Frida Kahlo

Oddi ar Wicipedia
Frida Kahlo
GanwydMagdalena Carmen Frida Kahlo Calderón Edit this on Wikidata
6 Gorffennaf 1907 Edit this on Wikidata
Dinas Mecsico, Coyoacán Edit this on Wikidata
Bu farw13 Gorffennaf 1954 Edit this on Wikidata
Dinas Mecsico, Coyoacán Edit this on Wikidata
DinasyddiaethMecsico Edit this on Wikidata
Galwedigaetharlunydd Edit this on Wikidata
Adnabyddus amStill Life: Pitahayas, The Two Fridas Edit this on Wikidata
Arddullportread (paentiad), hunanbortread, portread Edit this on Wikidata
Plaid WleidyddolMexican Communist Party Edit this on Wikidata
MudiadSwrealaeth, realaeth hudol Edit this on Wikidata
TadGuillermo Kalho Edit this on Wikidata
PriodDiego Rivera, Diego Rivera Edit this on Wikidata
llofnod

Roedd Magdalena del Carmen Frida Kahlo Calderón, (6 Gorffennaf 190713 Gorffennaf 1954[1]) a adwaenid fel Frida Kahlo yn baentwraig Fecsicanaidd, yn briod i'r arlunydd murluniau enwog Diego Rivera.[2]

Dioddefodd salwch a damwain traffig gwael yn ifanc a effeithiodd yn ddifrifol arni am weddill ei hoes a chafodd 32 o driniaethiau llawfeddygol.[3][4] Bu fyw bywyd anghonfensiynol wrth gymharu ag arferion y cyfnod: roedd yn ddeurywiol ac roedd ei chariadon yn cynnwys Leon Trotsky.[3][5]

Yn bennaf roedd ei gwaith yn hunanfywgraffiadol ac yn aml yn mynegi ei dioddefaint personol. Peintiodd ryw 200 o luniau, y rhan fwyaf ohonynt yn hunanbortreadau yn cyfleu ei brwydr feunydd. Ddylanwadwyd Kahlo gan ei gŵr, y peintiwr adnabyddus Mecsicanaidd Diego Rivera. Roedd y ddau'n rhannu diddordeb yng nghelfyddyd werinol pobloedd brodorol Mecsico.

Ym 1939 arddangoswyd ei gwaith yn Ffrainc ar wahoddiad André Breton, a geisiodd ei darbwyllo bod ei gwaith yn swrrealaidd, ond mynnodd Kahlo nid oedd y gwaith yn adlewyrchu breuddwydion ond ei bywyd ei hun. Er iddi ennyn edmygydd peintwyr enwog a gwybodusion y cyfnod fel Pablo Picasso, Wassily Kandinsky a Marcel Duchamp roedd ei gwaith ond i ennill poblogrwydd a chydnabyddiaeth ryngwladol eang ar ôl ei marwolaeth.

Arhosodd gwaith Kahlo fel arlunydd yn gymharol anhysbys tan ddiwedd y 1970au, pan ddarganfuwyd ei gwaith gan haneswyr celf ac actifyddion gwleidyddol. Erbyn dechrau'r 1990au, roedd hi wedi dod nid yn unig yn ffigwr cydnabyddedig yn hanes celf, ond hefyd yn cael ei ystyried yn eicon i'r Chicanos, y mudiad ffeministiaeth a'r mudiad LGBTQ +. Mae gwaith Kahlo wedi cael ei ddathlu’n rhyngwladol fel symbol o draddodiadau cenedlaethol a brodorol Mecsicanaidd a chan ffeministiaid am yr hyn a ystyrir yn ddarlun digyfaddawd o brofiad a ffurf y fenyw.

Bywyd cynnar[golygu | golygu cod]

Roedd Frida Kahlo yn ferch i Guillermo Kahlo, ffotograffydd Almaeneg o dras Iddewig-Hwngareg ac ei ail wraig Matilde Calderón, Mecsicanwraig o dras Sbaeneg.

Ym 1904, tair blynedd cyn geni Frida Kahlo, roedd y teulu wedi mudo i ardal Coyoacán yn Ninas Mecsico, i'r Casa Azul (Tŷ Glas), 247 Calle Londres, a ddaeth yn enwog am fod yn gartref iddi ac sydd bellach yn amgueddfa.

La Casa Azul]], cartref Kahlo pan oedd yn blentyn a rhwng 1939 tan ei marwolaeth yn 1954
Gardd La Casa Azul

Yn 6 oed cafodd Kahlo poliomyelitis, a oedd y cyntaf o restr hir o afiechydon a llawdriniaethau. Wedi gorfod aros yn ei gwely am 9 mis oherwydd y polio, cafodd Frida ei hannog i gymryd rhan mewn chwaraeon er mwyn adfer ei hiechyd, yn arbennig ei choes de a oedd yn llawrer gwannach na'r chwith. Bu Frida yn gwneud chwaraeon a oedd yn anarferol i ferched y cyfnod fel pêl-droed a bocsio.

Serch hynny, roedd ei phroblemau corfforol a llawdriniaethau cyson yn achosi i Kahlo fethu mwynhau cwmni'r plant eraill o'i hamgylch a datblygu'n dra gwahanol. Mae amryw o'i lluniau a beintiodd yn oedolyn yn cyfleu unigrwydd ei phlentyndod, fel Cuatro habitantes de Ciudad de México (Pedwar dinesydd Dinas Mecsico), 1939, yn dangos merch fach unig yn brathu ei gwefus gyda thristwch.

Ym 1922 cafodd fynediad i'r Escuela Nacional Preparatoria, sefydliad addysgol o fri a oedd newydd agor ei ddrysau i ferched. Roedd Frida Kahlo yn un o ddim ond 35 o ferched o ddwy fil o ddisgyblion.. Yn yr ysgol cyfarfu â gwybodusion ac artistiaid Mecsicanaidd y dyfodol oedd yn cael eu hadnabod fel y Los Cachuchas am y capiau roeddent yn eu gwisgo. Yn griw gwrthryfelgar, buont yn pwyso dros ddiwygio’r system addysgiadol.

