Diwylliant poblogaidd

Oddi ar Wicipedia

Elfennau diwylliannol mewn cymdeithas a fytholir trwy iaith frodorol neu lingua franca'r gymdeithas yw diwylliant poblogaidd. Mae'n cynnwys rhyngweithiadau, anghenion a dymuniadau dyddiol a'r "enydau" diwylliannol sy'n gwneud bywydau pob dydd y prif ffrwd. Gall cynnwys nifer o arferion, yn cynnwys y rhai sy'n ymwneud â choginio, dillad, treuliant, cyfryngau torfol a'r nifer o wynebweddau adloniant megis chwaraeon a llenyddiaeth. (Cymharwch â meme.) Yn aml mae diwylliant poblogaidd yn cyferbynnu â "diwylliant uchel" mwy gyfyngedig, hyd yn oed elitaidd, h.y. diwylliant y grwpiau cymdeithasol llywodraethol.

Mynegir diwylliant poblogaidd mewn cylchrediad torfol eitemau o feysydd megis ffasiwn, cerddoriaeth, chwaraeon a ffilm. Mae byd diwylliant poblogaidd wedi cael effaith neilltuol ar gelf o'r 1960au ymlaen, trwy gelf bop. Pan ddechreuodd diwylliant poblogaidd modern yn y 1950au, daeth yn anoddach i oedolion cymryd rhan. Heddiw, mae'r mwyafrif o oedolion, eu plant a'u wyrion yn "cyfrannu" at ddiwylliant poblogaidd yn uniongyrchol neu'n anuniongyrchol.