Brigitte Bardot
Brigitte Bardot | |
---|---|
![]() | |
Ganwyd | Brigitte Anne-Marie Bardot ![]() 28 Medi 1934 ![]() Paris ![]() |
Man preswyl | Paris, Seine-Saint-Denis ![]() |
Label recordio | MGM Records, Philips Records ![]() |
Dinasyddiaeth | Ffrainc ![]() |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | canwr, hunangofiannydd, actor ffilm, ymgyrchydd dros hawliau anifeiliaid, artist recordio, dawnsiwr, model ffasiwn, ysgrifennwr, amddiffynwr hawliau dynol, person cyhoeddus, actor ![]() |
Taldra | 166 centimetr ![]() |
Tad | Louis Bardot ![]() |
Mam | Anne-Marie Mucel ![]() |
Priod | Roger Vadim, Jacques Charrier, Gunter Sachs, Bernard d'Ormale ![]() |
Partner | Gilbert Bécaud, Serge Gainsbourg ![]() |
Plant | Nicolas-Jacques Charrier ![]() |
Gwobr/au | Gwobr Bambi, Order of the Golden Ark, Prix des intellectuels indépendants, Légion d'honneur, David di Donatello ![]() |
Gwefan | https://www.fondationbrigittebardot.fr/ ![]() |
llofnod | |
![]() |
Actores Ffrengig ac ymgyrchydd dros hawliau anifeiliaid yw Brigitte Anne-Marie Bardot, a adnabyddir fel rheol fel Brigitte Bardot (ganed 28 Medi 1934).
Ganed hi yn ninas Paris. Gyrrodd ei mam hi a'i chwaer Marie-Jeanne i wersi dawnsio. a phenderfynodd Brigitte fynd yn ddawnswraig bale. Aeth i'r Conservatoire de Paris yn 1947, ac astudiodd fale dan y Rwsiad Boris Knyazev. Wedi gadael y Conservatoire, daeth yn fodel, yna cafodd ran mewn ffilm wedi i'r cyfarwyddwr Roger Vadim sylwi arni. Ymddangosodd yn ei ffilm gyntaf, Le Trou Normand, yn 1952, a'r un flwyddyn priododd Vadim.
Yn y 1950au a'r 1960au, ymddangosodd mewn nifer fawr o ffilmiau, yn Ffrangeg a Saesneg, a daeth yn fyd-enwog. Mewn ffilmiau poblogaidd fel Et Dieu crea la femme, gwnaeth lawer i boblogeiddio'r bicini. Ysgarodd Vadim yn 1957, ac yn 1959 priododd yr actor Jacques Charrier. Yn ddiweddarach, bu'n briod a Gunter Sachs a Bernard d'Ormale.
Ymddeolodd o ffilmiau yn y 1970au. Yn y 1990au daeth Bardot yn adnabyddus fel ymgyrchydd dros hawliau anifeiliaid, a daeth hyn a hi i wrthdrawiad ag Islam. Mae wedi cael ei dirwyo nifer o weithiau am sylwadau a ystyrid yn hiliol.[1][2]
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]
- ↑ (Saesneg) Bardot fined for racist remarks. BBC (16 Mehefin 2000). Adalwyd ar 1 Mawrth 2012.
- ↑ (Saesneg) Bardot fined over racial hatred. BBC (3 Mehefin 2008). Adalwyd ar 1 Mawrth 2012.