Kurt Schwitters

Oddi ar Wicipedia
Kurt Schwitters
FfugenwKurt Merz Schwitters Edit this on Wikidata
GanwydKurt Hermann Eduard Karl Julius Schwitters Edit this on Wikidata
20 Mehefin 1887 Edit this on Wikidata
Hannover Edit this on Wikidata
Bu farw8 Ionawr 1948 Edit this on Wikidata
Kendal Edit this on Wikidata
Man preswylDöhren-Wülfel Edit this on Wikidata
DinasyddiaethTeyrnas Ffrainc Edit this on Wikidata
Galwedigaetharlunydd, cerflunydd, dylunydd graffig, ysgrifennwr, bardd, cynllunydd, ffotograffydd Edit this on Wikidata
Adnabyddus amMerzbau, An Anna Blume, Ursonate Edit this on Wikidata
Arddullcelf haniaethol Edit this on Wikidata
Prif ddylanwadDe Stijl Edit this on Wikidata
Plaid WleidyddolPlaid Sosialaidd, Democrataidd yr Almaen Edit this on Wikidata
MudiadDada Edit this on Wikidata
TadEduard Hermann Schwitters Edit this on Wikidata
PriodHelma Schwitters Edit this on Wikidata
PartnerEdith Thomas, called Wantee (Wanty) Edit this on Wikidata
PlantErnst Schwitters Edit this on Wikidata
llofnod

Roedd Kurt Schwitters (Herman Edward Karl Julius Schwitters, 20 Mehefin 18878 Ionawr 1948) yn arlunydd arloesol yn Yr Almaen ar hanner cyntaf yr 20g.

Arbrofodd gyda steil Ciwbaidd a Mynegiadaeth (expressionist) ac yn 1919 creuodd waith collage a defnyddiodd y term “Merz,” ar gyfer ei holl waith creadigol o farddoniaeth, collage a cerflunwaith.

Roedd yn rhan o'r grŵp Dada ym Berlin ar ddechrau 1920au gyda Jean Arp and Raoul Hausmann a Hannah Höch. Roedd yn rhan o'r arddangosfa yn Der Sturm a chyfrannodd i'r cylchgrawn Der Sturm .

Gydag Arp, mynychodd y Kongress der Konstructivisten yn Weimar ym 1922. Yno daeth yn ffrindau gyda'r arlunydd Iseldireg Theo van Doesburg a dylanwadwyd gan ei waith De Stijl.

Rhwng 1923 i 1932 cyhoeddodd cylchgrawn Merz gan arbrfi gyda dulliau Teipograffi a dechreuodd ar ei Merzbau - cerflunwaith a daeth i lenwi ei stiwdio yn Hannover. Cafodd ei waith eu cynnwys yn arddangosfeydd Ciwbaidd, Dada, Haniaethol (abstract) a Swrreal yn Zürich, Paris ac Efrog Newydd.

Hefyd rhwng 1923 a 1932 cyfansoddodd Ursonate - barddoniaeth sain a dylanwadwyd gan Raoul Hausmann. Mae'r cerdd yn defnyddio seiniau yn hytrach na geiriau arferol.[1]

Yn 1937 cafodd Schwitters a llawer iawn o artistiaid a llenorion eu gwahadd gan y Natsïaid. Cafodd eu gwaith ei alw'n Entartete Kunst - 'Celf Ddirywiedig'. Trefnodd y Natsïaid arddangosfeydd o waith 'dirywiedig' gan rhoi cyfle i'r cyhoedd chwerthin ar ei ben. Distrywid llawr o'r darluniau a llosgwyd llyfrau. Fel llawer o arlunwyr, iddewon a gwrthwynebyr y Natsïad yn gyffredinol, roedd rhaid i Schwitters dianc yr Almaen rhag ofn iddo gael ei garcharu neu ladd.

Symudodd I Norwy a wedyn Lloegr. Yn Lloegr cafodd ei garcharu am dros flwyddyn gyda llawr o bobl eraill oedd wedi ffoi o'r Almaen ac Awstria, writh i'r llywodraeth yn poeni am sbïwyr. Bu farw yn Kendel ym 1947 [2]

Tudalen o gatalog yr arddangosfa Entartete Kunst - 'Celf Ddirywiedig', a drefnodd y Natsïaid. Mae llun o Merzbild gan Schwitters (chwith isaf). Cafodd y darluniau eu distrwyio gan y Natsïaid.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. UbuWeb; Sound". Ubu.com. 1932-05-05. Retrieved 2012-02-17.
  2. https://www.guggenheim.org/artwork/artist/kurt-schwitters