Damwain a dechrau gyrfa beintio[golygu | golygu cod]

A 17 Medi, 1925 dioddefodd Frida ddamwain difrifol pan oedd y bws roedd hi'n teithio ynddo wedi taro tram. Fel canlyniad i'w hanafiadau erchyll roedd rhaid iddi gael dros 30 o lawdriniaethau dros weddill ei bywyd. Roedd yn aml mewn poen ac weithiau'n methu symud o'i gwely am gyfnodau hir o'i phlegid.

Wrth wella o'i hanafiadau aeth ati i beintio'n fwy rheolaidd. Yn 1926 fe beintiodd ei hunanbortread cyntaf. Ynddo ge welir ei hunan-fyfyrio a oedd yn destun parhaus ei gwaith diweddarach.

Dechreuodd Frida Kahlo mynychu cylchoedd celfyddydol, gwleidyddol a deallusol a chyfarfu â nifer o gomiwnyddion gan gynnwys yr arlunydd Diego Rivera.

Priodas â Diego Rivera[golygu | golygu cod]

Frida Kahlo a Diego Rivera 1932

Priododd Diego Rivera yn 1929. Cawsant berthynas tymhestlog, yn hanes o gariad, casineb, tor-calondid, ysbrydoliaeth greadigol ac anturiaethau gyda chariadon eraill. Fe'u hysgarwyd ym 1939, dim ond i ail-briodi'r flwyddyn ganlynol.

Fe alwyd y ddau yn 'yr eliffant a'r golomen', Diego'n enfawr a Frida'n fechan ac yn wan oherwydd ei salwch a'i hanafiadau. Oherwydd ei hanafiadau nid oedd yn bosib i Frida Kahlo gael plant, gwayw arall iddi.

Yn gefnogwyr i'r comiwnyddion fe benderfynodd y cwpl symud i fyw dros y ffin yn yr Unol Daleithiau rhwng 1931 a 1934 i osgoi problemau gydag awdurdodau Mecsico.[1][6]

Wrth ddychwelyd i Fecsico, cafodd Diego berthynas gyda Cristina, chwaer Frida Kahlo. Er iddo gael cariadon eraill tra oedd yn briod, fe effeithiwyd arni’n fawr pan glywodd am ei gŵr a'i chwaer ac fe waethygodd y berthynas rhyngddi â Diego. Dechreuodd hithau gael perthnasau rhywiol gyda dynion a merched y tu allan i'r broidas.

Un o gariadon Frida oedd Leon Trotsky, arweinydd comiwnyddol oedd wedi ffoi i Fecsico er mwyn achub ei fywyd wrth i'w elyn pennaf Joseff Stalin cipio arweinyddiaeth yr Undeb Sofietaidd. Wedi i Trotsky gael ei lofruddio gan asiant Stalin fe arestiwyd Kahlo dan amheuaeth, ond fe'i rhyddhawyd yn fuan wedyn.

Block, Kahlo a Rivera

Yn dilyn yr ysgariad dioddefodd Frida Kahlo iselder ac fe ddechreuodd yfed yn ormodol i leddfu ei phoenau corfforol ac emosiynol. Ym 1939, blwyddyn yr ysgariad, peintiodd Las dos Fridas (Y ddwy Frida), hunanbortread arall ond y tro hwn â dwy Frida, un Frida mewn gwisg Ewropeaidd a'r llall mewn gwisg draddodiadol Fecsicanaidd yn dangos ei chalon wedi'i thorri.

Ail-briododd Frida a Diego am yr eildro ym 1940 gan gytuno i fyw gyda'i gilydd, yn rhannu'r biliau ac yn cyd-weithio ond heb fyw fel cwpl.

Enwogrwydd[golygu | golygu cod]

Ym 1939 fe arddangoswyd ei gwaith ym Mharis diolch eto i André Breton. Yn ystod ei harhosiad yn y ddinas ymddangosodd ar glawr blaen y cylchgrawn Vogue a chyfarfu â Pablo Picasso.

Arddangoswyd ei gwaith yn MOMA (Yr Amgueddfa Celf Fodern), Efrog Newydd, y Sefydliad Celf Gyfoes, Boston ac Amgueddfa Gelf Philadelphia.

Ym 1953 trefnodd Oriel Gelf Gyfoes Dinas Mecsico, arddangosfa fawr o'i gwaith i'w hanrhydeddu. Roedd ei chyflwr iechyd wedi gwaethygu ac fe'i chynghorwyd gan ei meddygon i beidio â mynychu agoriad yr arddangosfa.[4] Serch hynny fe gyrhaeddodd Frida Kahlo ar wely mewn ambiwlans, ac fe osodwyd ei gwely yng nghanol yr oriel gyda Kahlo yn yfed ac yn mwynhau tan hwyr.

Yr un flwyddyn bu raid torri i ffwrdd ei choes o dan y pen-gli gan achosi iddi ddioddef llawer o boen a syrthio i iselder unwaith eto. Ceisiodd gyflawni hunanladdiad mwy nag unwaith. Ar ei darlun olaf ysgrifennodd y geiriau ' Viva La Vida' (Byw Bywyd) wrth ei llofnod. Bu farw ym 1954.

Arwres ffeministaidd[golygu | golygu cod]

Mae Frida Kahlo bellach wedi'i throi'n eicon neu gymeriad chwedlonol, ei steil arbennig a phersonoliaeth unigryw go iawn yn orgyffwrdd yn meddyliau llawer â'r ddelwedd yn ei lluniau.[7] Roedd hi'n un o'r ychydig ferched y cyfnod i ennill enw yn y byd celfyddydol rhyngwladol, gan dorri rhydd o rôl draddodiadol merched ac yn herio hegemoni cymdeithas. Ac hyn oll wrth iddi ddioddef salwch ac anafiadau difrifol. Yn lle bod yn fodel i ddynion ei pheintio a'i darlunio mynegodd ei phersonoliaeth a'i phrofiadau o'i safbwynt ei hun gan gyfrannu at greu hunaniaeth ar gyfer merched cryf modern.[8]

Gyrfa fel arlunydd[golygu | golygu cod]

Gyrfa gynnar[golygu | golygu cod]

Kahlo ar 15 Mehefin 1919, yn 11 oed

Mwynhaodd Kahlo gelf o oedran ifanc, gan dderbyn hyfforddiant gan y gwneuthurwr print Fernando Fernández (a oedd yn ffrind i'w thad) [7] a llenwi llyfrau nodiadau gyda brasluniau.[9] Ym 1925, dechreuodd weithio y tu allan i'r ysgol i helpu ei theulu'n ariannol.[10] Ar ôl gweithio'n fyr fel stenograffydd, daeth yn brentis mewn engrafiadau i Fernández.[11] Gwnaeth ei thalent gryn argraff arno,[12] er nad oedd hi'n ystyried celf fel gyrfa ar yr adeg honno.[9]

Roedd y rhan fwyaf o'r paentiadau a wnaeth Kahlo yn y cyfnod cynnar hwn yn bortreadau ohoni ei hun, ei chwiorydd, a'i ffrindiau ysgol.[16] dangosai ei phaentiadau cynnar a'i gohebiaeth iddi dynnu ysbrydoliaeth o artistiaid Ewropeaidd, yn enwedig meistri'r Dadeni fel Sandro Botticelli a Bronzino ac o symudiadau avant-garde fel Neue Sachlichkeit a Cubiaeth.

