Oklahoma! (ffilm 1955)

Oddi ar Wicipedia
Oklahoma!
Poster y ffilm
Cyfarwyddwyd ganFred Zinnemann
Cynhyrchwyd ganArthur Hornblow Jr.
Awdur (on)Sonya Levien
William Ludwig
Seiliwyd arOklahoma! gan
Lynn Riggs
Oscar Hammerstein II
Yn serennuGordon MacRae
Shirley Jones
Gloria Grahame
Gene Nelson
Charlotte Greenwood
Rod Steiger
Eddie Albert
James Whitmore
Cerddoriaeth ganRichard Rodgers
Oscar Hammerstein II
SinematograffiRobert Surtees
Floyd Crosby
Golygwyd ganGeorge Boemler
Gene Ruggiero
Dosbarthwyd ganMagna Theatre Corporation (70mm)
RKO Radio Pictures (35mm)
Rhyddhawyd gan
  • Hydref 11, 1955 (1955-10-11) (Rivoli Theatre)[1]
Hyd y ffilm (amser)145 munud
GwladUnol Daleithiau
IaithSaesneg
Cyfalaf$6.8 miliwn
Gwerthiant tocynnau$7.1 miliwn (amcangyfrif UD/ Canada)[2]

Mae Oklahoma! yn ffilm gerdd Americanaidd a gyhoeddwyd ym 1955 yn seiliedig ar sioe gerdd 1943 o'r un enw gan Richard Rodgers ac Oscar Hammerstein II, gyda Gordon MacRae, Shirley Jones (yn ei ymddangosiad ffilm cyntaf), Rod Steiger, Charlotte Greenwood, Gloria Grahame, Gene Nelson, James Whitmore, ac Eddie Albert. Y cynhyrchiad oedd yr unig ffilm gerdd a gyfarwyddwyd gan Fred Zinnemann.[3]

Wedi'i lleoli yn nhiriogaeth Oklahoma, mae'n adrodd stori merched y fferm, Laurey Williams (Jones), a'i charwriaeth gyda dau ddarpar gymar sy'n cystadlu am ei serch, y cowboi Curly McLain (McRae) a'r gwas ffarm sinistr a brawychus Jud Fry (Steiger). Mae rhamant eilaidd yn y stori am y berthynas rhwng y cowboi Will Parker (Nelson) a'i chariad, y fflyrt Ado Annie (Grahame) [4]

Thema cefndir yw dyhead y diriogaeth ar gyfer dod yn Dalaith yn Unol Daleithiau America a'r gwrthdaro lleol rhwng gŵyr gwartheg a ffermwyr.

Derbyniodd y ffilm adolygiad gwych gan The New York Times, a chafodd ei ethol yn "Dewis Beirniaid y New York Times".[5] Yn 2007, cafodd Oklahoma! ei ddewis ar gyfer ei gadw yng Nghofrestrfa Ffilm Genedlaethol yr Unol Daleithiau gan Lyfrgell y Gyngres fel un "arwyddocaol yn ddiwylliannol, yn hanesyddol neu'n esthetig"

Plot[golygu | golygu cod]

Mae Curly yn marchogaeth ei geffyl drwy'r caeau corn. Mae'n cyrraedd fferm Modryb Eller. Mae Laurey Williams yn nith i Fodryb Eller, ac mae Curly mewn cariad a hi. Mae Laurey yn caru Curly hefyd, ond mae'n gyndyn i gyfaddef hynny. Mae Curly wedi dod i ofyn Laurey i barti'r noson honno, ond mae Laurey wedi pechu bod Curly wedi aros tan fore'r parti i ofyn. Er mwyn ei wneud yn eiddigeddus, mae hi'n cytuno i fynd gyda Jud, gwas unig, cythryblus Modryb Eller, er ei bod yn ei ofni o.[6]

Yn yr orsaf, mae Modryb Eller yn cwrdd â'r cowboi crwydrol Will Parker, sydd newydd ddychwelyd o Ddinas Kansas ac yn gobeithio priodi Ado Annie. Yn y cyfamser, mae Laurey yn cwrdd â Ado Annie, sydd yng nghwmni gwerthwr teithiol o'r enw Ali Hakim. Mae Laurey yn ei hatgoffa bod Will yn dychwelyd o Ddinas Kansas. Mae Ado Annie mewn cyfyng-gyngor, yn methu â phenderfynu rhwng Will ac Ali. Mae'n esbonio i Laurey na all hi wrthsefyll dyn rhamantus, er ei bod yn gwybod ei fod yn beth drwg.

