Dada

Oddi ar Wicipedia
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Theo van Doesburg Dadamatinée.jpg
Data cyffredinol
Enghraifft o'r canlynolsymudiad celf, mudiad llenyddol, cultural movement, arddull mewn celf Edit this on Wikidata
Mathavant-garde Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu1910s Edit this on Wikidata
Olynwyd ganSwrealaeth Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Hugo Ball yn perfformio yn y clwb Cabaret Voltaire

Roedd Dada yn fudiad celfyddydol avant-garde Ewropeaidd ar ddechrau'r 20g. Dechreuwyd yn wreiddiol yn Zürich, Y Swistir ym 1916 fel ymateb yn erbyn erchylltra a gwallgofrwydd y Rhyfel Byd Cyntaf.

Roedd peintiadau, barddoniaeth a pherfformiadau artistiaid Dada yn aml yn ddychanol neu'n ymddangos yn absẃrd[1]

Ymhlith prif ymgyrchwyr y mudiadad roedd: Hugo Ball, Emmy Hennings, Hans Arp, Raoul Hausmann, Hannah Höch, Johannes Baader, Tristan Tzara, Francis Picabia, Richard Huelsenbeck, George Grosz, John Heartfield, Marcel Duchamp, Beatrice Wood, Kurt Schwitters, Hans Richter, a Max Ernst.

Hanes[golygu | golygu cod y dudalen]

Fountaine (Pistyll), Marcel Duchamp, 1917
Dadamatinée gan Theo van Doesburg
Grosz ac Heartfield yn y Ffair Dada, Berlin, 1920. Mae'r placard yn dweud Mae Celf yn Farw – Mae Celf-beirianyddol Tatlin yn fyw
Poster DaDa, Swistir, 1920
Francis Picabia, 1913
Beatrice Wood a Marcel Duchamp, 1917

Bu'r Swistir yn wlad niwtral yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf ac yn ddihangfa i arlunwyr a llenorion ifanc o'r Almaen a Ffrainc a oedd am osgoi gorfod ymladd ac oedd yn gwrthwynebu teimladau cryfion o wladgarwch, jingoistiaeth a chasineb a oedd ar led trwy bobloedd Ewrop ar y pryd. Wrth i'r rhyfel droi'n gyflafan waedlyd bu llawer yn ystyried fod dynoliaeth wedi colli pob rheswm ac wedi disgyn i wallgofrwydd.

Sefydlodd yr Almaenwyr Hugo Ball a Emmy Hennings glwb cabaret yn Zürich o'r enw Cabaret Voltaire ble gynhaliwyd perfformiadau yn gwawdio a dychanu 'synnwyr cyffredin' ac ymddygiad 'normal'. Enwyd y clwb ar ôl yr awdur Ffrangeg Voltaire (1694-1778) a ymosododd ar arferion cymdeithas ei gyfnod yn ei lyfr Candide.

O'r Cabaret Voltaire tyfodd mudiad celfyddydol anffurfiol. Dewiswyd yr enw di-ystyr, plentynaidd 'Dada' ac yn fuan fe ledodd i Berlin, Paris ac Efrog Newydd.

Amcan y Dadawyr oedd troi rhesymeg wyneb i waered. Gan greu amrywiaeth eang o steils ac arddulliau newydd, roedd eu gwaith yn cynnwys, peintiadau, cerfluniaeth, llenyddiaeth, barddoniaeth, theatr, ffotograffiaeth, sinema a chollage.

Dylanwadwyd ar y Dadawyr gan fudiadau celfyddydol avant-garde eraill y cyfnod fel Ciwbiaeth, Dyfodoliaeth (Futurism) a Mynegiadaeth (Expressionism) ac anti-art (a ddyfeisiwyd ychydig o flynyddoedd yn gynt gan Marcel Duchamp).[2]

Roedd eu gweithgareddau yn cynnwys cyfarfodydd cyhoeddus, gwrthdystiadau a chyoeddi cylchgronau a maniffestos a oedd yn ddadlau'n frwd celfyddyd, diwylliant a gwleidyddiaeth.

Yn ogystal â bod yn erbyn rhyfel ac yn wrth-sefydliadol, roedd syniadaeth y Dadawyr yn aml yn gefnogol i fudiadau radicalaidd asgell chwith.[1]

Erbyn y 1930au yn yr Almaen, cafodd waith Dada ei gondemnio fel Entartete Kunst ('celf ddirywiedig') gan y Natsïaid a'i atal rhag ei arddangos yn gyhoeddus. Cafodd lawr o'r darluniau eu cipio a llyfrau eu llosgi gan y Natsïaid ac yn ddiweddarach anfonwyd llawer o'r artistiaid ac ysgrifenwyr na lwyddodd i ddianc yr Almaen i garchar neu'u lladd.