Wedi symud i Morelos ym 1929 gyda'i gŵr Rivera, cafodd Kahlo ei hysbrydoli gan ddinas Cuernavaca lle roeddent yn byw.[13] Newidiodd ei harddull artistig a thynnodd ysbrydoliaeth fwyfwy o gelf werin Mecsicanaidd. Dywed yr hanesydd celf Andrea Kettenmann y gallai fod traethawd Adolfo Best Maugard ar y pwnc fod wedi dylanwadu arni, oherwydd fe ymgorfforodd lawer o'r nodweddion a amlinellodd - er enghraifft, diffyg persbectif a chyfuno elfennau o gyfnodau cyn-Golumbiaidd a chyn-drefedigaethol celf Mecsicanaidd.[14] Parhaodd ei chysylltiad â La Raza, pobl Mecsico, a arhosodd y diddordeb dwys hwn yn agweddau pwysig yn ei chelf trwy weddill ei hoes.

Gweithio yn yr Unol Daleithiau[golygu | golygu cod]

Kahlo ym 1926

Pan symudodd Kahlo a Rivera i San Francisco ym 1930, cyflwynwyd Kahlo i artistiaid Americanaidd fel Edward Weston, Ralph Stackpole, Timothy L. Pflueger, a Nickolas Muray. Roedd y chwe mis a dreuliodd yn San Francisco yn gyfnod cynhyrchiol i Kahlo,[24] a ddatblygodd yr arddull celf werin ymhellach.[15] Yn ogystal â phaentio portreadau o sawl gyfaill newydd,[26] peintiodd Frieda a Diego Rivera (1931), portread dwbl yn seiliedig ar eu ffotograff priodas, a Portread o Luther Burbank (1931), a ddarluniodd y garddwr enwog fel hybrid rhwng bod dynol a phlanhigyn.[11] Er ei bod yn dal i gyflwyno ei hun yn gyhoeddus fel priod Rivera yn hytrach nag fel arlunydd,[29] cymerodd ran am y tro cyntaf mewn arddangosfa, pan gafodd Frieda a Diego Rivera ei chynnwys yn Chweched Arddangosfa Flynyddol Cymdeithas San Francisco Artistiaid Benywaidd ym Mhalas y Lleng Anrhydedd.[16][17]

Symudodd y ddau i Detroit lle cafodd Kahlo nifer o broblemau iechyd yn ymwneud â beichiogrwydd a fethodd. Er gwaethaf y problemau iechyd hyn, yn ogystal â’i hatgasedd tuag at ddiwylliant cyfalafol yr Unol Daleithiau.[14] Er hyn, roedd ei phrofiad yn y ddinas yn fuddiol am ei mynegiant artistig. Arbrofodd gyda gwahanol dechnegau, fel ysgythriad a ffrescos,[18] a dechreuodd ei phaentiadau ddangos naratif gryfach.[19] Dechreuodd hefyd roi pwyslais ar y themâu "terfysgaeth, dioddefaint, clwyfau, a phoen".[18]

Ymhlith y gweithiau a wnaeth yn y dull retablo yn Detroit mae Ysbyty Henry Ford (1932), Fy Ngenedigaeth (1932), a Hunanbortread ar y Ffin rhwng Mecsico a'r Unol Daleithiau (1932).[18] Er na chafodd unrhyw un o weithiau Kahlo sylw mewn arddangosfeydd yn Detroit, rhoddodd gyfweliad i'r Detroit News ar ei chelf; teitlwyd yr erthygl yn ddirmygus: "Wife of the Master Mural Painter Gleefully Dabbles in Works of Art".[20]

Dychwelyd i Ddinas Mecsico a chydnabyddiaeth ryngwladol[golygu | golygu cod]

Ar ôl dychwelyd i Ddinas Mecsico ym 1934 ni pheintiodd Kahlo unrhyw baentiadau newydd, a dim ond dau baentiad yn y flwyddyn ganlynol, oherwydd cymhlethdodau ei hiechyd.[21] Yn 1937 a 1938, fodd bynnag, roedd gyrfa artistig Kahlo yn hynod gynhyrchiol, yn dilyn ei hysgariad ac yna cymodi â Rivera. Peintiodd fwy "nag yr oedd hi wedi'i wneud yn ei holl wyth mlynedd flaenorol o briodas", gan greu gweithiau fel Fy Nyrs a Fi (1937), Atgof, y Galon (1937), Pedwar Cyd-breswylydd Mecsico (1938), a Beth roddodd y dŵr i mi (1938).

