Rhyfel Olyniaeth Llydaw
Gwedd
| Enghraifft o: | rhyfel |
|---|---|
| Rhan o | y Rhyfel Can Mlynedd |
| Dechreuwyd | 1341 |
| Daeth i ben | 12 Ebrill 1365 |
| Lleoliad | Llydaw |
| Gwladwriaeth | Dugaeth Llydaw |
| Dynodwyr | |
| Freebase | /M/02zll3 |

Ymladdwyd Rhyfel Olyniaeth Llydaw rhwng 1341 a 1364, rhwng dau deulu oedd yn hawlio gorsedd y ddugiaeth. Ystyrir y rhyfel yn rhan o'r Rhyfel Can Mlynedd (1337-1453) rhwng Ffrainc a Lloegr. Cefnogai brenin Ffrainc Siarl o Blois a'i wraig Jeanne de Penthièvre, tra cefnogai brenin Lloegr Yann Moñforzh a'i wraig Jeanne de Flamme.
Un o ddigwyddiadau'r rhyfel oedd Brwydr y Deg ar Hugain yn 1351. Diweddidd y rhyfel gyda buddugoliaeth i deulu Montfont, pan laddwyd Siarl o Blois ym Mrwydr an Alre a chymeryd Bertrand du Guesclin yn garcharor. Cadarnhawyd ei buddugoliaeth gan Gytundeb Gwenrann.