Joan Miró

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Joan Miró
Portrait of Joan Miro, Barcelona 1935 June 13.jpg
Ganwyd 20 Ebrill 1893 Edit this on Wikidata
Barcelona Edit this on Wikidata
Bu farw 25 Rhagfyr 1983 Edit this on Wikidata (90 oed)
Palma de Mallorca Edit this on Wikidata
Man preswyl Mont-roig del Camp, rue Blomet Edit this on Wikidata
Dinasyddiaeth Sbaen Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Cercle Artístic de Sant Lluc Edit this on Wikidata
Galwedigaeth arlunydd, lithograffydd, seramegydd, cerflunydd, cynllunydd stampiau post Edit this on Wikidata
Adnabyddus am Miró Wall, Dona i Ocell, Portrait of Vincent Nubiola, Nord-Sud (Miró), Retrat d'una vaileta, Hunanbortread, La casa de la palmera, La Ferme, Portrait d'une danseuse espagnole, Intérieur (La fermière), Yr Heliwr (tirlun), Le Carnaval d'Arlequin Edit this on Wikidata
Gwaith nodedig Miró Wall, Dona i Ocell, Portrait of Vincent Nubiola, Nord-Sud (Miró), Retrat d'una vaileta, Hunanbortread, La casa de la palmera, La Ferme, Portrait d'une danseuse espagnole, Intérieur (La fermière), Yr Heliwr (tirlun), Le Carnaval d'Arlequin Edit this on Wikidata
Arddull ceramic, Graffeg, Cerfluniaeth Edit this on Wikidata
Prif ddylanwad Modest Urgell Edit this on Wikidata
Mudiad Swrealaeth Edit this on Wikidata
Priod Pilar Juncosa Iglesias Edit this on Wikidata
Plant Maria Dolors Miró Edit this on Wikidata
Gwobr/au Uwch-Groes Urdd Isablla y Pabyddion, Medal Aur am Deilyngdod yn y Celfyddydau (Sbaen), Uwch-Groes Urdd Sifil Alfonso X, Marchog y Lleng Anrhydeddus Edit this on Wikidata
Llofnod
Miró, Joan 1893-1983 02 Signatur.jpg

Artist o Gatalaniad oedd Joan Miró i Ferrà (20 Ebrill 189325 Rhagfyr 1983). Caiff ei ystyried yn ffigwr blaenllaw mewn Swrealaeth, er iddo erioed fod yn aelod swyddogol o'r symudiad hynny. Bu'n ddylanwadol iawn ar gyfeiriad celf haniaethol yng nghanol yr 20g, yn enwedig yn yr Unol Daleithiau.[1]

Bywyd[golygu | golygu cod y dudalen]

Fe'i anwyd yn Barcelona i deulu o grefftwyr. Ar ôl dal teiffws symudodd i fyw yn ardal gwledig Montroig, ger Tarragona, er mwyn adfer ei iechyd.[1] Roedd ei blentyndod gwledig yn ysbrydoliaeth gyson iddo. Daeth trobwynt yn ei yrfa ym 1918 pan gafodd arddangosfa o'i waith yn oriel Lluís Dalmau; Dalmau oedd y cyntaf i arddangos gwaith peintwyr avant-garde Paris yn Barcelona. Bu'r arddangosfa yn fethiant a penderfynodd Miró symud i Baris.[1] Uchafbwynt ei waith cynnar yn nhyb rhai[2] oedd Y Fferm (1921–2), sy'n crynhoi ei atgofion o Montroig. Am nad oedd gan yr orielau arferol ddiddordeb yn y gwaith hwn fe'i werthodd i'w ffrind, yr awdur o Americanwr Ernest Hemingway; yn Oriel Gelf Genedlaethol yr Unol Daleithiau y mae'r llun bellach.[1]

Ym 1925 cymerodd Miró ran yn yr arddangosfa Swrealaidd cyntaf. Yn wahanol i weddill y Swrealwyr, gweithiai Miró mewn arddull haniaethol, ond roedd yn rhannu eu diddordeb hwy yn yr isymwybod.[3] Dywedodd André Breton, sylfaenydd y grwp, mai "Miró yw'r un mwyaf swrealaidd ohonom ni i gyd".[1]