Mae Will yn aduno gydag Ado Annie, ac yn cwrdd â Ali Hakim, heb wybod ei fod wedi bod yn treulio amser gydag Annie. Mae'n atgoffa Annie bod ei thad wedi cytuno i adael iddo briodi hi yn gyfnewid am $50. Mae wedi llwyddo i ennill $50 - ond fe'i gwariodd ar anrhegion i Annie. Mae hi'n ceisio gwrthsefyll serch Will, ond mae o'n ei hennill hi drosodd.

Mae nifer o deuluoedd lleol yn cyrraedd fferm Modryb Eller i baratoi ar gyfer parti'r noson honno. Pan fydd Gertie yn fflyrtian â Curly, nid oes ganddo ddiddordeb ond mae'n defnyddio'r fflyrtian fel modd i wneud Laurey yn eiddigeddus. Mae Laurey yn cael loes, ond wrth iddi hi a'r merched eraill ymbincio ar gyfer y parti, mae'n ceisio eu hargyhoeddi hwy a'i hunain nad yw hi'n malio dim amdanynt.

Mae tad Ado Annie yn dysgu bod Will wedi afradu ei holl arian, a phan mae Ado Annie yn cyflwyno Ali iddo, mae ei thad yn gorfodi cynnig o briodas gan Ali gyda'i gwn - er bod Ali yn deithiwr ac nid oes ganddo unrhyw awydd i briodi.

Yn y berllan, mae Laurey yn dweud wrth Curly i gadw i ffwrdd, ond mae Curly yn ei hatgoffa bod hi gymaint o fai am y sibrydion amdano a Gertie ac ydyw ef. Mae Curly yn gofyn i Laurey mynd i'r parti gydag ef yn lle Jud, ac er ei bod hi'n amlwg yn dymuno gwneud, mae hi'n ofni ymateb Jud pe bai hi'n ei droi i lawr. Mewn dicter, mae Curly yn mynd i herio Jud am ei deimladau tuag at Laurey. Ar y dechrau, mae pethau'n ymddangos yn ddigon diniwed. Mae Curly yn profocio Jud am ei enw da, ac mae Jud yn cytuno â fo. Ond mae Jud yn canfod pam fod Curly wedi dod i'w weld, ac yn gwneud bygythiadau cas iddo ef a Laurey.

Wrth i amser y parti nesáu, mae Laurey yn teimlo'n ddiflas. Mae hi'n defnyddio potel o halen arogli cafodd gan Ali, a dywedodd wrthi ei fod yn dintur hud, mae hi'n llithro i lesmair. Yn ei breuddwyd, mae hi a Curly ar fin priodi, ond mae Jud yn torri'r ar draws y briodas ac yn y pen draw yn lladd Curly. Mae Jud yn deffro Laurey. Mae Laurey yn gwybod mae Curly yw'r dyn iawn iddi hi, ond mae'n rhy hwyr i newid ei meddwl am fynd i'r parti gyda Jud. Mae Curly yn anfodlon mynd gyda merch ifanc arall i'r ddawns, mae'n penderfynu mynd gyda Modryb Eller.

Nid oes gan Jud fwriad mynd a Laurey i'r parti. Mae'n arafu ei gerbyd ac yn ymdrechu i siarad â hi. Ond pan mae'n ceisio ei chusanu, mae Laurey yn taro'r chwip ac yn achosi i'r ceffylau bolltio. Pan fyddant yn arafu yn y pen draw mae Jud yn neidio allan ac mae Laurey yn chwipio'r ceffylau ac yn gadael Jud ar ôl.

