Tate Britain

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Tate Britain
Tate Britain, Millbank - panoramio (1).jpg
Math oriel gelf Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 1897 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynol Orielau Tate Edit this on Wikidata
Lleoliad Millbank Edit this on Wikidata
Sir Dinas Westminster Edit this on Wikidata
Gwlad Baner Lloegr Lloegr
Cyfesurynnau 51.49083°N 0.12722°W Edit this on Wikidata
Manylion
Statws treftadaeth adeilad rhestredig Gradd II* Edit this on Wikidata

Oriel gelf a leolir yn Llundain yw Tate Britain, a elwid ynghynt yn Oriel y Tate. Mae'n gartref i'r casgliad cenedlaethol o gelf Prydeinig. Cangen o'r Oriel Genedlaethol oedd y Tate yn wreiddiol, yn arddangos gweithiau Prydeinig nad oedd yn bosibl eu harddangos yn Sgwâr Trafalgar oherwydd diffyg lle yno. Fe'i agorwyd ym 1897 mewn adeilad gan Sidney R. J. Smith, ar safle hen garchar Millbank. Mae'r oriel yn dwyn ei enw o Syr Henry Tate, masnachwr siwgr, a rodd ei gasgliad i'r oriel. Enw swyddogol yr oriel yn wreiddiol oedd National Gallery (British Art). Ymhen dipyn fe ddaeth celf modern yn rhan bwysig o gasgliad y Tate, ond fe symudodd y gweithiau yma i safle newydd, Tate Modern, yn 2000. Agorwyd estyniad gan y pensaer James Stirling ar gyfer gweithiau gan J. M. W. Turner ym 1987.