Brwydr Kursk

Oddi ar Wicipedia
Brwydr Kursk
Enghraifft o'r canlynolbrwydr Edit this on Wikidata
Dyddiad1943 Edit this on Wikidata
Rhan oY Ffrynt Dwyreiniol, Eastern European theatre of World War II, yr Ail Ryfel Byd Edit this on Wikidata
Dechreuwyd5 Gorffennaf 1943 Edit this on Wikidata
Daeth i ben23 Awst 1943 Edit this on Wikidata
LleoliadKursk Edit this on Wikidata
Yn cynnwysOperation Citadel, Operation Kutuzov, Belgorod–Kharkov offensive operation Edit this on Wikidata
Map
GwladwriaethYr Undeb Sofietaidd Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Tanciau ym Mrwydr Kursk

Un o frwydrau allweddol yr Ail Ryfel Byd oedd Brwydr Kursk. Hi oedd y frwydr danciau fwyaf erioed, ac yn ystod y frwydr yma y cafwyd y colledion mwyaf mewn un diwrnod mewn brwydr awyr.

Ymladdwyd y frwydr o 4 Gorffennaf hyd 22 Gorffennaf 1943, rhwng byddin yr Almaen a byddin yr Undeb Sofietaidd, gerllaw dinas Kursk yn Oblast Kursk, Rwsia. Roedd gan yr Almaenwyr tua 800,000 o droedfilwyr, 3,000 o danciau a 2,000 o awyrennau, tra'r oedd gan y Fyddin Goch tua 1,3000,000 o droedfilwyr, 3,600 o danciau a 2,400 o awyrennau.

Roedd y frwydr yn rhan o ymosodiad strategol byddin yr Almaen. Er i'r Fyddin Goch ddioddef mwy o golledion na'r Almaenwyr, methodd yr ymosodiad a thorri trwy eu llinellau amddiffynnol. Dyma'r tro olaf i fyddin yr Almaen fedru ymosod yn strategol ar raddfa fawr ar y ffrynt dwyreiniol, ac o hyn ymlaen fe'u gorfodwyd i encilio yn raddol. Gellir felly ystyried Kursk yn un o drobwyntau yr Ail Ryfel Byd.