Rod Steiger

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Rod Steiger yn The Unholy Wife (1957).

Actor o Americanwr oedd Rodney Stephen "Rod" Steiger (14 Ebrill 19259 Gorffennaf 2002) sy'n enwocaf am ei rannau yn y ffilmiau On the Waterfront, The Big Knife, Oklahoma!, The Harder They Fall, Across the Bridge, The Pawnbroker, Doctor Zhivago, In the Heat of the Night, a Waterloo.

Ennillodd y Wobr Academi yr Actor Gorau yn y ffilm In the Heat of the Night (1967).

Bywyd cynnar[golygu | golygu cod y dudalen]

Ganwyd Rodney Stephen Steiger ar 14 Ebrill 1925 yn Westhampton ar Long Island yn nhalaith Efrog Newydd, yn unig blentyn i Lorraine (née Driver) a Frederick Steiger.[1] Roedd o dras Ffrengig, Albanaidd, ac Almaenig. Pâr dawns-a-chân oedd yn teithio am waith oedd ei rieni. Buont yn ysgaru cyn yr oedd eu mab yn un mlwydd oed, ac nid oedd Steiger yn adnabod ei dad. Cafodd ei fagu gan ei fam, oedd yn alcoholig, mewn amrwy o ddinasoedd yn New Jersey.[2][3] Gofalodd Steiger am ei fam am weddill ei hoes, ac yn hwyrach rhodd hi'r gorau i yfed a bu'n byw bywyd gwell o ganlyniad i lwyddiant ariannol ei mab.[4]

Dechreuodd actio tra yn ysgol uwchradd, West Side High School yn Newark, New Jersey. Gadawodd yr ysgol heb raddio yn 16 mlwydd oed, a bu'n dweud celwydd am ei oedran er mwyn iddo ymuno â Llynges yr Unol Daleithiau wedi'r ymosodiad ar Pearl Harbor ym 1941. Treuliodd y rhan fwyf o'r Ail Ryfel Byd yn un o griw torpido ar y llong ddistryw yr USS Taussig yn y Cefnfor Tawel. Ar ôl gadael y llynges gweithiodd fel gwas sifil gyda'r Swyddfa Dibynyddion a Buddiolwyr yn y Weinyddiaeth Gyn-filwyr yn Newark, ac ymunodd â grŵp theatr. Gan elwa ar fuddiau'r Mesur G.I., astudiodd mewn cyfres o ysgolion actio yn Ninas Efrog Newydd: y New School for Social Research, yr American Theatr Wing, y Dramatic Workshop, ac yna'r Actors Studio ar wahoddiad y cyfarwyddwr Daniel Mann.[2][3] Dysgodd dan arweiniad Elia Kazan a Lee Strasberg, ac ymhlith ei gyfoedion oedd Marlon Brando, Eva Marie Saint, Karl Malden, a Kim Stanley.[5]

Gyrfa[golygu | golygu cod y dudalen]

Gyrfa gynnar[golygu | golygu cod y dudalen]

Perfformiodd ar lwyfan yn gyntaf ym 1947 mewn rhan fechan yn The Trial of Mary Dugan.[3] Ym 1951 roedd ei ran cyntaf ar Broadway mewn adfywiad o Night Music gan Clifford Odets, ac ym 1952 roedd ar Broadway eto yn Seagulls Over Sorrento, comedi gan Hugh Hastings. Ymddangosodd yn An Enemy of the People, drama gan Henrik Ibsen, ym 1953.[1] Ei ffilm gyntaf oedd Teresa (1951). O 1948 hyd 1953 ymddangosodd mewn mwy na 250 o gynhyrchiadau byw o ddramâu teledu.[3] Ei ran enwocaf oedd y prif gymeriad yn y gyfres Marty, sef addasiad o ddrama gan Paddy Chayefsky am gigydd o'r Bronx sy'n cwympo mewn cariad ag athrawes swil. Enillodd Wobr Sylvania am y rôl hon. Ysgrifennodd y beirniad Jack Gould yn The New York Times: "Nid yw'n hawdd i liwio cymeriad sy'n fwriadol ddiflas gyda bywyd a chredadwyedd, ond llwyddodd Mr Steiger."[1] Gwrthododd Steiger i chwarae'r rhan hon ar gyfer addasiad ffilm ym 1955, gan iddo wrthod arwyddo contract hir dymor,[4] ac aeth i Ernest Borgnine a enillodd Wobr yr Academi amdani.[2]