Er ei bod yn dal yn ansicr ynghylch ei gwaith, arddangoswyd rhai o'i lluniau ym Mhrifysgol Ymreolaethol Genedlaethol Mecsico, ar ddechrau 1938.[22] Gwnaeth ei gwerthiant sylweddol cyntaf yn ystod haf 1938 pan dalodd y seren ffilm a'r casglwr celf Edward G. Robinson $800 am bedwar llun.[22] Cynyddodd y cydnabyddiaeth o'i mawredd pan ymwelodd y Swrealaidd Ffrengig André Breton â Rivera ym mis Ebrill 1938. Gwnaeth Kahlo argraff dda arno, a hawliodd Robinson ei bod yn swrrealaidd a bod ei gwaith yn "rhuban o amgylch bom".[23] Addawodd nid yn unig drefnu i'w lluniau gael eu harddangos ym Mharis ond ysgrifennodd hefyd at ei ffrind, y gwerthwr celf, Julien Levy, a'i gwahoddodd i gynnal ei harddangosfa unigol gyntaf yn ei oriel ar East 57th Street yn Manhattan.[24]

Rivera, Kahlo, ac Anson Goodyear

Yn Hydref, teithiodd Kahlo ar ei phen ei hun i Efrog Newydd, lle achosodd ei ffrog Fecsicanaidd liwgar dipyn o stwr yn y cyfryngau, yn nodweddiadol liwgar a Mecsicanaidd, nes y cafodd ei chodi fel "anterth exotica".[25] Daeth pobl enwog fel Georgia O'Keeffe a Clare Boothe Luce arddangosfa a agorodd yn Nhachwedd a chawfodd y gwaith lawer o sylw cadarnhaol yn y wasg, er i lawer o feirniaid fabwysiadu naws ymataliol yn eu hadolygiadau, hefyd.[26] Er gwaethaf y Dirwasgiad Mawr, gwerthodd Kahlo hanner y 25 llun a arddangoswyd.[15] Derbyniodd hefyd gomisiynau gan A. Conger Goodyear, llywydd y MoMA ar y pryd, a Clare Boothe Luce. Aeth ati i baentio llun o ffrind Luce, merch a oedd newydd gyflawni hunanladdiad trwy neidio o fgeenestr uchaf bloc o fflatiau.[27] Yn ystod y tri mis a dreuliodd yn Efrog Newydd, ychydig iawn a beintiodd Kahlo, gan ganolbwyntio yn hytrach ar fwynhau'r ddinas i'r graddau yr oedd ei hiechyd bregus yn caniatáu.[28]

Yn Ionawr 1939, hwyliodd Kahlo i Baris yn sgil y gwahoddiad gan André Breton i lwyfannu arddangosfa o'i gwaith.[29] Pan gyrhaeddodd, gwelodd nad oedd wedi clirio ei phaentiadau o'r tollau mewnforio ac nad oedd André Breton hyd yn oed yn berchen ar oriel.[30] Gyda chymorth Marcel Duchamp, llwyddodd i drefnu arddangosfa yn Oriel Renou et Colle.[30] Cododd problemau pellach pan wrthododd yr oriel arddangos pob un ond dau o baentiadau Kahlo, gan eu hystyried yn rhy ysgytwol i'w cynulleidfa,[31] a mynnodd Breton eu bod yn cael eu harddangos ochr yn ochr â ffotograffau gan Manuel Alvarez Bravo, cerfluniau cyn-Columbiaidd, a phortreadau Mecsicanaidd o'r 18g a'r 19g, a'r hyn yr oedd hi'n ei ystyried yn "sothach": penglogau siwgr, teganau, ac eitemau eraill yr oedd ef wedi'u prynu o farchnadoedd Mecsico.[23]

Agorodd yr arddangosfa ym Mawrth, ond cafodd lawer llai o sylw nag a gafodd yn yr Unol Daleithiau, yn rhannol oherwydd yr ofn fod Rhyfel Byd ar y gorwel, a gwnaeth golled yn ariannol, a barodd i Kahlo ganslo arddangosfa a gynlluniwyd yn Llundain.[32] Prynodd y Louvre TY Ffram, gan ei gwneud yr artist Mecsicanaidd cyntaf i gael sylw yn eu casgliad.[32] Cafodd hefyd groeso cynnes gan artistiaid eraill o Baris, fel Pablo Picasso a Joan Miró, [33] yn ogystal â'r byd ffasiwn, gyda'r dylunydd Elsa Schiaparelli yn dylunio ffrog a ysbrydolwyd ganddi hi a Vogue Paris yn ei chynnwys ar dudalennau'r cylchgrawn.[34] Fodd bynnag, roedd ei barn, yn gyffredinol am Paris a'r Swrealwyr yn negyddol; mewn llythyr at Muray, fe'u galwodd yn "griw o bobl gwallgo-coocoo a'r swrealwyr yn wirion iawn" [33][35]

Yn yr Unol Daleithiau, parhaodd paentiadau Kahlo i gynyddu o ran sylw a diddordeb. Yn 1941, cafodd ei gweithiau sylw yn y Sefydliad Celf Gyfoes yn Boston, a'r flwyddyn ganlynol, cymerodd ran mewn dwy arddangosfa proffil uchel yn Efrog Newydd, arddangosfa Portreadau’r Ugeinfed Ganrif yn y MoMA a Phapurau Cyntaf y Swrealwyr o arddangosfa o waith Swrealaidd.[36] Ym 1943, cafodd ei chynnwys yn arddangosfa 'Celf Mecsico Heddiw' yn Amgueddfa Gelf Philadelphia ac yn Artistiaid Merched yn oriel Celf y Ganrif gan Peggy Guggenheim yn Efrog Newydd.

Enillodd Kahlo fwy o glod am ei chelf ym Mecsico hefyd. Daeth yn aelod sefydlol o'r Seminario de Cultura Mexicana, grŵp o bump ar hugain o artistiaid a gomisiynwyd gan y Weinyddiaeth Addysg Gyhoeddus ym 1942 i ledaenu gwybodaeth gyhoeddus am ddiwylliant Mecsicanaidd.Fel aelod, cymerodd ran mewn cynllunio arddangosfeydd a mynychu cynhadledd ar gelf.[37] Yn Ninas Mecsico, cafodd ei phaentiadau sylw mewn dwy arddangosfa ar gelf Mecsicanaidd a lwyfannwyd yn Llyfrgell Saesneg Benjamin Franklin yn 1943 a 1944. Gwahoddwyd hi i gymryd rhan yn "Salon de la Flor", arddangosfa a gyflwynir yn yr arddangosiad blodau blynyddol. [38] Cyhoeddwyd erthygl gan Rivera ar gelf Kahlo hefyd yn y cyfnodolyn a gyhoeddwyd gan y Seminario de Cultura Mexicana.[61]

Yn 1943, derbyniodd Kahlo swydd fel darlithydd yn yr Escuela Nacional de Pintura Cenedlaethol, a ddiwygiwyd yn ddiweddar, sef y Escultura y Grabado "La Esmeralda." [39] Anogodd ei myfyrwyr i'w thrin mewn ffordd anffurfiol a'u dysgu i werthfawrogi diwylliant poblogaidd Mecsico a chelf werin ac werthfawrogi estheteg y stryd.[40] Cyn hir, oherwydd iechyd, symudodd i La Casa Azul.[41][42] Sicrhaodd Kahlo dri chomisiwn (tri murlun) iddi hi a'i myfyrwyr.[43] Ym 1944, fe wnaethant baentio La Rosita, pulqueria yn Coyoacán. Ym 1945, comisiynodd y llywodraeth hi a'i myfyrwyr i baentio murluniau ar gyfer golchdy Coyoacán fel rhan o gynllun cenedlaethol i helpu menywod tlawd. Yr un flwyddyn, creodd y grŵp furluniau ar gyfer Posada del Sol, gwesty yn Ninas Mecsico. Fodd bynnag, cafodd ei ddinistrio yn fuan ar ôl ei gwblhau gan nad oedd perchennog y gwesty yn ei hoffi. 