Dona i Ocell ("Merch ac Aderyn", 1982), Parc Joan Miró, Barcelona

Ym 1929 priododd Miró ei gyfnither, Pilar Juncosa. O hyn ymlaen teimlodd yn fwy hyderus i fod yn radical yn ei waith, gan gyhoeddi ei fod am "lofruddio" confensiynau peintio. Dechreuodd greu collages mewn deunyddiau anarferol megis pren a metel. Daeth ei waith yn fwyfwy ymosodol ym mlynyddoedd Rhyfel Cartref Sbaen.[1] Creodd y murlun El segador (Payés catalán en rebeldía) ("Y cynaeafwr (Gwerinwr Catalwnaidd mewn gwrthryfel)") ar gyfer Pafiliwn Sbaen yn Arddangosfa Ryngwladol Paris ym 1937, yn yr un adeilad lle arddangoswyd campwaith Pablo Picasso, Guernica. Yn y pafiliwn roedd poster gan Miró ar werth o'r enw Aidez l'Espagne ("Helpiwch Sbaen"), â llun o Gatalaniad â'i ddwrn yn yr awyr.[4]

Ym 1939 symudodd Miró i fyw yn Varengeville, pentref bychan yn Normandi, lle parhaodd i greu peintiadau a oedd yn crynhoi atgofion o blentyndod a chefn gwlad Montroig. Dychwelodd i Sbaen yn y flwyddyn olynol, pan ddechreuodd weithio â serameg.[3] O 1940 i 1941 creodd gyfres o weithiau o'r enw Constellaciones ("Cytserau") a chaiff eu hystyried ymhlith ei weithiau pwysicaf. Yn 1941 cynhaliwyd arddangosfa fawr o'i waith yn Amgueddfa Gelf Fodern Efrog Newydd, a chwaraeodd hyn ran bwysig mewn sefydlu ei enw tu allan i Ewrop.[1] Cafodd sawl comisiwn cyhoeddus yn ei yrfa hwyr, gan gynnwys y murluniau serameg Mur du soleil ("Mur(lun) yr haul") a Mur de la lune ("Mur(lun) y lleuad"; 1956) ar gyfer pencadlys UNESCO ym Mharis.[3] Cynlluniodd hefyd dapestri ar gyfer Canolfan Masnach y Byd yn Efrog Newydd pan agorodd hynny ym 1974; dyma oedd un o'r gweithiau celf mwyaf gwerthfawr i gael ei ddinistrio yn ymosodiadau 11 Medi 2001.[5]

Sefydlwyd amgueddfa o'i waith, y Fundació Joan Miró, yn Barcelona ym 1975, mewn adeilad a'i gynlluniwyd gan ei ffrind Josep Lluís Sert a gyda chasgliad o beintiadau, cerfluniau a phrintiau a'u rhoddwyd gan yr artist ei hun. Bu farw Miró yn Palma de Mallorca ym 1983, ac ym 1992 sefydlwyd Fundació Pilar i Joan Miró yn ei hen stiwdio yno.[1]

Mae pedwar lithograff gan Miró, yn dyddio o'r 1970au, yng nghasgliad Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd. Fe'u rhoddwyd i'r amgueddfa gan y casglwyr Eric a Jean Cass yn 2013.[6]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i:
  1. 1.0 1.1 1.2 1.3 1.4 1.5 1.6 1.7 (Saesneg) Corredor-Matheos, José. Miró, Joan. Grove Art Online. Gwasg Prifysgol Rhydychen. Adalwyd ar 10 Mai 2014.
  2. Er enghraifft Robert Hughes yn The Shock of the New (1980)
  3. 3.0 3.1 3.2 (Saesneg) Hopkins, Justine. Miró, Joan. The Oxford Companion to Western Art. Gwasg Prifysgol Rhydychen. Adalwyd ar 10 Mai 2014.
  4. Borja-Villel, Manuel J.; et al., eds. (2010). The Collection: Museo Nacional Centro de Arte Reina Sofía – Keys to a Reading (Part I). Madrid: Ediciones de La Central. p. 169. 
  5. (Saesneg) Wenegrat, Saul (28 Chwefror 2002). Public Art at the World Trade Center. International Foundation for Art Research. Adalwyd ar 10 Mai 2014.
  6. (Saesneg) Joan Miró and John Hoyland works join National Museum Cardiff in dozen-artwork gift. Culture24 (26 Ebrill 2013). Adalwyd ar 10 Mai 2014.

Dolenni allanol[golygu | golygu cod y dudalen]