Neidio i'r cynnwys

Alfred George Edwards

Oddi ar Wicipedia
Alfred George Edwards
Ganwyd2 Tachwedd 1848 Edit this on Wikidata
Llanymawddwy Edit this on Wikidata
Bu farw22 Gorffennaf 1937 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethTeyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaethoffeiriad Anglicanaidd Edit this on Wikidata
SwyddEsgob Llanelwy, Archesgob Cymru Edit this on Wikidata

Archesgob cyntaf yr Eglwys yng Nghymru oedd Alfred George Edwards (2 Tachwedd 184822 Gorffennaf 1937).

Ganed ef yn Llanymawddwy. Cyhoeddodd Landmarks in the history of the Welsh Church yn 1912. Astudiodd yng Ngholeg yr Iesu, Rhydychen cyn ymgymryd â swydd Warden yng Ngholeg Llanymddyfri yn 1875. Yn yr un flwyddyn fe'i ordeiniwyd yn offeiriad. Yn 1885 fe'i benodwyd yn offeiriad Eglwys Sant Pedr, Caerfyrddin.[1]

Bu'n Esgob Llanelwy o 1889 hyd 1934,[2] ac yn 1920 penodwyd ef yn Archesgob Cymru, swydd y bu ynddi hyd 1934. Pan ddatgysylltwyd yr Eglwys yng Nghymru oddi wrth yr Eglwys yn Lloegr yn 1920 fe'i penodwyd yn Archesgob, y cyntaf. Ymddeolodd yn 1934, bu farw yn 1937 a chladdwyd ef yn Eglwys Gadeiriol Llanelwy.[3]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. Who's Who 1897–20, 1991, ISBN 978-0-19-954087-7
  2. The Bishop Of St Asaph (News), The Times, 26 Ebrill 1889; tud. 7; Rhif 32683; colofn F
  3. Ecclesiastical News, Archbishop Of Wales's Retirement (Official Appointments and Notices), The Times, 25 Gorffennaf 1934; tud. 15; Rhif 46815; colofn D
Rhagflaenydd:
swydd newydd
Archesgob Cymru
19201934
Olynydd:
Charles Alfred Howell Green