Teulu Bach Nantoer
| Enghraifft o: | gwaith llenyddol |
|---|---|
| Awdur | Elizabeth Mary Jones (Moelona) |
| Cyhoeddwr | Hughes a'i Fab (1913) Cromen (2013) |
| Gwlad | Cymru |
| Iaith | Cymraeg |
| Dyddiad cyhoeddi | 1913 |
| Pwnc | Cymdeithaseg |
| ISBN | 9781909696082 |
| Genre | Ffuglen |
| Statws hawlfraint | parth cyhoeddus |
| Dynodwyr | |
Nofel i blant gan Elizabeth Mary Jones (Moelona) yw Teulu Bach Nantoer a gyhoeddwyd gyntaf gan Hughes a'i Fab ym 1913.[1]
Cyhoeddwyd 30,000 copi o'r llyfr yn wreiddiol ac ailgyhoeddwyd yn 2013 fel llyfr papur ac elyfr.
Drwy'r llyfr hwn, down i ddeall am feddylfryd Cymry ddechrau 20g: eu gobeithion a'u pryderon am eu hiaith, eu cymuned a'u diwylliant. Er mai teulu tlawd yw Teulu Nantoer, mae'n codi o'r tlodi hwnnw drwy ddisgyblaeth, addysg a theyrngarwch i deulu, cymuned a gwlad. Drwy hyn, trawsnewidir y teulu, sydd, o bosib, yn symbol ehangach o Gymru gyfan. Mae'r nofel, felly, yn ymweneud â meddylfryd Cymry troad yr 20g. Yn ôl y beirniad llenyddol Siwan M. Rosser, mae'n ddarlun rhamantaidd, ar y cyfan, ond yn ail hanner yr 20g collodd y nofel ei hapêl a "thyfodd darlun rhamantaidd Moelona o fywyd teuluol yn fwyfwy amherthnasol a sentimental".[2]
Yn ôl y wefan Gwales (y Cyngor Llyfrau), mae'n "nofel ddirdynnol sy'n... rhan hanfodol o hanes datblygiad llenyddiaeth plant yng Nghymru, a thrwy archwilio'r modd y mae Moelona yn cyfathrebu a'i chynulleidfa ifanc gallwn ddeall cryn dipyn am feddylfryd Cymry ddechrau'r ugeinfed ganrif".[3]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Teulu Bach Nantoer. Llyfrau o'r Gorffennol. Adalwyd ar 8 Medi 2013.
- ↑ cromen.co.uk; Archifwyd 2016-01-20 yn y Peiriant Wayback adalwyd 5 Mehefin 2016
- ↑ gwales.com; adalwyd 5 Mehefin 2016