Mae'r parti yn llawn hwyl, er bod y ffermwyr a'r cowbois lleol yn herio ei gilydd. Mae modryb Eller a Mr. Skidmore, gwesteiwr y parti, yn llwyddo i wneud heddwch rhwng y pleidiau. Mae Modryb Eller yn arwain arwerthiant o fasgedi picnic a baratowyd gan y merched lleol. Mae Wil yn darganfod bod Ali wedi dyweddïo â Ado Annie. Pan fydd Ali yn dysgu, bod angen $50 ar Wil i'w phriodi, mae'n prynu'r anrhegion a brynodd, rhai am fwy na dwywaith eu gwerth, gan ganiatáu i Will adennill y $50 oedd ei angen. Mae tad Ado Annie yn gorfod gadael i Will briodi ei ferch. Yn y cyfamser, mae Jud, yn cyrraedd mewn pryd i geisio prynu hamper bwyd Laurey. Mae'r ddau yn bidio yn ffyrnig ar ei gyfer. Mae Curly yn ennill, ond i wneud hynny bu'n rhaid iddo werthu ei gyfrwy, ei geffyl a'i gwn. Mae Jud yn ceisio lladd Curly gyda "Little Wonder" - dyfais debyg i galeidosgop gyda dagr wedi ei guddio y tu mewn iddo - ond mae Ali Hakim a Modryb Eller yn ei rwystro.

Mae Will Parker yn dweud wrth Annie nawr eu bod wedi dyweddïo, mae'n rhaid iddi roi'r gorau i fflyrtian gyda dynion eraill. Mae Jud yn gwrthdaro a Laurey, ond mae hi'n ei ddiswyddo. Mae o'n dweud na fydd hi byth yn cael gwared arno. Mae hi'n canfod Curly ac yn egluro beth sydd wedi digwydd. Gan fanteisio ar ei gyfle, mae Curly yn gofyn iddi ei briodi, ac mae hi'n derbyn. Mae Ali yn ddweud hwyl fawr i Will ac Ado Annie ac yn gadael.

Mae Curly a Laurey yn dathlu eu priodas. Mae Gertie yn cyrraedd y parti briodas, gan gyhoeddi ei bod hi hefyd yn briod. Ei gŵr yw Ali Hakim – mae tad Gertie wedi gorfodi Ali i briodi hi. Mae Jud yn amharu ar y dathliadau, ac yn gosod tân i das gwair ac yn bygwth Curly gyda chyllell. Mae Curly yn neidio arno, ac yn anfwriadol mae'n achosi Jud i syrthio ar ei gyllell ei hun, gan ei ladd.

Cynhelir prawf byrfyfyr yn nhŷ modryb Eller. Mae Curly yn cael ei ganfod yn ddieuog, ac mae ef a Laurey yn gadael am eu mis mêl yn y cerbyd surrey gydag rhidens ar ei dop.

Cast[golygu | golygu cod]

[7]

Caneuon[golygu | golygu cod]

[8]

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Oklahoma! Y sioe llwyfan

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "Oklahoma!: Detail View". American Film Institute. Cyrchwyd June 2, 2014.
  2. "All Time Domestic Champs", Variety, 6 January 1960 p 34
  3. Oklahoma! (1955) ar IMDb adalwyd 28 Ionawr 2019
  4. Encyclopædia Britannica Oklahoma! adalwyd 28 Ionawr 2019
  5. The Screen: 'Oklahoma!' Is Okay; Musical Shown in New Process at Rivoli adalwyd 28 Ionawr 2019
  6. AllMusic Oklahoma! (1955) adalwyd 28 ionawr 2019
  7. Oklahoma! (1955) Cast and Crew - Cast Photos and Info - Fandango adalwyd 28 Ionawr 2019
  8. IMDb Oklahoma Soundtrack adalwyd 28 Ionawr 2019