Prin fod Kahlo yn ennill digon o werthu ei gwaith celf i'w cadw, tan ganol i ddiwedd y 1940au, gan iddi wrthod addasu ei steil i weddu i ddymuniadau ei chleientiaid.[44] Derbyniodd ddau gomisiwn gan lywodraeth Mecsico yn gynnar yn y 1940au. Ni chwblhaodd yr un cyntaf, o bosibl gan nad oedd yn hoffi'r pwnc, a gwrthodwyd yr ail gomisiwn gan y corff comisiynu.[44] Serch hynny, roedd ganddi gleientiaid preifat rheolaidd, fel y peiriannydd Eduardo Morillo Safa, a brynnodd dros ddau-ddeg-un o bortreadau o aelodau'r teulu.[44] Gwellodd ei sefyllfa ariannol pan dderbyniodd wobr genedlaethol 5000-peso am ei llun Moses (1945) ym 1946 a phan brynwyd Y Ddwy Frida gan y Museo de Arte Moderno ym 1947.[45] Yn ôl yr hanesydd celf Andrea Kettenmann, erbyn canol y 1940au, roedd ei phaentiadau "wedi'u cynnwys yn y rhan fwyaf o arddangosfeydd ym Mecsico." Ymhellach, ysgrifennodd Martha Zamora y gallai "werthu beth bynnag yr oedd hi'n ei beintio ar hyn o bryd; weithiau prynwyd lluniau anghyflawn."

Y blynyddoedd diweddarach[golygu | golygu cod]

Cadair olwyn ac îsl Kahlo yn La Casa Azul, gydag un o'i gweithiau olaf

Hyd yn oed wrth i Kahlo ennill cydnabyddiaeth ym Mecsico, roedd ei hiechyd yn dirywio'n gyflym, a methodd ymgais llawdriniaethol i gywiro ei hasgwrn cefn.[11] Mae ei phaentiadau o'r cyfnod hwn yn cynnwys Colofn Toredig (1944), Anobaith (1945), Coeden Gobaith, Dal Dy Dir (1946), a'r Carw Clwyfus (1946), gan adlewyrchu ei chyflwr corfforol gwael.[11] Yn ystod ei blynyddoedd diwethaf, roedd Kahlo wedi'i chyfyngu i'r Casa Azul yn bennaf.[46] Peintiodd wrthrychau llonydd, gan bortreadu ffrwythau a blodau gyda symbolau gwleidyddol fel baneri neu golomennod.[47] Poenodd yn arw am ei hanallu i gyfleu ei hargyhoeddiadau gwleidyddol, gan nodi "Rwy'n aflonydd iawn ynglŷn â'm paentiadau. Yn bennaf oherwydd fy mod i eisiau eu gwneud yn ddefnyddiol i'r mudiad comiwnyddol chwyldroadol... tan nawr rydw i wedi rheoli fy mynegiant gonest o fy hunan... Rhaid i... [fy ngwaith] hefyd fod o fudd i'r Chwyldro, yr unig reswm go iawn i fyw."[14][48] Newidiodd ei harddull paentio hefyd: trodd trawiadau ei brwsh o fod yn dyner ac yn ofalus, bellach yn gyflymach, gan chwipio'r ganfas, ac roedd ei defnydd o liw yn fwy bras, a'r arddull gyffredinol yn fwy dwys.[49]

Deallodd y ffotograffydd Lola Alvarez Bravo nad oedd gan Kahlo lawer mwy o amser i fyw, ac felly fe lwyfannodd ei harddangosfa unigol gyntaf ym Mecsico yn y Galería Arte Contemporaneo yn Ebrill 1953.[50]Er nad oedd Kahlo i fod i fynychu'r agoriad i ddechrau, `oherwydd cyngor meddygol, gorchmynnodd symud ei gwely pedwar poster o'i chartref i'r oriel. Er mawr syndod i'r gwesteion, fe gyrhaeddodd mewn ambiwlans a chafodd ei chario ar stretsier i'r gwely, lle arhosodd trwy gydol y parti[50]. Roedd yr arddangosfa yn ddigwyddiad diwylliannol nodedig ym Mecsico a chafodd sylw hefyd yn y wasg ledled y byd.[51] Yr un flwyddyn, dangosodd arddangosfa Oriel Tate ar gelf Mecsicanaidd yn Llundain bump o'i lluniau.[15]

Ym 1954, danfonwyd Kahlo eto i'r ysbyty, yn Ebrill a Mai.[52] Y gwanwyn hwnnw, ailddechreuodd baentio ar ôl egwyl o flwyddyn.[11] Roedd ei phaentiadau olaf yn cynnwys y Bydd Marcsiaeth yn Rhoi i'r Cleifion (c. 1954) a Frida a Stalin (c. 1954) a Viva La Vida (1954) bywyd llonydd.

Arddull a dylanwadau[golygu | golygu cod]

Mae'r amcangyfrifon yn amrywio ar faint o baentiadau a wnaeth Kahlo yn ystod ei bywyd, gyda ffigurau'n amrywio o lai na 150[53] i oddeutu 200.[54], Dengys ei phaentiadau cynharaf, a wnaeth yng nghanol y 1920au, ddylanwad meistri'r Dadeni ac artistiaid avant-garde Ewropeaidd fel Amedeo Modigliani. Tua diwedd y degawd, cafodd Kahlo fwy o ysbrydoliaeth o gelf werin Mecsicanaidd,[55] a defnyddiodd elfennau o "ffantasi, naïfrwydd, a diddordeb mewn trais a marwolaeth".[54] Roedd yr arddull a ddatblygodd yn gymysgfa o realaeth a swrealaeth ac yn aml yn darlunio poen a marwolaeth.

