Cynllwyn 20 Gorffennaf

Oddi ar Wicipedia
Yr ystafell gynhadledd wedi ffrwydrad y bom oedd wedi ei fwriadu i ladd Hitler

Cynllwyn 20 Gorffennaf yw'r term a ddefnyddir am ddigwyddiadau 20 Gorffennaf 1944 yn yr Almaen. Ceisiodd rhai o swyddogion byddin yr Almaen ladd Adolf Hitler a chipio grym oddi ar y Blaid Natsïaidd. Methodd yr ymgais i ladd Hitler, ac o'r herwydd methodd yr ymgais i gipio grym hefyd. Dienyddiwyd nifer o uwch-swyddogion y fyddin ac eraill o ganlyniad.

Roedd sawl ymdrech wedi ei wneud i ladd Hitler cyn yr ymgais ar 20 Gorffennaf. Ffurfiwyd un grŵp o swyddogion oedd yn gwrthwynebu Hilter yn 1938, yn cynnwys y Cadfridogion Hans Oster a Ludwig Beck, a'r Cadlywydd Erwin von Witzleben. Ffurfiwyd grŵp arall gan y Cyrnol Henning von Tresckow yn 1941, a llwyddodd ef i berswadio'r Cadfridog Friedrich Olbricht i ymuno ag ef. Apwyntiwyd Cyrnol Claus Schenk Graf von Stauffenberg yn ddirprwy i Olbricht, a chymerodd ef ran flaenllaw yn y gwaith o gynllunio ymgais i ladd Hitler.

Ar 20 Gorffennaf, roedd Cyrnol von Stauffenberg yn bresennol mewn cynhadledd gyda Hilter ac eraill. Gosododd Stauffenberg fag yn cynnwys bom dan y bwrdd, a gadawodd yr ystafell. Ffrwydrodd y bom, a lladdwyd nifer o bobl, ond ni anafwyd Hitler ei hun. Llwyddodd Stauffenberg i ddychwelyd i Berlin, lle ceisiodd Olbricht, Beck ac yntau weithredu ail ran y cynllun, sef cymeryd cefnogwyr Hitler i'r ddalfa. Methodd hyn, a saethwyd Olbricht a Stauffenberg yn gynnar y bore wedyn, tra caniatawyd i Beck ei saethu ei hun.

Ar y cychwyn, bu'r cynllwynwyr yn fwy llwyddiannus ym Mharis, lle llwyddwyd i gymeryd cefnogwyr Hitler i'r ddalfa. Fodd bynnag, rhyddhawyd hwy pan gadarnhawyd nad oedd Hitler wedi ei ladd. Mae'r digwyddiadau ym Mharis yn ffurfio'r cefndir i ddrama Saunders Lewis, Brad, a ymddangosodd yn 1958.

Ymhlith y cadfridogion eraill oedd a chysylltiad a'r cynllwyn roedd Erwin Rommel. Pan ddaeth ei ran ef yn wybyddus, gorfodwyd ef i'w ladd ei hun.