Enwogrwydd[golygu | golygu cod y dudalen]

Chwaraeodd Charley Malloy, brawd i gymeriad Marlon Brando, yn On the Waterfront (1954), a enwebwyd am Wobr yr Academi am yr Actor Gorau mewn Rhan Gefnogol. Cafodd Karl Malden a Lee J. Cobb, a ymddangosodd yn y ffilm hefyd, eu henwebu am yr un wobr, gan hollti'r bleidlais rhyngddynt. Yn ôl Roger Ebert mae Steiger yn anhepgor i'r ffilm hon ac yn "dod ag addfwynder cystal â Brando",[6] ac yn ôl adolygiad Variety o'r ffilm roedd Steiger yn ddewis da gan iddo dueddu i siarad yn yr un modd petrus ac oediog â Brando.[7] Ymddangosa'r ddau mewn cefn tacsi yng ngholygfa enwocaf y ffilm, a gyda'r euogrwydd a ddangosir gan Steiger a'r waredigaeth a ddangoswyd gan Brando ceir un o'r golygfeydd mwyaf emosiynol mewn hanes y sinema.[8]

Cafodd ei ddewis gan Fred Zinnemann i chwarae'r dyn drwg Jud Fry yn Oklahoma! (1955), addasiad o'r sioe gerdd o'r un enw. Bu'n canu a dawnsio yn y rôl, ac ar y cyfan cafodd ei glodfori er yr oedd rhai beirniaid yn credu bod ei bortread yn "debycach i gymeriad o nofel gan Dostoyevsky yn hytrach na chymeriad mewn libreto gan Oscar Hammerstein"[1] ac yn "llawn cymaint o boendodau seicolegol i danseilio hwyliau da a gobaith" y stori.[2] Chwaraeodd cynhyrchydd ffilm didostur yn The Big Knife (1955), sydd yn ôl Brian Baxter yn The Guardian yn "un o'r perfformiadau dros ben llestri mwyaf gofiadwy mewn sinema ers yr Ail Ryfel Byd".[4] Ymhlith y rhannau eraill a ddilynodd ar y sgrîn fawr oedd yr erlynydd yn The Court-Martial of Billy Mitchell (1955), hyrwyddwr gornestau paffio yn The Harder They Fall (1956; ffilm olaf Humphrey Bogart), a chowboi creulon yn Jubal (1956). Yn Run of the Arrow (1957) chwaraeodd dyn o Dde'r Unol Daleithiau sy'n ymuno â'r Sioux ar ôl Rhyfel Cartref America. Cafodd brofiad anhapus wrth wneud y ffilm hon,[4] ac ystyriwyd ei berfformiad digalon yn gamgymeriad gan y beirniaid ar y pryd, ond erbyn heddiw mae dilyniant cwlt gan y ffilm.[2]

Diana Dors a Steiger mewn hysbyslun ar gyfer The Unholy Wife.

Ymddangosodd yn y felodrama The Unholy Wife (1957), ffilm Americanaidd gyntaf Diana Dors. Teithiodd i Brydain i ffilmio Across the Bridge (1957), addasiad o stori gan Graham Greene am ariannwr amheus ar ffo ym Mecsico. Rhodd berfformiad o "drugaredd a chryfder",[4] ond nid oedd y ffilm yn llwyddiannus. Derbynodd glod am bortreadu'r prif ran yn Al Capone (1959). Dychwelodd Steiger i Broadway ym 1959 gan chwarae'r bandit yn Rashomon, addasiad o ffilm Akira Kurosawa. Bu'n rhedeg am 159 o berfformiadau a chyd-serennodd yr actores Seisnig Claire Bloom, a ddaeth yn ail wraig i Steiger. Ymddangosodd y cwpl gyda'i gilydd eto yn The Illustrated Man (1969), ffilm wyddonias yn seiliedig ar straeon Ray Bradbury, ac yn Three into Two Won't Go (1969), ffilm ddrama am anffyddlondeb mewn priodas.[2]

Rod Steiger ym 1961.

Chwaraeodd seiciatrydd yn y ffilm BrydeinigThe Mark (1961). Yn y cyfnod hwn ymddangosodd mewn rhagor o raglenni teledu, gan gynnwys Cry Terror, Seven Thieves, 13 West Street, a Convicts Four[4] Chwaraeodd goroeswr Iddewig o'r Holocost o'r enw Sol Nazerman yn The Pawnbroker (1964), a gyfarwyddwyd gan Sidney Lumet, ac yn ôl Steiger hwnnw oedd ei berfformiad gwychaf.[3] Cafodd ei enwebu eildro am Wobr yr Academi am ei ran yn y ffilm honno, ac enillodd y Wobr am Actor Gorau yng Ngŵyl Ffilm Berlin a'r Wobr BAFTA am Actor Tramor Gorau. Rhan gomig oedd ganddo fel y trefnwr angladdau Mr Joyboy yn The Loved One (1965), addasiad gan Tony Richardson o nofel fer gan Evelyn Waugh sy'n dychanu agweddau Americanaidd tuag at farwolaeth. Y ffilm fwyaf lwyddiannus fasnachol i Steiger ymddangos ynddi oedd yr epig Doctor Zhivago (1965) a gyfarwyddwyd gan David Lean. Komarovsky oedd ei gymeriad yn y ffilm honno. Ym 1966 chwaraeodd Willy Loman mewn addasiad teledu o'r ddrama Death of a Salesman gan Arthur Miller.[4]

Enwebwyd am Wobr yr Academi unwaith yn rhagor, am yr Actor Gorau, am ei ran fel Bill Gillespie yn In the Heat of the Night (1967), ac enillodd y wobr. Siryf hiliol mewn tref ym Mississippi yw Gillespie, sy'n gwrthdaro gyda ditectif croenddu. Wrth dderbyn y wobr gan Audrey Hepburn, trodd Steiger at ei gyd-seren yn y ffilm, Sidney Poitier, gan roi diolch iddo "am bleser cyfeillgarwch a rodd imi'r wybodaeth a'r ddealltwriaeth i ddyrchafu perfformiad fy hunan".[5]

Chwaraeodd rhingyll atalnwydus gyfunrywiol yn The Sergeant (1968), pwnc dadleuol ar y pryd. Rhodd berfformiad "hamaidd, ond gwych"[2] o lofrudd cyfresol gyda phersonoliaethau lluosog yn y comedi du No Way to Treat a Lady (1968). Cymysg oedd derbyniad y ffilm, ond yn gyffredinol cafodd actio Steiger ei ganmol ac roedd yn un o'i hoff rannau. Yn ôl beirniad y cylchgrawn Time, "ni all unrhyw actor Americanaidd mawr arall wedi lwyddo gyda'r fath tour de force amlochrog".[1]

Gyrfa hwyrach[golygu | golygu cod y dudalen]

Rod Steiger ym 1978.

Gwrthododd y brif ran yn y ffilm Patton (1970), ar sail ei anfodlonrwydd i ogoneddu rhyfel. Aeth y rhan i George C. Scott, a enillodd Wobr yr Academi. Yn hwyrach datganodd Steiger taw gwrthod y rôl hon oedd camgymeriad mwyaf ei yrfa.[9] Portreadodd Steiger ffigur milwrol hanesyddol mawr arall y flwyddyn honno, Napoleon Bonaparte yn y ffilm Sofietaidd-Eidalaidd Waterloo, cyferbyn Christopher Plummer mewn rhan Dug Wellington. Er iddi fethu yn y swyddfa docynnau, ystyrir heddiw yn ffilm ryfel dda am ei olygfeydd epig a realistig o frwydro, gyda miloedd o rodwyr, a derbynodd glod am ei chywirdeb hanesyddol.[10] Roedd gwneud y ffilm yn brofiad annifyr i Steiger, oedd yn teimlo'n isel yn sgil ei ysgariad i Claire Bloom.[11][12] Mewn adolygiad negyddol o'r ffilm yn The New York Times, sy'n canolbwyntio ar Steiger a'r cyfarwyddwr Sergei Bondarchuk, ysgrifennodd Roger Greenspun: "Mae'n berfformiad ofnadwy, a phwysleisir pob nodwedd arddulliedig ohonno gan ddetholusrwydd eliffantaidd camera Bondarchuk [...] Yn ystod rhannau cyntaf Waterloo, pan mae Napoleon i'w weld llawer, meddyliais nad oedd yr un gyfarwyddwr, nid hyd yn oed Bondarchuk, yn haeddu perfformiad Steiger. Yn hwyrach, yn y frwydr, teimlais nad oedd angen i hyd yn oed Steiger ddioddef cyfarwyddo Bondarchuk. Ond nawr mae gosteg feirniadol wedi rhoi popeth mewn persbectif, sylweddolwn maent yn llawn haeddu ei gilydd."[13]

Ymddangosodd yn rheolaidd mewn cynhyrchiadau Ewropeaidd. Gweithiodd gyda'r cyfarwyddwr ffilm Eidalaidd Francesco Rosi ar gyfer Le Mani sulla Citta (1963), ffilm wleidyddol am lygredigaeth yn Napoli, a Lucky Luciano (1973), ffilm fywgraffyddol am y gangster Lucky Luciano. Roedd Steiger yn adroddwr E Venne un Uomo (1965), ffilm led-ddogfennol a gyfarwyddwyd gan Ermanno Olmi yn seiliedig ar ysgrifennau'r Pab Ioan XXIII. Serennodd gyda James Coburn yn y ffilm gowboi Eidalaidd gan Sergio Leone, Giù la testa (1971; teitlau Saesneg: Duck, You Sucker! ac A Fistful of Dynamite). Ymhlith ei waith arall yn Ewrop oedd Les Innocents aux Mains Sales (1975), ffilm gyffrous gan Claude Chabrol. Chwaraeodd Pontiws Peilat yn y gyfres deledu epig Jesus of Nazareth/Gesù di Nazareth (1977), a gyfarwyddwyd gan Franco Zeffirelli.[2] Chwaraeodd Mussolini yn Mussolini: Ultimo atto (1975).

Chwaraeodd offeiriad yn The Amityville Horror (1979), maer Efrog Newydd yn The January Man (1989), pregethwr yn The Ballad of the Sad Cafe (1991), a gangster o Giwba yn The Specialist (1994).[2] Roedd y mwyafrif o'i waith hwyrach yn llai llwyddiannus na'i ffilmiau yn y 1950au a'r 1960au, ac eithrio ei berfformiadau medrus yn W.C. Fields and Me (1976), The Player (1992; yn chwarae ei hunan), y gyfres deledu Tales of the City (1993), a The Specialist (1994).[3] Yn ôl Philip French, beirniad The Observer, un o'i rannau gorau ond a anghofir yn aml yw'r rabi Hasidig yn The Chosen (1981).[8] Chwaraeodd cadfridog yn y ffilm gomedi Mars Attacks! (1996), a barnwr yn The Hurricane (1999). Ei ffilm olaf cyn iddo farw oedd A Month of Sundays (2001), a'i ffilm olaf a ryddhawyd yn fasnachol ychydig misoedd wedi ei farwolaeth oedd Poolhall Junkies (2002).

Dull actio[golygu | golygu cod y dudalen]

Dysgodd Steiger y dull actio method, a gyda'r hyfforddiant hwn daeth ag angerdd a mynegiant grymus wrth bortreadu amrywiaeth eang o gymeriadau cymhleth.[3] Dywedodd, "addysgwyd fy nghenhedlaeth i o actorion i allu creu gwahanol bobl – dyna y dylai actor ei wneud".[14] Yn yr Actors Studio, dysgodd "i actio o'r tu mewn, y tu allan" ac i "siarad i bersonau eraill yn y stori yn lle darllen llinellau mewn llais ffug".[5] Yn ogystal â'i hyfforddiant mewn ysgolion actio Efrog Newydd, bu Steiger hefyd yn tynnu ar brofiadau ei hunan, gan ddweud roedd rhai o'i berfformiadau yn ymgais iddo ganfod hunan-barch.[9] Mynnodd fod henaint dim ond yn gwella'i sgiliau actio: "Beirdd, beirdd symudol, yw'r actorion ardderchog. Mae'r fecanwaith yn mynd yn hŷn ond na drenga'r synnwyr barddol fyth".[1]

Disgrifiodd Samuel Fuller, a gyfarwyddodd Steiger yn Run of the Arrows, actor oedd yn anodd ei reoli: "Mae ganddo lawer o ddawn, ond nid yw'n gwybod sut i'w defnyddio...mae'n colli arno'i hun ac mae'n rhaid ei gyfarwyddo'n gaeth."[2] Dyn byrdew gyda gwar braff a llygaid treiddgar oedd Steiger, a roedd ei olwg gorfforol yn ychwanegu at ei bresenoldeb stormus a ffyrnigodd gydag iaith gorfforol ymosodol. Yn ôl y beirniad Philip French roedd yn llenwi ei gymeriadau gyda chymysgedd, weithiau'n ormodol, o emosiwn: "personoliaeth gymhleth, synnwyr ofnadwy o boen, baich euogrwydd, hunanymholiad angerddol, obsesiwn gydag dilysrwydd".[8] Roedd ar ei orau wrth ddangos cyfuniad o natur fygythiol a meddylgar.[9] Gwelir ei bortread crefftus o boen a dioddefaint mewn ei ddwy ffilm enwocaf, On the Waterfront ac In the Heat of the Night. Llwyddodd Elia Kazan i gyfeirio Steiger i ffwrdd o'i reddfau gwaethaf a chael perfformiad cynnil a sobr ganddo yn On the Waterfront. Yn In the Heat of the Night, rhodd bortread emosiynol o gymeriad culfarn ond bregus, yn arbennig yr olygfa lle mae'n yfed bwrbon ac yn cyfaddef ei fod yn teimlo'n unig.[2] Dywedodd cyfarwyddwr y ffilm honno, Norman Jewison, yr oedd yn amhosib i siarad i Steiger, hyd yn oed i ffwrdd o'r set, gan yr oedd yn mynnu siarad mewn acen ddeheuol araf ei gymeriad.[1]

Mewn ymgais i ennill clod a siapio presenoldeb awdurdodol ar y sgrîn, chwaraeodd Steiger nifer o gymeriadau hanesyddol unigryw gan bortreadu cyfuniad o rym a bregusrwydd.[9] Ymhlith y rhain oedd Al Capone, Napoleon, Mussolini, Rasputin, Ulysses S. Grant, a W. C. Fields. Un o nodweddion dysgeidiaeth y method yw i wisgo cnawd am rôl drwy greu bywgraffiad eang o'r cymeriad. Er enghraifft, chwaraeodd Napoleon fel dyn sâl oedd yn gaeth i lodnwm. Yn ôl rhai beirniaid, roedd tuedd i'r dechneg hon fethu i Steiger. Enillodd glod eang am ei bortread o Capone, wedi iddo ymchwilio'n drylwyr i hanes y gangster, ond beirniadwyd nifer o'r perfformiadau eraill yn negyddol.[2] Er hyn, parheir ei enw fel un o actorion cymeriad ac actorion method mwyaf ddawnus ei genhedlaeth.[9][1]

Bywyd personol[golygu | golygu cod y dudalen]

Bu Steiger yn dioddef o iselder ysbryd am nifer o flynyddoedd, a siaradodd yn gyhoeddus am yr afiechyd hwn.[9] Cafodd gyfnod difrifol o iselder, a barodd am wyth mlynedd yn y 1970au, o ganlyniad i fethiant ei briodas i Claire Bloom a llawdriniaeth am glefyd y galon. Bydd yn aros yn y gwely yn syllu ar y nenfwd, braidd byth yn siarad a dim yn golchi'i hunan. Dywedodd roedd y symptomau mor wael, bu bron yn saethu ei hunan ar ddau achlysur, ac yn meddwl dros lofruddio'i wraig.[2] Roedd ganddo hefyd broblemau rheoli ei bwysau, ac roedd ar adegau yn fwy na 240 o bwysau.[1]

Roedd Steiger yn rhywbeth o allanwr yn Hollywood, a gwrthododd i arwyddo contractau gyda'r stiwdios mawr.[9] Beirniadodd actorion eraill am roi arian yn uwch nag egwyddorion, a galwodd y diwydiant yn "show business, business, business".[14] Honnodd taw ei oedran oedd yn ei atal rhag cael gwaith yn hwyrach yn ei fywyd, "oherwydd yr ydym yn byw mewn gwlad sy'n addoli ieuenctid a sydd ganddi ofn hysterig o farwolaeth".[1] Derbynodd seren ar yr Hollywood Walk of Fame ym 1997.[4]

