Adam Sedgwick

Oddi ar Wicipedia
Adam Sedgwick
Ganwyd22 Mawrth 1785 Edit this on Wikidata
Dent Edit this on Wikidata
Bu farw27 Ionawr 1873 Edit this on Wikidata
Caergrawnt Edit this on Wikidata
Man preswylLloegr Edit this on Wikidata
DinasyddiaethTeyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon, Teyrnas Prydain Fawr Edit this on Wikidata
Alma mater
ymgynghorydd y doethor
  • John Dawson Edit this on Wikidata
Galwedigaethdaearegwr, paleontolegydd Edit this on Wikidata
SwyddLlywydd Cymdeithas Ddaearegol Llundain, President of the British Science Association Edit this on Wikidata
Cyflogwr
Gwobr/auCymrawd y Gymdeithas Frenhinol, Medal Copley, Cymrawd Academi Celf a Gwyddoniaeth America, Medal Wollaston Edit this on Wikidata

Daearegwr o Sais oedd Adam Sedgwick (22 Mawrth 178527 Ionawr 1873), a aned yn Dent, Cumbria. Astudiodd ym Mhrifysgol Caergrawnt. Un o'i diwtoriaid yno oedd y Cymro Thomas Jones.

Yn 1835 daeth i Ogledd Cymru a llwyddodd i ddadansoddi a chategoreiddio haenau creigiau sy'n cynnwys ffosilau ynddynt; enwodd yr hynaf yn Gambriaidd (o Cambria, enw Cymru mewn Lladin).

Astudiodd yn ogystal greigiau eraill mewn ardaloedd fel Dyfnaint (lle enwodd y cyfnod Defonaidd), Ardal y Llynnoedd a'r Alpau. Ond er gwaethaf ei ddarganfyddiadau chwyldroadol am oedran y Ddaear, gwrthodai dderbyn damcaniaethau Charles Darwin ar esblygiad.

Baner LloegrEicon person Eginyn erthygl sydd uchod am Sais neu Saesnes. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.