William Ambrose Bebb

Oddi ar Wicipedia
William Ambrose Bebb
Ganwyd4 Gorffennaf 1894 Edit this on Wikidata
Goginan Edit this on Wikidata
Bu farw27 Ebrill 1955 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
  • Tregaron Grammer School Edit this on Wikidata
Galwedigaethhanesydd, gwleidydd Edit this on Wikidata
PlantLowri Williams, Dewi Bebb Edit this on Wikidata
Cofiant Bebb a seiliwyd ar ddyddiaduron a phapurau teuluol eraill gan Robin Chapman

Gwleidydd, llenor a hanesydd Cymreig oedd William Ambrose Bebb (4 Gorffennaf 189427 Ebrill 1955); roedd yn awdur nifer o lyfrau Cymraeg (gweler isod) ac yn gyd-sefydlydd Plaid Cymru. Safodd ar ran y Blaid yn Etholiad 1945 a daeth yn drydydd.[1] Yn 1939 enillodd sedd ar Gyngor Dinas Bangor, fel aelod o Blaid Cymru a bu'n sefydlydd ac yn olygydd cylchgrawn y Blaid: Y Ddraig Goch yn ogystal â bod yn un o'i harweinwyr.

Roedd yn dad y chwaraewr rygbi Dewi Bebb. Mae'r gwleidydd Ceidwadol Guto Bebb yn wŷr iddo.

Magwraeth[golygu | golygu cod]

Cafodd ei eni ym Mlaendyffryn, Goginan, Ceredigion i deulu o ffermwyr, ac yn fab i'r dyddiadurwr [angen ffynhonnell] Edward Hughes Bebb ac Ann ei wraig. Symudodd y teulu i "Gamer Fawr", Tregaron ble'r aeth i'r ysgol, gan gychwyn yn yr ysgol uwchradd ym Medi 1908.[2]

Priododd Eluned Pierce Roberts yn 1931, merch o Langadfan Powys a bu iddynt saith o blant.

Addysg[golygu | golygu cod]

Wedi cyfnod yn Ysgol Uwchradd Tregaron, mynychodd Coleg Prifysgol Cymru, Aberystwyth lle graddiodd yn y Gymraeg a hanes a gradd Meistr yn dilyn hynny.

Yn Aberystwyth y blagurodd ei agwedd genedlaetholgar gref. Bu'n olygydd Y Wawr, sef cylchgrawn gan y myfyrwyr a meiddiodd ddadlau achos Gwrthryfel y Pasg, 1916, yn Iwerddon, a chefnogi'r rhai oedd yn gwrthod mynd i'r lluoedd arfog ar dir cydwybod. Roedd hyn yn ddewr, o gofio cyd-destun y gweithgarwch hwn: y Rhyfel Byd Cyntaf. Gwaharddwyd y cylchgrawn gan awdurdodau'r coleg.

Yn 1920 ymwelodd â Llydaw am y tro cyntaf, profiad a drysorodd ac a wnaeth argraff arno am weddill ei oes. Dechreuodd astudio ym Mhrifysgol Rennes ond gadawodd wedi ychydig wythnosau oherwydd prinder adnoddau a chefnogaeth a daliodd y trên i Baris lle y bu'n fyfyriwr ac yn ddarlithydd yn y Collège de France yn y Sorbonne.[3] Arwyddair y Collège oedd Docet Omnia, sef y Lladin am "Dysgir popeth", a'i amcan oedd (fel y dywedodd Maurice Merleau-Ponty): "Nid y gwirioneddau ond yr hawl i'w hymchwilio."[4] Bu Bebb ym Mharis am dair blynedd. Yno hefyd y dylanwadwyd arno gan aelodau o fudiad asgell dde L'Action Française - gan bobl fel Léon Daudet a Charles-Marie-Photius Maurras.

Tra roedd yn darlithio ym Mharis cyhoeddodd erthyglau gwleidyddol yn Y Llenor, Y Geninen, Y Faner, Tyst a'r cylchgrawn Cymru yn trafod dyfodol y Gymraeg a Chymru, ac mor gynnar ag 1923 dangosodd fod ymreolaeth yn angenrheidiol. Gosododd gynsail i sefydlu Plaid Genedlaethol Cymru (sef Plaid Cymru) ym Mhwllheli yn Awst 1925. Ym Mehefin 1926 sefydlwyd llais i'r blaid newydd: Y Ddraig Goch. Erthygl gan Bebb oedd ar dudalen cyntaf y rhifyn cyntaf, a Bebb oedd golygydd ar y rhifynnau cynnar; bu'n aelod o'r bwrdd golygyddol hefyd.

Gadawodd Ffrainc yn 1925 a dychwelodd i Gymru lle y bu'n darlithio Cymraeg, hanes ac ysgrythur yng Ngholeg y Normal, Bangor.

Y llenor[golygu | golygu cod]

Graddiodd mewn Cymraeg a hanes ac mae'r ddwy thema'n cyfrodeddu drwy ei waith; ar adegau, fel gyda'r nofel hanesyddol Calendr coch (1946), mae'n anodd gwybod ai hanes ffeithiol ynteu dychmygol sydd yma. Gogoniant y llyfrau hyn yw eu natur 'diamser' - sy'n eu codi'n uwch na llawer o lyfrau'r cyfnod ac yn parhau heddiw i fod mor afaelgar a phan cawsant eu hysgrifennu.

