Tate Modern

Oddi ar Wicipedia
Tate Modern
Mathoriel gelf, corff cyhoeddus an-adrannol, amgueddfa genedlaethol Edit this on Wikidata
Enwyd ar ôlHenry Tate Edit this on Wikidata
Agoriad swyddogol11 Mai 2000 Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 1992 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynolOrielau Tate Edit this on Wikidata
LleoliadBankside Edit this on Wikidata
SirSouthwark Edit this on Wikidata
GwladBaner Lloegr Lloegr
Arwynebedd35,000 m² Edit this on Wikidata
GerllawAfon Tafwys Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau51.5078°N 0.0994°W Edit this on Wikidata
Cod postSE1 9TG Edit this on Wikidata
Map
Sefydlwydwyd ganHenry Tate Edit this on Wikidata

Oriel genedlaethol ar gyfer celf fodern yw Tate Modern. Fe'i leolir yn Bankside, ar lannau afon Tafwys, yn Llundain, Lloegr.

Adeiladwyd yr oriel oddi mewn hen orsaf drydanol Bankside, a'i godwyd i gynlluniau gan Syr Giles Gilbert Scott rhwng 1947 a 1963 ac a gaeodd ym 1981. Agorodd i'r cyhoedd fel oriel yn 2000 wedi'r adnewyddiad gan y penseiri Herzog a de Meuron. Mae'n rhan o Oriel y Tate, sefydliad sydd hefyd yn gweinyddu tair oriel gelf arall yn Lloegr.

Yng nghasgliad Tate Modern ceir gweithiau celf rhyngwladol yn dyddio o 1900 hyd y presennol. Cynrychiolir symudiadau celf yn cynnwys Argraffiadaeth, Ciwbiaeth, Fauvisme, Dyfodoliaeth, Mynegiadaeth, Dada, swrealaeth, celf bop a chelf gysyniadol. Yn wahanol i'r arfer, ni ymddangosir y casgliadau yn gronolegol ond yn hytrach yn ôl eu thema.

Gwahoddir artist i arddangos gwaith yn yr neuadd wag a ddaliai'r tyrbin ynghynt, yn flynyddol ers 2000. Fel rheol y maent yn weithiau enfawr sydd yn denu llawer o sylw gan y wasg ac ymwelwyr. Bwriedir ehangu'r oriel mewn rhannau o'r adeilad a barhaodd fel gorsaf drydanol hyd yn ddiweddar; disgwylir agor y rhannau yma yn 2012.