Al Capone

Oddi ar Wicipedia
Al Capone
GanwydAlphonse Gabriel Capone Edit this on Wikidata
17 Ionawr 1899 Edit this on Wikidata
Brooklyn Edit this on Wikidata
Bu farw25 Ionawr 1947 Edit this on Wikidata
o ataliad y galon Edit this on Wikidata
Palm Island Edit this on Wikidata
Man preswylEastern State Penitentiary Edit this on Wikidata
DinasyddiaethUnol Daleithiau America Edit this on Wikidata
Galwedigaethgangster Edit this on Wikidata
Taldra1.79 metr Edit this on Wikidata
TadGabriele Capone Edit this on Wikidata
PriodMae Capone Edit this on Wikidata
PlantAlbert Francis "Sonny" Capone Edit this on Wikidata
llofnod

Gangster oedd Alphonse Gabriel Capone (17 Ionawr, 189925 Ionawr, 1947), a adnabyddir yn well fel Al "Scarface" Capone. Arweiniodd criw o ddynion i smyglo gwirodydd yng nghyfnod y gwaharddiad alcohol yn UDA yn ystod y 20au a'r 30au. Fe'i ganwyd yn Brooklyn, Efrog Newydd i ddau fewnfudwr o'r Eidal. Ar ôl symud i Chicago daeth yn ben ar griw annystywallt a alwyd yn Chicago Outfit - er fod ei gerdyn busnes yn ei ddisgrifio fel 'Gwerthwr Hen Ddodrefn'. Tua diwedd y 1920au roedd gan yr Federal Bureau of Investigation ddiddordeb yn ei weithgareddau ac erbyn 1931 fe'i cafwyd yn euog mewn llys barn o osgoi talu'r dreth incwm. Yn 1929 trefnodd yr hyn a alwyd yn Cyflafan Sant Ffolant (St. Valentine's Day Massacre) pan arweiniodd dau o'i brif ddynion (sef Jack "Machine Gun" McGurn a'r Cymro Murray the Hump griw o'i ddynion wedi'u gwisg fel heddweision, a lladd saith o ddynion ei elyn mawr "Bugs" Moran. Un o'r pethau sydd wedi ei wneud yn 'gangster' rhamantus, erbyn heddiw, ydy ei steil unigryw. Er enghraifft, yn aml iawn danfonai gwerth cannoedd o bunnoedd o flodau i deulu'r dyn roedd wedi ei ladd! Gwerth $5,000 ar un adeg! Mewn digwyddiad arall, pan anafwyd merch cwbwl ddieuog heb gyswllt â'r cwerlya, talodd Capone holl filiau ei thriniaeth yn yr ysbyty. Cytunai llawer o drigolion lleol â'i wrthwynebiad i'r Gwaharddiad. Daeth un o'i glybiau nos, y Cotton Club, yn gyrchfan poblogaidd iawn i sêr ifanc megis Charlie Parker a Bing Crosby. Ond dyn treisgar ydoedd yn y bôn ac ar un achlysur trywanodd dau o'i brif ddynion gyda batiau pêl-fâs, gan eu lladd. Yn 1932 cafodd ei ddanfon i Garchar Atlanta ac yna i Alcatraz.

Baner Unol Daleithiau AmericaEicon person Eginyn erthygl sydd uchod am Americanwr neu Americanes. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.