Wedi diwedd y Rhyfel Byd Cyntaf symudodd Tristan Tzara a nifer o'r Dadawyr o'r Swistir i Baris ble roeddent yn ddylanwadol iawn ymlith yr arlunwyr a llenorion avant-garde wrth i syniadaeth Dada gyfrannu at y genhedlaeth nesaf o fudiadau celf, yn arbennig Swrealaeth.[3]

Yr enw Dada[golygu | golygu cod y dudalen]

Mae tarddiad yr enw Dada'n aneglur, mae rhai'n credu ei fod yn air diystyr; mae eraill yn mynnu ei fod yn dod o'r iaith Rwmaneg – y gair am 'ie'. Roedd Tristan Tzara a Marcel Janco'n Rwmaniaid a sylwyd ar eu defnydd cyson o 'Da Da' gan eu cyfeillion yn Zürich. Mae eraill yn cyfeirio at hanes y grŵp o arlunwyr yn y Swistir yn dewis y gair ar hap trwy bwyntio cyllell ar eiriadur Ffrangeg – Almaeneg. Y cyllell yn glanio ar 'Dada' - gair plentynnaidd am geffyl pren neu hobi (fel hobby horse yn Saesneg).[4]

(Trwy gyd-ddigwyddiad defnyddir hefyd y gair 'Da Da' yn rhai ardaloedd o ogledd-orllewin Cymru ar gyfer melysion), fel a wneir yn Ffrangeg, gyda bon-bon.[5]

Enghraifft[golygu | golygu cod y dudalen]

Sut i wneud barddoniaeth Dada gan Tristan Tzara

♦ Cymerwch siswrn
♦ Dewiswch erthygl mor hir â'r gerdd rydych yn ei bwriadu
♦ Torrwch allan yr erthygl
♦ Wedyn torrwch bob gair sydd yn ffurfio'r erthygl ac yna'u rhoi mewn bag.
♦ Ysgydwch y bag yn ofalus
♦ Wedyn cymerwch y darnau allan, un ar ôl y llall, yn y drefn y maent yn gadael y bag.
♦ Copïwch yn gydwybodol
♦ Bydd y gerdd yn debyg ichi
♦ A dyma chi'n ysgrifennwr, yn wreiddiol hyd yr eithaf gyda dawn ddisglair ond heb werthfawrogiad yr heidiau cyffredin[6]

Rhai Dadawyr[golygu | golygu cod y dudalen]

  • Pierre Albert-Birot (1876-1967)
  • Guillaume Apollinaire (1880-1918)
  • Louis Aragon (1897-1982)
  • Jean/Hans Arp (1886-1966)
  • Alice Bailly (1872 -938)
  • Johannes Baader (1875-1955)
  • Johannes Theodor Baargeld (1892-1927)
  • Hugo Ball (1886-1927)
  • André Breton (1896-1966)
  • Arthur Cravan (1887- 1918?)
  • Jean Crotti (1878-1958)
  • Theo van Doesburg (1883-1931)
  • Marcel Duchamp (1887-1968)
  • Paul Éluard (1895-1952)
  • Max Ernst (1891-1976)
  • Julius Evola (1898-1974)
  • Lyonel Feininger (1871-1956)
  • Elsa von Freytag-Loringhoven (1874-1927)
  • George Grosz (1893-1959)
  • Raoul Hausmann (1886-1971)
  • John Heartfield (1891-1968)
  • Emmy Hennings (1885-1948)
  • Wieland Herzfelde (1896-1988)
  • Hannah Höch (1889-1978)
  • Richard Huelsenbeck (1892-1974)
  • Marcel Janco (1895-1984)
  • Tsuji Jun (1884-1944)
  • Hans Leybold (1892-1914)
  • Filippo Tommaso Marinetti (1876-1944)
  • Agnes Elizabeth Ernst Meyer (1887-1970)
  • Pranas Morkūnas (1900-1941)
  • Clément Pansaers (1885-1922)
  • Francis Picabia (1879-1953)
  • Man Ray (1890-1976)
  • Georges Ribemont-Dessaignes (1884-1974)
  • Hans Richter (1888-1976)
  • Kurt Schwitters (1887-1948)
  • Rudolf Schlichter (1890-1955)
  • Walter Serner (1889-1942)
  • Philippe Soupault (1897-990)
  • Sophie Taeuber-Arp (1889-1943)
  • Tristan Tzara (1896- 1963)
  • Takahashi Shinkichi (1901- 1987)
  • Beatrice Wood (1893- 1998)
  • Marius de Zayas (1880-1961)
  • Yi Sang (1910-1937)
  • Yves Klein (1928 -1962)
  • Christian Schad (1894-1982)
  • Viking Eggeling (1880-1925)

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. 1.0 1.1 http://www.tate.org.uk/learn/online-resources/glossary/d/dada
  2. http://www.theartstory.org/movement-dada.htm
  3. Tristan Tzara 1896–1963", in Susan Salas, Laura Wisner-Broyles, Poetry Criticism, Vol. 27, Gale Group Inc., 2000, eNotes.com; retrieved April 23, 2008
  4. http://www.dadart.com/dadaism/dada/020-history-dada-movement.html
  5. Griffiths, Bruce a Jones, Dafydd Glyn. Geiriadur yr Academi (Caerdydd, Gwasg Prifysgol Cymru, 1995 [argraffiad 2006]), t. 1422 [sweet].
  6. http://www.writing.upenn.edu/~afilreis/88v/tzara.html