Mecsicanidad[golygu | golygu cod]

Yn yr un modd â llawer o artistiaid cyfoes eraill o Fecsico, dylanwadwyd yn drwm ar Kahlo gan y cenedlaetholdeb rhamantus a elwir yn Fecsicanidad, a oedd wedi'i sbarduno gan y chwyldro.[56][54] Honnodd y mudiad Mecsicanidad ei fod yn gwrthwynebu meddylfryd "diwylliant israddol" a grëwyd gan y wladychiaeth, a rhoddodd y mudiad gryn bwysigrwydd ar ddiwylliannau brodorol.[57] Cyn y chwyldro, dilowrnwyd y diwylliant gwerin Mecsicanaidd gan yr uchel-ael, a oedd yn ystyried Ewrop fel y diffiniad o wareiddiad, ac y dylai Mecsico ei ddynwared.[58] Uchelgais artistig Kahlo oedd paentio ar gyfer pobl Mecsico, a nododd ei bod yn dymuno "bod yn deilwng, gyda fy mhaentiadau, o'r bobl rydw i'n perthyn iddyn nhw ac i'r syniadau sy'n rhoi nerth i mi".[59] Er mwyn gorfodi'r ddelwedd hon, roedd yn well ganddi guddio'r addysg a gafodd mewn celf Ewropeaidd, gan ei thad a Ferdinand Fernandez ac yn y coleg. Yn lle hynny, fe feithrinodd ddelwedd ohoni ei hun fel "arlunydd hunan-ddysgedig a naïf".[60]

Pan ddechreuodd Kahlo ei gyrfa fel arlunydd yn y 1920au, roedd murlunwyr yn dominyddu sîn gelf yn Mecsico. Roedd y murluniau hyn yn ddarnau cyhoeddus mawr, yn yr un traddodiad a meistri'r Dadeni a realwyr sosialaidd Rwsiaidd: roeddent fel arfer yn darlunio llu o bobl, ac roedd yn hawdd dehongli eu negeseuon gwleidyddol.[61] Er ei bod yn agos at furlunwyr fel Rivera, José Clemente Orozco a David Alfaro Siquieros ac yn rhannu eu hymrwymiad i sosialaeth a chenedlaetholdeb Mecsicanaidd, roedd mwyafrif paentiadau Kahlo yn hunanbortreadau o faint cymharol fach.[62][54] Yn enwedig yn y 1930au, roedd ei steil yn ddyledus iawn i baentiadau a oedd yn ddelweddau crefyddol maint cerdyn post a wnaed gan artistiaid amatur.[63] Eu pwrpas oedd diolch i seintiau am eu hamddiffyn yn ystod trychinebau, ac roeddent fel arfer yn darlunio digwyddiad, fel salwch neu ddamwain.[64] Canolbwyntiwyd ar y ffigurau a ddarluniwyd, ac anaml yr oeddent yn cynnwys persbectif realistig neu gefndir manwl, gan ddistyllu'r digwyddiad i'w hanfodion.[14] Roedd gan Kahlo gasgliad helaeth o oddeutu 2,000 o retablos, a arddangosodd ar waliau La Casa Azul.[65] Yn ôl Laura Mulvey a Peter Wollen, y fformat retablo a alluogodd Kahlo i "ddatblygu terfynau i'r eiconig pur, ac a'i galluogodd hi i ddefnyddio naratif ac alegori." [66]

Mae llawer o hunanbortreadau Kahlo yn dynwared y portreadau clasurol hyn a oedd yn ffasiynol yn ystod oes y concwerwr Sbaenaidd, ond fe wnaethant wyrdroi'r fformat trwy ddarlunio'r person neu'r gwrthrych fel un llai deniadol nag mewn gwirionedd.[67] Canolbwyntiodd yn amlach na pheidio ar y fformat hwn tua diwedd y 1930au, gan adlewyrchu newidiadau yng nghymdeithas Mecsico. Roedd llawer o Fecsicaniaid wedi eu dadrithio fwyfwy gan yr hyn a ddilynodd y chwyldro ac yn brwydro i ymdopi ag effeithiau'r Dirwasgiad Mawr, cymaint felly nes y cefnodd llawer ar sosialaeth yr unigolyn.[68] Daeth cyltiau sêr y sgrin a'r papurau newydd, fel Dolores del Río yn boblogaidd iawn.[68] Tynnodd Kahlo o ddarluniau o dduwiesau a seintiau mewn diwylliannau brodorol a Chatholig.[69]

Dylanwadwyd yn arbennig ar Kahlo gan artistiaid bordorol Mecsicio: Hermenegildo Bustos a José Guadalupe Posada, a ddarluniodd ddamweiniau a throsedd mewn modd dychanol.[70] Fe'i hysbrydolwyd hefyd gan waith Hieronymus Bosch, a alwodd yn "athrylith", a Pieter Bruegel the Elder, yr oedd yn canolbwyntio ar fywyd gwerinol a phobl Mecsico.[71] Dylanwad arall oedd y bardd Rosario Castellanos, y mae ei gerddi yn aml yn croniclo lle'r ferch yng nghymdeithas batriarchaidd Mecsico a phoenau y corff benywaidd.[72]

Symbolaeth ac eiconograffeg[golygu | golygu cod]

Hunan-bortread gyda Mwclis o Ddrain a Sïedn (1940), Canolfan Harry Ransom

Mae paentiadau Kahlo yn aml yn cynnwys gwreiddiau, gyda'r rheiny'n tyfu allan o'i chorff ac yn ei chlymu i'r llawr. Dyma thema ganolog, bositif, twf personol; ond ceir ystyr negyddol hefyd, fod y person yn cael ei gaethiwo mewn lle, amser a sefyllfa benodol; ac mewn ystyr amwys o sut mae atgofion o'r gorffennol yn dylanwadu ar y presennol er gwell, er gwaeth.[73] Yn Fy Nain a Mam-gu a Minnau, paentiodd Kahlo ei hun yn blentyn deg oed, yn dal rhuban sy'n tyfu o goeden hynafol sy'n dwyn portreadau o'i neiniau a'i theidiau a'i chyndeidiau eraill tra bod ei throed chwith yn foncyff coeden sy'n tyfu allan o'r daear, gan adlewyrchu barn Kahlo ar undod dynoliaeth â'r ddaear a'i hymdeimlad ei hun o undod â Mecsico.[74] Ym mhaentiadau Kahlo, mae coed yn symbolau o obaith, o gryfder ac o barhad sy'n mynd y tu hwnt i genedlaethau.[75]

