Bicini (dilledyn)

Oddi ar Wicipedia
Bicini
Bicini
Am enghreifftiau eraill o'r enw gweler Bicini (gwahaniaethu).

Math o ddilledyn mewn dau ddarn sy'n gadael i'r bol ddangos ac a wisgir fel dilledyn nofio gan ferched yw'r bicini, a elwir hefyd yn 'gostiwm nofio dau ddarn' weithiau. Mae'r darn uchaf yn gorchuddio'r bronnau a rhan o'r cefn ac yn debyg i fra. Mae'r darn isaf yn gorchuddio'r piwbis o leiaf a'r ffolennau hefyd fel rheol; o ran ei ffurf mae'n debyg i nicyrs.

Dyfeisiwyd y bicini gan Louis Réard a ddangosodd y dilledyn newydd i'r byd yn y pwll mofio Molitor ym Mharis ar 5 Gorffennaf 1946, gyda'r ddawnsferch enwog Micheline Bernardini o'r Casino de Paris yn ei wisgo. Yn ôl Réard, dewisodd yr enw Bicini ar ôl Atol Bikini yn Micronesia lle cynhaliwyd prawf niwclear pum diwrnod cyn hynny; roedd yn gobeithio y byddai'r dilledyn newydd ffasiynol yn cael effaith debyg i'r ffrwydrad hwnnw ac yn newid y byd am byth.

Datganodd, gan fwyseirio'r enw : "le bikini, la première bombe an-atomique!" ("Y bicini - y bom an-atomig cyntaf!).

"Bicini" Rhufeinig

Cofrestrodd Louis Réard ei ddilledyn newydd a'r enw. Ond mewn gwirionedd roedd dilledyn tebyg iawn i'r bicini yn cael ei ddefnyddio yn yr Henfyd, bron i ddwy fil o flynyddoedd yn ôl. Yn y Villa de Casale yn Sisili. o'r 1920au ymlaen, roedd archaeolegwyr wedi darganfod cyfres o luniau mosaic yn dangos merched ifainc yn gwisgo bicinis wrth chwarae.

Wynebodd y bicini gryn wrthwynebiad ar seiliau moesol a chrefyddol ar y dechrau. Ail-lawnsiwyd y bicini ar ddechrau'r 1960au. Gyda ffilmiau poblogaidd fel Et Dieu crea la femme, yn serenu Brigitte Bardot mewn bicinis beiddgar iawn am y cyfnod, daeth y bicini yn rhan o'r diwylliant poblogaidd yn y Gorllewin. Er iddo ddal i fod yn annerbyniol mewn rhai gwledydd mae'r bicini wedi hen ennill ei blwyf yn y rhan fwyaf o'r byd datblygedig ac mae'n olygfa cyfarwydd ar y traeth.

Erbyn heddiw ceir sawl amrywiad ar y bicini traddodiadol, yn cynnwys y meicroficini un darn a'r bicini Brasilaidd.