Amgueddfa Gelf Philadelphia
| Math | art museum, sefydliad di-elw |
|---|---|
| Agoriad swyddogol | 1876 |
| Sefydlwyd | |
| Daearyddiaeth | |
| Gwlad | |
| Cyfesurynnau | 39.9658°N 75.1814°W |
![]() | |
| Arddull pensaernïol | pensaernïaeth yr Adfywiad Groegaidd, pensaernïaeth Art Deco |
| Sefydlwydwyd gan | Anna H. Wilstach, William P. Wilstach |

Mae Amgueddfa Gelf Philadelphia, a gaiff ei adnabod yn lleol fel "Yr Amgueddfa Gelf", yn un o amgueddfeydd celf mwyaf yr Unol Daleithiau. Fe'i lleolir ar ochr orllewinol y Benjamin Franklin Parkway ym Mharc Fairmount Philadelphia. Sefydlwyd yr amgueddfa ym 1876 mewn cydweithrediad a'r Dangosiad Canmlwyddiant yn yr un flwyddyn. Yn wreiddiol, cafodd ei alw'n Amgueddfa ac Ysgol Pennsylvania o Gelf Diwydiannol a chafodd ei ysbrydoli gan Amgueddfa De Kensington yn Llundain, (bellach Amgueddfa Victoria ac Albert). Agorodd yr amgueddfa i'r cyhoedd ar y 10fed o Fai, 1877. Cwblhawyd prif adeilad presennol yr amgueddfa ym 1928.
Mae casgliad yr amgueddfa yn cynnwys gwaith Marcel Duchamp, Auguste Rodin, Paul Cézanne, Vincent van Gogh, Édouard Manet, Claude Monet, Pierre-Auguste Renoir, Camille Pissarro, ac Edgar Degas. Mae hefyd gwaith artistiaid o’r Unol Daleithiau, megis gwaith y Crynwyr ac Almaemwyr Pennsylvania.[1]
Cyswllt yr Amgueddfa â Philadelphia
[golygu | golygu cod]Yn ogystal â phensaernïaeth a'r casgliadau, mae Amgueddfa Gelf Philadelphia yn enwog am yr olygfa enwog yn y ffilm Rocky, a'r ffilmiau olynnol, II, III, V a Rocky Balboa. Yn aml, gwelir ymwelwyr i'r amgueddfa yn efelychu rhediad enwog Sylvester Stallone i fyny'r grisiau o flaen yr adeilad.
Rhoddwyd cerflun efydd o Rocky ar ben y grisiau am gyfnod byr tra'n ffilmio Rocky III. Yn ddiweddarach, fe'i symudwyd i'r Wachovia Spectrum yn sgîl yn dadlau brwd a welwyd ynglŷn ag ystyr "celf". Dychwelyd y cerflun i'r grisiau ar gyfer ffilmio Rocky V ac ymddengys yno yn y ffilmiau Philadelphia a Mannequin. Serch hynny, symudwyd y cerflun i waelod y grisiau ar 8 Medi 2006.
Oherwydd lleoliad yr amgueddfa, ar waelod y Ben Franklin Parkway, cynhelir nifer o gyngherddau a gorymdeithiau yno. Ar 2 Gorffennaf 2005 defnyddiwyd grisiau'r amgueddfa i gynnal cyngerdd Live 8 Philadelphia, lle perfformiodd artistiaid megis Dave Matthews Band, Linkin Park a Maroon 5. Caeodd yr amgueddfa ar gyfer Live 8 ond ail-agorodd y diwrnod canlynol.
Daliadau adnabyddus
[golygu | golygu cod]- Toulouse-Lautrec, The Dance at Moulin Rouge, 1889-90
- J. M. W. Turner, The Burning of the Houses of Lords and Commons, 1835
- Peter Paul Rubens, Prometheus Bound, 1611-12
- Édouard Manet, The Departure of Steam Folkestone, 1869
- Thomas Eakins, The Gross Clinic, 1875
- Paul Cezanne, Bathers, 1898-1905
- Édouard Manet, The Battle of The Alabama and Kearsarge, 1864
- Pierre-Auguste Renoir, The Large Bathers, 1887
- Claude Monet, Japanese Bridge and Water Lilies, c.1899
- Claude Monet, Poplars (Autumn), 1891
- Georges-Pierre Seurat, Gray weather, Grande Jatte, 1888
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]- (Saesneg) Gwefan Amgueddfa Gelf Philadelphia
- (Saesneg) Rhestr o Benseiri ac Adeiladau Philadelphia
