Llong ddistryw

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Yr USS Winston S. Churchill, un o longau distryw Llynges yr Unol Daleithiau yn nosbarth Arleigh Burke.

Llong ryfel gyflym sy'n hebrwng llongau eraill i'w hamddiffyn yw llong ddistryw neu ddistrywlong. Yn hanesyddol cawsant eu defnyddio i saethu torpidos, ond erbyn heddiw fe'u defnyddir i hebrwng llongau wyneb môr eraill fel rhan o lynges osgordd, naill ai gyda llongau masnach sy'n hwylio dan warchod neu drwy amgylchynu tasglu llyngesol ac amddiffyn y cludydd awyrennau a'r llongau tirddyfrol.

Defnyddiwyd yr enw yn niwedd y 19g i ddisgrifio'r llongau 250-tunnell a adeiladwyd i amddiffyn llongau brwydro rhag cychod torpido. Y cyntaf ohonynt oedd y Destructor a gafodd ei dylunio gan Fernando Villaamil a'i comisiynu gan Lynges Sbaen yn 1887. Mabwysiadwyd y syniad yn fuan gan y Llynges Frenhinol drwy gomisiynu chwe "distrywydd cychod torpido" (torpedo boat destroyer neu TBD) yn nosbarthau'r Daring, Havock, a Ferret. Erbyn dechrau'r 20g, roedd llyngesau'r pwerau mawrion i gyd yn cynnwys llongau distryw.

Datblygodd y ddistrywlong yn ffurf fawr ar y cwch torpido, ac yn y Rhyfel Byd Cyntaf danfonwyd llongau distryw ar y blaen i'r llynges frwydro er mwyn iddynt chwilota, gwthio distrywlongau'r gelyn yn ôl gyda'r gynnau mawr, ac yna saethu torpidos at griwserau a llongau brwydro'r gelyn. Yn ddiweddarach defnyddiwyd llongau tanfor i lansio torpidos, gan ddwyn prif swyddogaeth y llong ddistryw oddi arni. Yn ystod oes newydd rhyfela'r llongau tanfor, addaswyd y llong ddistryw i'w galluogi i hebrwng llongau eraill ar wyneb y môr. Gosodwyd hydroffonau a ffrwydron tanddwr ar longau distryw i'w hamddiffyn rhag ymosodiadau gan longau tanfor. Yn ystod yr Ail Ryfel Byd, daeth arfau gwrthawyrennol a thechnolegau newydd megis radar yn bwysig i amddiffyn rhag ymosodiadau o'r awyr. Cyfranasant hefyd mewn brwydrau ar y môr, yn enwedig rhwng Llynges yr Unol Daleithiau a Llynges Imperialaidd Japan yn y Cefnfor Tawel, drwy ddefnyddio'u torpidos a'u gynnau yn erbyn llongau'r gelyn.

Cyfarperir llongau distryw modern gydag thaflegrynnau a saethir o wyneb y môr i'r awyr, torpidos a saethir at longau tanfor, taflegrynnau a saethir at longau wyneb môr eraill, ac un tyred neu ddau gyda gynnau mawr o galibr 100–130 mm. Mae nifer o longau distryw yn cludo hofrenyddion sy'n chwilota am longau tanfor, ac mae rhai o longau Llynges yr Unol Daleithiau yn gallu saethu taflegrynnau o'r môr at dargedau ar y tir.[1] Yn gyffredinol, mae'r llong ddistryw fodern yn dadleoli 5000–10 000 o dunelli, yn teithio ar fuanedd o 30 not neu'n gyflymach, ac yn cludo rhyw 300–400 o griw.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. William M. McBride, "Destroyers and Destroyer Escorts" yn The Oxford Companion to American Military History (Rhydychen: Gwasg Prifysgol Rhydychen, 2000). Adalwyd ar Encyclopedia.com ar 20 Mawrth 2019.

Darllen pellach[golygu | golygu cod y dudalen]

  • S. D. Campbell, Tin-Can Canucks: A Century of Canadian Destroyers (Calgary, Alberta: Kay Cee Publications, 2017).
  • Maurice Cocker, Royal Navy Destroyers: 1893 to the Present Day (Stroud, Swydd Gaerloyw: The History Press, 2011).
  • Norman Friedman, British Destroyers: From Earliest Days to the Second World War (Barnsley, De Swydd Efrog: Seaforth Publishing, 2009).
  • Norman Friedman, British Destroyers & Frigates: The Second World War and After (Barnsley, De Swydd Efrog: Seaforth Publishing, 2010).
  • Gerhard Koop a Klaus-Peter Schmolke, Die deutschen Zestörer 1935–1945 (Bonn: Bernard & Graefe Verlag, 1995).
  • T. D. Manning, The British Destroyer (Godfrey Cave, 1979)
  • Anthony Preston, Destroyers: An Illustrated History (Parkgate Books, 1998).
  • Robert C. Stern, Destroyer Battles: Epics of Naval Close Combat (Barnsley, De Swydd Efrog: Seaforth Publishing, 2008).
  • M. J. Whitely, German Destroyers of World War Two (Weidenfeld Military, 1991).
  • M. J. Whitely, Destroyers Of World War Two: An International Encyclopedia (Naval Institute Press, 2000).