Ymddengys gwallt hefyd yn symbol o dwf ac o'r fenyw ym mhaentiadau Kahlo ac mewn Hunan-Bortread gyda Gwallt wedi'i Dorri, paentiodd Kahlo ei hun yn gwisgo siwt dyn a'i gwallt wedi'i gneifio, gyda'r blew hir a oedd newydd ei dorri.[76] Mae Kahlo'n dal siswrn gydag un llaw yn agos at ei gwain, y gellir ei ddehongli fel bygythiad i Rivera - yr oedd ei anffyddlondeb mynych yn ei phoeni - a bygythiad i niweidio ei chorff ei hun fel yr ymosododd ar ei gwallt ei hun.[77] Ar ben hynny, mae'r llun yn adlewyrchu rhwystredigaeth Kahlo nid yn unig â Rivera, ond hefyd ar werthoedd patriarchaidd Mecsico wrth i'r siswrn symboleiddio ymdeimlad gwrywaidd o wrywdod sy'n bygwth cam-drin menywod, yn drosiadol ac yn llythrennol.[77] Ym Mecsico, cofleidiwyd gwerthoedd traddodiadol Sbaen machismo yn eang, ond roedd Kahlo bob amser yn anghyffyrddus iawn â hyn.[77]

Datblygodd Kahlo eiconograffeg gymhleth, gan ddefnyddio symbolau a mytholeg cyn-Golumbiaidd a chyn-Gristnogol yn helaeth yn ei phaentiadau.[78] Yn y rhan fwyaf o'i hunanbortreadau, mae'n darlunio ei hwyneb fel masg, ond a ellir eu dehongli o wahanol ystyron. Mae mytholeg Aztec yn ymddangos yn helaeth ym mhaentiadau Kahlo mewn symbolau gan gynnwys mwncïod, sgerbydau, penglogau, gwaed a chalonnau; yn aml, roedd y symbolau hyn yn cyfeirio at chwedlau'r Coatlicue, Quetzalcoatl, a'r Xolotl.[79] Elfennau canolog eraill a ddeilliodd Kahlo o fytholeg Aztec oedd hybridedd a deuoliaeth.[80] Darluniai llawer o'i phaentiadau gwrthwynebiadau amlwg: bywyd a marwolaeth, cyn-foderniaeth a moderniaeth, Mecsicanaidd ac Ewropeaidd, gwryw a benyw.[81]

Y Ffilm Frida[golygu | golygu cod]

Yn 2002 fe wnaethpwyd ffilm Hollywood llwyddiannus am ei bywyd. Fe enwebwyd am 8 Oscar yn cynnwys Salma Hayek, yn y prif rôl, ar gyfer actores orau'r flwyddyn. Mae'r ffilm bellach wedi ennill $56,298,474 trwy'r byd.[82][83]

Arddangosfeydd unigol[golygu | golygu cod]