Roedd yn arbennig o hoff o Ffrainc, hefyd, yn enwedig o ran ei diwylliant a'i meddwl agored, gwlad a oedd wedi cyfrannu gymaint i wareiddiad Ewrop ac ysgrifennodd Bebb yn helaeth amdani. Fe'i carodd yn angerddol, a'i chasau yr un pryd am y ffordd roedd wedi trin y Llydawyr.

Yn ôl Saunders Lewis a ysgrifennodd amdano yn y Bywgraffiadur Cymreig: Byddai'n defnyddio geiriau llafar ei dafodiaith ef ei hun yn helaeth, ac yn cyfosod geiriau, a'r rheini'n fynych wedi eu cyflythrennu, nes creu'r argraff o afiaith a bwrlwm, a'r cyfan o ran y pleser o ysgrifennu neu er mwyn cyfleu ei neges, boed honno'n ddisgrifiad o ddarn o wlad neu'n fynegiant o ryw egwyddor bwysig y mynnai ef ei gosod yn ddiogel ym meddyliau ei ddarllenwyr. Dywedodd y beirniad llenyddol Robin Chapman amdano mai cymwynas fawr Bebb oedd "poblogeiddio hanes Cymru i'r darllenydd cyffredin".[5]

Llydaw[golygu | golygu cod]

Ers 1920 roedd Bebb wedi syrthio mewn cariad gyda Llydaw ac ymwelodd â hi droeon wedi hynny. Dysgodd y Llydaweg a daeth yn gyfaill agos i nifer o Lydawyr. Cyfrannodd lawer o erthyglau i'r cylchgrawn cenedlaetholgar Breiz Atao a ffrwyth y llafur hwn o'i hadnabod mor drylwyr oedd tri llyfr: Llydaw (1929), Pererindodau (1941) a Dydd-lyfr pythefnos (1939), sef hanes ei daith trwy Lydaw yn ystod y pythefnos olaf cyn dechrau'r Ail Ryfel Byd.

Cyflwr y genedl[golygu | golygu cod]

Wrth i'r Ail Ryfel Byd ddod i ben, trodd ei syniadaeth o genedlaetholdeb iaith a diwyddliant i'w chyflwr ysbrydol. Trodd gobaith y genedl o'r Blaid i'r Ysgol Sul a gwelir hyn yn glir mewn cyfres o erthyglau a gyhoeddodd yn Yr Herald Cymraeg yn 1953 (a'u hatgynhyrchu yn Yr Argyfwng yn 1955. Mae'n bosibl mai mynd yn hŷn oedd yn gyfrifol am y newid meddwl hwn yn ogystal â gweld y newid cymdeithasol arswydus a ddilynodd y Rhyfel. Mae'n bosib hefyd mai'r hyn a'i ffrwynodd ac a'i fygodd yn bennaf oedd adwaith yr Awdurdodau i'w lyfrau ar Lydaw.

Cyhoeddiadau[golygu | golygu cod]

  • Llydaw (1929)
  • Crwydro'r Cyfandir (1936)
  • Y Ddeddf Uno, 1536 (1937)
  • Pererindoddau (1941)
  • Machlud yr Oesoedd Canol (1951)
  • Machlud y Mynachlogydd
  • Y Baradwys bell (1941) - dyddiadur dychmygol un o'i hynafiaid yn y flwyddyn 1841
  • Gadael tir (1948) - dilyniant i'r Baradwys Bell ble gwelir yr un cymeriad yn ymfudo i America yn 1847
  • Dial y tir (1945) - nofel am nifer o wŷr a gwragedd o Faldwyn a ymfudodd i America yn niwedd y 18fed a'r 19g
  • Lloffion o ddyddiadur (1941)
  • Dyddlyfr 1941 (1942)
  • Calendr coch (1946), cofnod o'i ymgyrch fel ymgeisydd seneddol dros Blaid Cymru yn 1945.

Cyfieithiadau o'r Ffrangeg[golygu | golygu cod]

  • Mudandod y môr gan Vercors (1944)
  • Geiriau Credadun (gan Hugues Félicité Robert de Lamennais) (1921).

Astudiaethau[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Y Bywgraffiadur Cymreig Ar-lein; Gwefan Llyfrgell Genedlaethol Cymru; adalwyd 28 Ebrill 2015
  2. "E. Wyn James, '"Gweld gwlad fawr yn ymagor": Breuddwyd Cyffrous G. J. Williams a Saunders Lewis' - sy'n trafod dylanwad S. M. Powell ac Ysgol Tregaron ar rai o arweinwyr cynnar Plaid Cymru".
  3. Gwyddoniadur Cymru; Gwasg Prifysgol Cymru; 2008
  4. "Non pas des vérités acquises, mais l'idée d'une recherche libre". Mae'r frawddeg gyflawn, sydd wedi'i hysgrifennu mewn llythrynnau aur ar wal Neuadd y Coleg yn mynegi: "Ce que le Collège de France, depuis sa fondation, est chargé de donner à ses auditeurs, ce ne sont pas des vérités acquises, c'est l'idée d'une recherche libre." Cofnodwyd o ddarlith gan Merleau-Ponty yn y Collège de France, yn: Maurice Merleau-Ponty, Éloge de la philosophie et autres essais, Paris: Gallimard, 1989, tud. 13.
  5. www.tumblr.com; adalwyd 29 Ebrill 2015

[[Categori:Llenorion teithio Cymreig yr 20fed ganrif]