Thomas Jones (mathemategydd)
| Thomas Jones | |
|---|---|
| Ganwyd | 23 Mehefin 1756 Aberriw |
| Bu farw | 18 Gorffennaf 1807 Edgware Road |
| Man preswyl | Caergrawnt |
| Dinasyddiaeth | |
| Alma mater | |
| Ymgynghorydd y doethor | |
| Galwedigaeth | mathemategydd, gweinidog yr Efengyl, academydd |
- Am bobl eraill o'r un enw, gweler Thomas Jones.
Thomas Jones (23 Mehefin 1756 – 18 Gorffennaf 1807) oedd Prif Diwtor Coleg y Drindod, Caergrawnt, am ugain mlynedd ac athro mathemateg enwog yn ei ddydd. Fe'i cofir yn bennaf heddiw fel athro'r daearegwr Adam Sedgwick.
Geni a magwraeth
[golygu | golygu cod]Credir ei fod yn fab llwyn a pherth Owen Owen Tyn y Coed, a'i forwyn. Ychydig wedyn priododd y forwyn gyda Mr Jones o Traffin, Swydd Kerry ac a fagodd Thomas Jones fel petae'n fab iddo'i hun.[1]
Coleg a gyrfa
[golygu | golygu cod]Roedd yn frodor o Aberriw, Sir Drefaldwyn. Wedi cwbwlhau ei astudiaethau yn yr ysgol uwchradd yn yr Amwythig, cafodd ei dderbyn yng Ngholeg Sant Ioan, Caergrawnt a chychwynodd yno ar 28 Mai 1774.[1]
Ar 27 Mehefin 1776, symudodd Jones o Goleg Sant Ioan i Goleg y Drindod, Caergrawnt, gan dderbyn gradd BA yn 1779 ac MA yn 1782. Fe'i gwnaed yn Ddirprwy Ddeon yn 1787–1789 ac yn Diwtor rhwng 1787-1807. Fe'i gwnaed yn Offeiriad ar 6 Mehefin 1784, yn Ely, Caergrawnt ac yn Gannon Fen Ditton, Caergrawnt yn 1784, a Swaffham Prior, yn ddiweddarach yn y flwyddyn honno.
Marwolaeth
[golygu | golygu cod]Fe'i claddwyd ym mynwent Coleg Dulwich, yn ne-ddwyrain Llundain a cheir cerflun ohono yng Ngholeg y Drindod, Caergrawnt.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- 1 2 "Thomas Jones (JNS774T)". Cronfa Ddata Alumni Caergrawnt. Prifysgol Caergrawnt.