Aztec

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Ymerodraeth yr Aztec

Defnyddir Aztec neu Astec fel disgrifiad o nifer o grwpiau ethnig yng nghanolbarth Mecsico, yn arbennig grwpiau yn siarad yr iaith Nahwatleg. Daethant yn feistri ar ran helaeth o Ganol America o'r 14g i'r 16g, gan ffurfio Ymerodraeth yr Azteciaid. Canolbwynt y gwareiddiad Aztecaidd oedd Dyffryn Mecsico.

Weithiau defnyddir y term "Aztec" ar gyfer pobl dinas-wladwiaeth Tenochtitlan yn unig. Y ddinas yma, ar ynys yn Llyn Texcoco, Dinas Mecsico yn awr, a alwai eu hunain y "Mexica". Gall hefyd gynnwys y ddwy ddinas-wladwriaeth oedd yn gyngheiriaid a Tenochtitlan, yr Acolhua o Texcoco a'r Tepanec o Tlacopan. Gellir hefyd sôn am wareiddiad yr Azteciaid, yn cynnwys yr holl wladwriaethau Altepetl.

Yn 1521, ymosododd Hernán Cortés, gyda nifer fychan o Sbaenwyr a byddin fwy o gyngheiriaid o Nahwatliaid, ar Tenochtitlan a'i choncro, gan roi diwedd ar ymerodraeth yr Aztec.

Flag of Mexico.svg Eginyn erthygl sydd uchod am Fecsico. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato