Casino de Paris
Math | neuadd gyngerdd, adeilad digwyddiadau |
---|---|
Sefydlwyd | |
Daearyddiaeth | |
Sir | 9fed bwrdeistref Paris |
Gwlad | Ffrainc |
Cyfesurynnau | 48.878358°N 2.330117°E |
Statws treftadaeth | heneb hanesyddol cofrestredig |
Manylion | |
Theatr a neuadd ddawns hanesyddol ym Mharis, prifddinas Ffrainc, sydd â lle arbennig yn hanes diwylliant poblogaidd y ddinas honno, yw'r Casino de Paris. Daeth yn enwog am ei révues gyda dawnswyr ecsotig noeth a sioeau ysblennydd ac fel llwyfan i artistiaid theatr o bob math, yn cynnwys y gantores Joséphine Baker, la Vénus noire ('Y Wener Ddu'), a ymddangosodd yno am 13 mis yn 1930-31.
Codwyd yr adeilad presennol yn 1880 ar safle a gafodd ei datblygu o tua 1730 ymlaen fel man adloniant a hamdden. Gyda theatrau eraill fel y Moulin Rouge, daeth yn un o brif ganolfannau bywyd artistaidd Bohemaidd a ffasiynol y ddinas.
Dewisodd dyfeisiwr y bicini, Louis Réard, ddangos y dilledyn newydd i'r byd yn y pwll mofio Molitor ym Mharis ar 5 Gorffennaf 1946, gyda'r ddawnsferch enwog Micheline Bernardini o'r Casino de Paris yn ei wisgo.
Erbyn heddiw, ar ôl cael ei chau am gyfnod a chael ei thrawsnewid sawl gwaith, mae'r Casino de Paris yn cael ei ddefnyddio fel feniw i gyngherddau o bob math.
Dolen allanol
[golygu | golygu cod]- (Ffrangeg) Gwefan swyddogol