Sylvester Stallone

Oddi ar Wicipedia
Sylvester Stallone
GanwydSylvester Gardenzio Stallone Edit this on Wikidata
6 Gorffennaf 1946 Edit this on Wikidata
Hell's Kitchen Edit this on Wikidata
Man preswylBeverly Hills Edit this on Wikidata
DinasyddiaethUnol Daleithiau America Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Prifysgol Miami
  • Charlotte Hall Military Academy
  • Abraham Lincoln High School
  • Ysgol Uwchradd Montgomery Blair Edit this on Wikidata
Galwedigaethactor ffilm, cyfarwyddwr ffilm, sgriptiwr, cynhyrchydd ffilm, ysgrifennwr, actor cymeriad, actor teledu Edit this on Wikidata
Taldra1.77 metr Edit this on Wikidata
Plaid Wleidyddolplaid Weriniaethol Edit this on Wikidata
TadFrank Stallone Edit this on Wikidata
MamJackie Stallone Edit this on Wikidata
PriodJennifer Flavin, Brigitte Nielsen, Sasha Czack Edit this on Wikidata
PartnerAngie Everhart Edit this on Wikidata
PlantSage Stallone, Seargeoh Stallone, Sistine Stallone, Sophia Rose Stallone, Scarlet Rose Stallone Edit this on Wikidata
Gwobr/auOfficier des Arts et des Lettres‎, Golden Globes, Gwobr Saturn, Gwobr César, Golden Raspberry Award for Worst Actor, Golden Raspberry Award for Worst Actor, Gwobr Golden Raspberry i'r Cyfarwyddwr Gwaethaf, Golden Raspberry Award for Worst Screenplay, Golden Raspberry Award for Worst Actor, seren ar Rodfa Enwogion Hollywood Edit this on Wikidata
Gwefanhttps://www.sylvesterstallone.com/ Edit this on Wikidata
llofnod

Mae Sylvester Gardenzio Stallone (ganed 6 Gorffennaf 1946) yn actor, cyfarwyddwr, cynhyrchydd a sgriptiwr Americanaidd a gafodd ei enwebu am Wobr yr Academi. Ef oedd un o actorion mwyaf poblogaidd y byd rhwng y 1970au a'r 1990au a symboleiddiodd gwryweidd-dra a arwriaeth actorion ffilmiau antur Hollywood. Chwaraeodd rannau dau gymeriad sydd bellach yn rhan o ddiwylliant Americanaidd; Rocky Balboa, y bocsiwr a oresgynodd amgylchiadau anodd er mwyn cariad ac anrhydedd, a John Rambo, milwr dewr a arbenigai mewn cynllwyniau o ddial ac achub bywydau pobl eraill.

Yn ystod y 1980au, bu Stallone yn hynod boblogaidd ac ef oedd un o ser actio mwyaf y byd yn sgîl ei gytundebau gyda'r rhyddfreintiau Rocky a Rambo. Newidiodd ffilmiau diwylliannol ddylanwadol Stallone hanes diwylliant pop ac yn gyffredinol mae ef wedi cael gyrfa lwyddiannus am y 30 mlynedd ddiwethaf.

Yn y ffilm Rocky, defnyddiodd Stallone risiau Amgueddfa Gelf Philadelphia ac arweiniodd hyn at yr ardal yn cael ei enwi'n The Rocky Steps. Yn sgîl ei boblogrwydd yn Philadelphia, rhoddwyd cerflun parhaol o gymeriad Rocky ger yr amgueddfa fel rhyw fath o gofeb ddiwylliannol.

Cofeb Rocky ger grisiau Amgueddfa Gelf Philadelphia


Baner Unol Daleithiau AmericaEicon person Eginyn erthygl sydd uchod am Americanwr neu Americanes. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.