Sant Cennydd

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Sant Cennydd
LLangennith church.JPG
Ganwyd Casllwchwr Edit this on Wikidata
Bu farw Armorica Edit this on Wikidata
Dinasyddiaeth Baner Cymru Cymru
Galwedigaeth meudwy Edit this on Wikidata
Blodeuodd 6G Edit this on Wikidata
Cysylltir gyda Llangynydd, Langedig Edit this on Wikidata
Dydd gŵyl 5 Gorffennaf Edit this on Wikidata

Roedd Sant Cennydd (Saesneg: Cenydd neu Kenneth; Ffrangeg: Kinède; bl tua'r 6g), yn feudwy Cristnogol ar Benrhyn Gŵyr, lle mae'n cael ei gysylltu â sefydly'r eglwys yn Llangynydd. Yn Llydaw, mae'n gysylltiedig yn bennaf â Langedig, mae capel wedi ei noddi iddo yn Ploveilh hefyd.

Chwedl[golygu | golygu cod y dudalen]

Mae calendrau litwrgaidd a thystiolaeth enwau lleoedd yn awgrymu bodolaeth hanesyddol gŵr sanctaidd o'r enw Cennydd yn y 6g; ond mae'r hanesion amdano, fodd bynnag, yn rhy hwyr ac yn rhy amlwg deilliadol i ddibynnu arnynt. Yn ôl y ffynonellau Cymreig a gasglwyd yn y 15g gan John Capgrave a gyhoeddwyd yn y Nova Legenda Angliae, roedd Cennydd yn dywysog Llydewig, yn fab i "Brenin Dihoc" (yn ôl pob tebyg Deroch II Domnonée), a aned o losgach yng Nghasllwchwr, Morgannwg tra fo ei dad yn ymweld â'r Brenin Arthur.

Gannwyd Cennydd yn anabl, a gan fod hynny yn cael ei ystyried yn warth ar deulu brenhinol ceisiwyd cael gwared o honno drwy ei roi mewn crud a wnaed o helygen a'i ollwng i ddŵr yr Afon Llwchwr . Glaniodd y crud ar Ben Pyrod. Cafodd ei fagu gan wylanod ac angylion gyda chloch wyrthiol siâp y fron gan sicrhau ei fod yn goroesi a chael ei fagu'n Gristion.

Daeth yn feudwy yn gwario ei ddyddiau yn gweddïo ar Benrhyn Gwyr. Ym 545 cafodd ei anabledd ei wella gan Dewi Sant wrth deithio i synod Llanddewibrefi ond roedd yn well ganddo aros fel cafodd gael ei eni a gweddïodd am i'w wendid cael ei hadfer.

Ddydd gŵyl[golygu | golygu cod y dudalen]

Mae ddydd gŵyl Cenydd yn cael ei ddathlu yn Llangynydd ar 5 Gorffennaf. Hyd at ddechrau'r 20g roedd yr ŵyl yn cael ei nodi yn draddodiadol trwy arddangos delw o aderyn ar dwr yr eglwys, yn symbol o'r adar chwedlonol oedd yn gofalu am Cennydd yn ei fabanod, a bwyta pwdin teth Cennydd, cymysgedd o flawd, llaeth, siwgr a ffrwythau i gynrychioli'r bwyd a rhoddwyd iddo gan yr angylion.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]