniaid, fe'i rheolwyd gan Brydain nes iddi ddod yn annibynnol yn 1971. Chwaraeodd y teulu Al Thani le blaenllaw yn ei rheolaeth ers canol y 19g, ac mae Catar heddiw dan reolaeth unbeniaethol ei theulu brenhinol; ei harlywydd yw Emir Tamim bin Hamad Al Thani.[3] Wedi Sawdi Arabia, Qatar yw'r gymdeithas mwyaf ceidwadol o aelodau'r مجلس التعاون لدول الخليج العربية (Cyngor Cydweithredol y Gwlff (neu'r GCC)).[4][5]

Crefydd[golygu | golygu cod]

Mae'r rhan fwyaf o Gatariaid yn cadw'n agos iawn i ddehongliad Wahhabi o Islam.<[6][7][7][8][9][10] Cyfraith Sharia yw prif ffynhonnell eu cyfreithiau, yn unol â chyfreithiau eu gwlad.[8][9]

Heddiw[golygu | golygu cod]

Catar yw gwlad gyfoethoca'r byd, yn ôl y pen, gyda thwf uwch nag unrhyw wlad Arabaidd arall. Caiff hefyd ei chydanbod fel 'economi incwm uchel' gan Fanc y Byd.[11][12] Mae ganddi fwy o nwy wrth gefn nag unrhyw wlad arall ar y Ddaear; mae ei chronfa wrth gefn dros 25 biliwn casgen. Oherwydd hyn i gyd, mae dylanwad Catar yn fawr iawn. Yn ystod y Gwanwyn Arabaidd, cefnogodd Catar nifer o grwpiau gwrthryfelgar, yn ariannol a thrwy ei grŵp cyfryngol Al Jazeera.[13][14][15] Qatar fydd yn cynnal Cwpan y Byd FIFA yn 2022, y wlad Arabaidd gyntaf i wneud hynny.[16]

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "Population of Qatar". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2014-04-10. Cyrchwyd Rhagfyr 2013. Check date values in: |accessdate= (help)
  2. https://data.worldbank.org/indicator/SP.POP.TOTL. dyddiad cyrchiad: 8 Ebrill 2019.
  3. "Qatar: regional backwater to global player". BBC News.
  4. "Qatar: Revolution From the Top Down". National Geographic. Cyrchwyd 7 Mawrth 2014.
  5. "For Qatari Women, Change Slow in Coming". ABC News. Cyrchwyd 7 Mawrth 2014.
  6. "Tiny Qatar's growing global clout". BBC.
  7. 7.0 7.1 "Qatar's modern future rubs up against conservative traditions". Reuters. 27 Medi 2012. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2015-09-24. Cyrchwyd 2014-10-11.
  8. 8.0 8.1 "The Permanent Constitution of the State of Qatar". Government of Qatar. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2014-10-06. Cyrchwyd 2014-10-11.
  9. 9.0 9.1 "Constitution of Qatar". According to Article 1: Qatar is an independent Arab country. Islam is its religion and Sharia law is the main source of its legislation.
  10. "Rising power Qatar stirs unease among some Mideast neighbors". Reuters. 12 February 2013. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2015-10-02. Cyrchwyd 13 June 2013.
  11. Beth Greenfield (18 Ebrill 2012). "World's Richest Countries". Forbes. Cyrchwyd 22 Ionawr 2013.
  12. "Indices & Data | Human Development Reports". United Nations Development Programme. 14 Mawrth 2013. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 12 January 2013. Cyrchwyd 27 Mehefin 2013.
  13. Dagher, Sam (17 Hydref 2011). "Tiny Kingdom's Huge Role in Libya Draws Concern". Online.wsj.com. Cyrchwyd 30 Rhagfyr 2013.
  14. "Qatar: Rise of an Underdog". Politicsandpolicy.org. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2017-06-10. Cyrchwyd 30 Rhagfyr 2013.
  15. Ian Black in Tripoli. "Qatar admits sending hundreds of troops to support Libya rebels". Theguardian.com. Cyrchwyd 30 Rhagfyr 2013.
  16. Paul Rhys in Doha. "Blatter reaches out to Arabia". Aljazeera.com. Cyrchwyd 30 Rhagfyr 2013.