Bu'n briod pum gwaith. Parhaodd ei briodas i Sally Gracie am ychydig o fisoedd, ond ni ysgarodd y ddau nes chwe mlynedd (1952–58). Yr actores Claire Bloom (1959–69) oedd ei ail wraig, a chafwyd merch, y gantores opera Anna Justine Steiger (ganwyd 1960). Sherry Nelson (1973–79) oedd ei drydedd wraig. Cafodd fab, Michael, gyda'i bedwaredd wraig, y gantores Paula Ellis (1986–97). Yr actores Joan Benedict (2000–ei farwolaeth) oedd ei wraig olaf.[1]

Bu'n byw ym Malibu, Califfornia, am dros 40 mlynedd.[4] Bu farw Rod Steiger yn 77 oed ar 9 Gorffennaf 2002 yn Los Angeles, Califfornia, o niwmonia a methiant yr aren wedi iddo fynd i ysbyty am lawdriniaeth ar ei goden fustl.[14]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. 1.00 1.01 1.02 1.03 1.04 1.05 1.06 1.07 1.08 1.09 1.10 (Saesneg) Richard Severo (10 Gorffennaf 2002). Rod Steiger, Oscar-Winning Character Actor, Dies at 77. The New York Times. Adalwyd ar 18 Mehefin 2015.
  2. 2.00 2.01 2.02 2.03 2.04 2.05 2.06 2.07 2.08 2.09 2.10 2.11 2.12 (Saesneg) Obituary: Rod Steiger. The Daily Telegraph (10 Gorffennaf 2002). Adalwyd ar 18 Mehefin 2015.
  3. 3.0 3.1 3.2 3.3 3.4 3.5 3.6 (Saesneg) Rodney Stephen Steiger. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 17 Mehefin 2015.
  4. 4.0 4.1 4.2 4.3 4.4 4.5 4.6 4.7 4.8 (Saesneg) Brian Baxter (10 Gorffennaf 2002). Obituary: Rod Steiger. The Guardian. Adalwyd ar 24 Mehefin 2015.
  5. 5.0 5.1 5.2 (Saesneg) Rupert Cornwell (10 Gorffennaf 2002). Rod Steiger, 'brooding and volatile' Hollywood tough guy for more than 50 years, dies aged 77. The Independent. Adalwyd ar 18 Mehefin 2015.
  6. (Saesneg) Roger Ebert (21 Mawrth 1999). On the Waterfront Movie Review. rogerbert.com. Adalwyd ar 23 Mehefin 2014.
  7. (Saesneg) Review: ‘On the Waterfront’. Variety (14 Gorffennaf 1954). Adalwyd ar 23 Mehefin 2015.
  8. 8.0 8.1 8.2 (Saesneg) Philip French (14 Gorffennaf 2002). 'Steiger brought a sense of pain, guilt and authenticity to his characters'. The Observer. Adalwyd ar 23 Mehefin 2015.
  9. 9.0 9.1 9.2 9.3 9.4 9.5 9.6 (Saesneg) Obituary: Rod Steiger. BBC (9 Gorffennaf 2002). Adalwyd ar 17 Mehefin 2015.
  10. (Saesneg) Waterloo. Channel 4 (8 Ebrill 1971). Adalwyd ar 23 Mehefin 2015.
  11. (Saesneg) Roger Ebert (8 Ebrill 1971). Waterloo Movie Review & Film Summary. rogerebert.com. Adalwyd ar 23 Mehefin 2015.
  12. (Saesneg) Roger Ebert (4 Ebrill 1971). Interview with Rod Steiger. rogerebert.com. Adalwyd ar 23 Mehefin 2015.
  13. (Saesneg) Roger Greenspun (3 Ebrill 1971). Waterloo (1970): A Battle Fought Strictly for the Camera:Bondarchuk Directs Craig's 'Waterloo' Rod Steiger Portrays Ill-Fated Napoleon. The New York Times. Adalwyd ar 23 Mehefin 2015.
  14. 14.0 14.1 14.2 (Saesneg) Screen legend Steiger dies. BBC (10 Gorffennaf 2002). Adalwyd ar 17 Mehefin 2015.

Dolenni allanol[golygu | golygu cod y dudalen]

Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia gyfryngau sy'n berthnasol i: