Sgwâr Trafalgar
| Math | sgwâr, atyniad twristaidd |
|---|---|
| Enwyd ar ôl | Brwydr Trafalgar |
| Ardal weinyddol | Dinas Westminster |
| Cysylltir gyda | Northumberland Avenue, Whitehall, St Martin's Place, Y Strand, Duncannon Street, Cockspur Street, Pall Mall East |
| Sefydlwyd | |
| Daearyddiaeth | |
| Sir | Llundain Fwyaf (Sir seremonïol) |
| Gwlad | |
| Arwynebedd | 0.92 ha |
| Cyfesurynnau | 51.5081°N 0.1281°W |
| Cod OS | TQ3000780447 |
| Rheolir gan | Awdurdod Llundain Fwyaf |
![]() | |
| Statws treftadaeth | parc rhestredig neu ardd restredig Gradd I |
| Manylion | |
Sgwâr yn Ninas Westminster, canol Llundain, yw Sgwâr Trafalgar (Saesneg: Trafalgar Square), yn agos at ganol swyddogol y ddinas a'i nodir gan gerflun o Siarl I yn Charing Cross, i'r de o'r sgwâr. Yn wreiddiol safai rhwng dinasoedd Llundain a Westminster, a lleolwyd y stablau brenhinol yno ers teyrnasiad Edward I. Yn 1820au adnewyddwyd yr ardal gan y pensaer John Nash ar gyfer Tywysog Rhaglyw. Enwir y sgwâr ar ôl buddugoliaeth y llynges Brydeinig ym Mrwydr Trafalgar ym 1805, ac fe saif Colofn Nelson, cofadail er coffa'r Arglwydd Nelson, yn y canol. Mae'r sgwâr o hyd wedi bod yn boblogaidd â phrotestwyr, er gwaethaf ad-drefniad y safle yn yr 1840au gan y pensaer Charles Barry, a cheisiodd lleihau'r nifer o bobl all ymgynull yno. Cafodd y sgwâr ei ail-gynllunio eto ym 1938 gan Edwin Lutyens ac yn 2003 gan Norman Foster.
Lleolir yr Oriel Genedlaethol ar ochr ogleddol y sgwâr, llysgenhadaeth De Affrica i'r dwyrain, a llysgenhadaeth Canada i'r gorllewin. Bu'r sgwâr ynghynt yn enwog am y nifer o golomennod a ddaeth yno i gael eu bwydo gan y twristiaid, ond gwaharddwyd hyn gan Ken Livingstone tra'r oedd yn Faer Llundain.