  • 8 Chwefror - 12 Mai 2019 - Frida Kahlo: Gall Ymddangosiadau fod yn Dwyllodrus yn Amgueddfa Brooklyn . Hon oedd yr arddangosfa fwyaf yn yr UD mewn degawd a oedd wedi'i neilltuo'n benodol i'r arlunydd a'r unig sioe yn yr UD i gynnwys ei dillad Tehuana, corsets wedi'u paentio â llaw ac eitemau eraill na welwyd erioed o'r blaen a oedd wedi'u cloi i ffwrdd ar ôl marwolaeth yr artist a'i hailddarganfod yn 2004 .
  • 16 Mehefin - 18 Tachwedd 2018 - Frida Kahlo: Gwneud Ei Hunan i Fyny yn Amgueddfa Victoria ac Albert yn Llundain.[84] Y sylfaen ar gyfer arddangosyn diweddarach Amgueddfa Brooklyn.
  • 3 Chwefror - 30 Ebrill 2016 - Frida Kahlo: Paentiadau a Chelf Graffig O Gasgliadau Mecsicanaidd yn Amgueddfa Faberge, St Petersburg. Ôl-weithredol cyntaf Rwsia o waith Kahlo.
  • 27 Hydref 2007 - 20 Ionawr 2008 - Frida Kahlo arddangosfa yng Nghanolfan Gelf Walker, Minneapolis, Amgueddfa Gelf Philadelphia, 20 Chwefror - 18 Mai 2008; ac Amgueddfa Celf Fodern San Francisco, 16 Mehefin - 28 Medi 2008.
  • 1–15 Tachwedd 1938 - Arddangosfa unigol gyntaf Frida a ymddangosiad cyntaf Efrog Newydd yn yr Amgueddfa Celf Fodern . Mynychodd Georgia O'Keeffe, Isamu Noguchi, ac artistiaid blaenllaw eraill o America yr agoriad; gwerthwyd tua hanner y paentiadau.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 Zelazko, Alicja (2019). "Frida Kahlo | Biography, Paintings, & Facts". Encyclopædia Britannica (yn Saesneg). Cyrchwyd 7 April 2020.
  2. Weidemann, Christiane (2008). 50 women artists you should know. Larass, Petra., Klier, Melanie. Munich: Prestel. ISBN 978-3-7913-3956-6. OCLC 195744889.
  3. 3.0 3.1 "La vida de Frida Khalo". 4 de abril de 2014. Check date values in: |date= (help)
  4. 4.0 4.1 "Frida Kahlo Biography | Life, Paintings, Influence on Art | frida-kahlo-foundation.org". www.frida-kahlo-foundation.org. Cyrchwyd 6 Gorffennaf 2020.
  5. Rosenthal, Mark (2015). Diego and Frida: High Drama in Detroit. Detroit, MI: Detroit Institute of Arts, [2015] New Haven; Llundain: Yale University Press, [2015]. t. 117. ISBN 978-0895581778. Italic or bold markup not allowed in: |publisher= (help)
  6. "Frida Kahlo". Biography (yn Saesneg). Cyrchwyd 7 Ebrill 2020.
  7. Broude, Norma; Garrard, Mary D. (1992). The Expanding Discourse: Feminism and Art History. t. 399.
  8. Mejía Moreno, Raúl (2006). El simbolismo en la obra de Frida Khalo, p. 84-97
  9. 9.0 9.1 Zamora 1990, t. 20.
  10. Zamora 1990, t. 21.
  11. 11.0 11.1 11.2 11.3 11.4 Herrera 2002.
  12. Kettenmann 2003, t. 12.
  13. Udall 2003, t. 11.
  14. 14.0 14.1 14.2 14.3 Kettenmann 2003.
  15. 15.0 15.1 15.2 Burrus 2005.
  16. "SFWA History Timeline" (PDF). San Francisco Women Artists. Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 4 Awst 2014. Cyrchwyd 20 Gorffennaf 2016.
  17. "Timeline". Public Broadcasting Service. March 2005. Cyrchwyd 20 Gorffennaf 2016.
  18. 18.0 18.1 18.2 Zamora 1990.
  19. Tuchman, Phyllis (November 2002). "Frida Kahlo". Smithsonian Institution. Cyrchwyd 20 Gorffennaf 2016.
  20. Bilek 2012.
  21. Ankori 2002, t. 160.
  22. 22.0 22.1 Herrera 2002, t. 226.
  23. 23.0 23.1 Mahon 2011.
  24. Kettenmann 2003, p. 45; Mahon 2011, pp. 33–34.
  25. Mahon 2011, tt. 33–34.
  26. Herrera 2002, tt. 230–232.
  27. Herrera 2002, tt. 230–235.
  28. Herrera 2002, tt. 230–240.
  29. Kettenmann 2003, pp. 51–52; Herrera 2002, pp. 241–243.
  30. 30.0 30.1 Kettenmann 2003, pp. 51–52; Herrera 2002, pp. 241–245.
  31. Herrera 2002, tt. 241–245.
  32. 32.0 32.1 Kettenmann 2003, pp. 51–52; Herrera 2002, pp. 241–250; Mahon 2011, p. 45.
  33. 33.0 33.1 Mahon 2011, t. 45.
  34. Kettenmann 2003, pp. 51–52; Herrera 2002, pp. 241–250.
  35. Kettenmann 2003, t. 51.
  36. Burrus 2005, tt. 220–221.
  37. Kettenmann 2003, tt. 61–62.
  38. Herrera 2002, tt. 316–320.
  39. Zamora 1990, tt. 95–96.
  40. Zamora 1990, pp. 95–96; Kettenmann 2003, pp. 63–67; Herrera 2002, pp. 330–332; Burrus 2005, p. 205.
  41. Zamora 1990, pp. 95–96; Kettenmann 2003, pp. 63–68.
  42. Zamora 1990, pp. 95–97; Kettenmann 2003, pp. 63–68.
  43. Herrera 2002, tt. 335–343.
  44. 44.0 44.1 44.2 Herrera 2002, tt. 316–334.
  45. Herrera 2002, tt. 320–322.
  46. Kettenmann 2003, p. 79; Herrera 2002, p. 389–400.
  47. Kettenmann 2003, pp. 79–80; Herrera 2002, pp. 397–398.
  48. Galicia, Fernando (22 Tachwedd 2018). "Frida Kahlo Pinturas, autorretratos y sus significados". La Hoja de Arena. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2021-03-09. Cyrchwyd 13 Mai 2019.
  49. Kettenmann 2003; Herrera 2002, pp. 398–399.
  50. 50.0 50.1 Zamora 1990, p. 138; Herrera 2002, pp. 405–410; Burrus 2005, p. 206.
  51. Herrera 2002, tt. 405–410.
  52. Zamora 1990, t. 138.
  53. Dexter 2005.
  54. 54.0 54.1 54.2 54.3 Herrera, Hayden. "Frida Kahlo". Oxford Art Online. Oxford University Press. Cyrchwyd 2021-03-04.
  55. Friis 2004.
  56. Kettenmann 2003, pp. 24–28; Helland 1990–1991, pp. 8–13; Bakewell 1993, pp. 167–169.
  57. Bakewell 1993, pp. 167–168; Cooey 1994, p. 95; Dexter 2005, pp. 20–21.
  58. Anderson.
  59. Helland 1990–1991.
  60. Barson 2005.
  61. Bakewell 2001, p. 316; Deffebach 2006, p. 171.
  62. Bakewell 2001, pp. 316–317.
  63. Bakewell 1993, pp. 168–169; Castro-Sethness 2004–2005, p. 21; Deffebach, pp. 176–177; Dexter 2005, p. 16.
  64. Castro-Sethness 2004–2005, p. 21; Kettenmann 2003, p. 35.
  65. Castro-Sethness 2004–2005, p. 21; Barson 2005, p. 65; Bakewell 1993, pp. 173–174; Cooey 1994, pp. 96–97.
  66. Bakewell 1993.
  67. Bakewell 1993, pp. 168–169; Castro-Sethness 2004–2005, p. 21; Deffebach 2006, pp. 176–177.
  68. 68.0 68.1 Dexter 2005, t. 17.
  69. Deffebach 2006.
  70. Barson 2005, pp. 59, 73; Cooey 1994, p. 98.
  71. Barson 2005, tt. 58–59.
  72. Friis 2004, tt. 54.
  73. Friis 2004, tt. 55.
  74. Friis 2004, tt. 57.
  75. Friis 2004, tt. 58.
  76. Friis 2004, tt. 55–56.
  77. 77.0 77.1 77.2 Friis 2004, tt. 56.
  78. Helland 1990, tt. 8–13.
  79. Helland 1990–1991, pp. 8–13; Barson 2005, pp. 56–79.
  80. Helland 1990–1991, pp. 8–13; Dexter 2005, pp. 12–13; Barson 2005, p. 64.
  81. Helland 1990–1991, tt. 8–13.
  82. "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2014-11-23. Cyrchwyd 2014-08-02.
  83. http://www.boxofficemojo.com/movies/?id=frida.htm
  84. "V&A · Frida Kahlo: Making Her Self Up". Victoria and Albert Museum (yn Saesneg). Cyrchwyd 12 April 2019.

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]