Atol Bikini

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Atol Bikini
Bikini Atoll 2001-01-14, Landsat 7 ETM+, bands 3-2-1-8.png
Math Atol, endid tiriogaethol gweinyddol Edit this on Wikidata
Cylchfa amser UTC+12:00 Edit this on Wikidata
Gefeilldref/i Keelung Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Sir Ynysoedd Marshall, Bikini Atoll Edit this on Wikidata
Gwlad Baner Ynysoedd Marshall Ynysoedd Marshall
Arwynebedd 6 km², 73,500 ha, 130,425 ha Edit this on Wikidata
Uwch y môr 25 metr Edit this on Wikidata
Gerllaw Y Cefnfor Tawel Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau 11.58°N 165.38°E Edit this on Wikidata
Manylion
Statws treftadaeth Safle Treftadaeth y Byd Edit this on Wikidata
Am enghreifftiau eraill o'r gair bikini, gweler Bicini.

Ynys 6 km ² heb drigolion arni bellach yn ynysoedd Micronesia yn y Cefnfor Tawel yw Atol Bikini (Saesneg: Bikini Atoll; hefyd Pikinni Atoll). Mae'r atol yn perthyn i Ynysoedd Marshall. Fe'i ffurfir o 36 ynys lai sy'n amgylchu lagŵn 594.2 km². Mae'n eiddo i Unol Daleithiau America. Fel rhan o Dir Arbrofi y Cefnfor Tawel, defnyddwyd Bicini fel safle i wneud 20 prawf arfau niwclear o 1946 hyd 1958, gan gynnwys y prawf cyntaf o fom hydrogen ymarferol yn 1954.

Cafodd yr atol ei henwi gan y fforwr Otto von Kotzebue yn Bikini Atoll Eschscholtz Atoll ar ôl y gwyddonydd Johann Friedrich von Eschscholtz.

Cyn dechrau'r arbofion niwclear roedd grŵp o bobl brodorol yn byw ar yr ynys. Bu rhaid iddyn nhw symud i Atol Rongerik cyn i'r prawf cyntaf gael ei gynnal ym mis Gorffennaf 1946. Ar ddiwedd y 1960au a dechrau'r 1970au, dychwelodd rhai o'r trigolion gwreiddiol i'r ynys o Ynys Kili ond fe'u gorfodwyd i symud oddi yno eto oherwydd y lefelau uchel o ymbelydredd.

Prawf atomig ar Atol Bikini
Oceania-map 1-41000000.jpg Eginyn erthygl sydd uchod am Oceania. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.