Cludydd awyrennau

Oddi ar Wicipedia
Cludydd awyrennau
Enghraifft o'r canlynolmath o long Edit this on Wikidata
Mathaviation vessel, llong ryfel, llong Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Llong ryfel a chanddi fwrdd llydan, agored i awyrennau esgyn a glanio yw cludydd awyrennau. Mae llong o'r fath yn galluogi i lynges gynnal a symud maes awyr ar y môr. Ceir mathau gwahanol o gludydd, gydag amryw nodweddion wedi eu haddasu at ddiben awyrennu milwrol. Fel rheol defnyddir catapwlt neu esgynfa ar y bwrdd i gynorthwyo wrth lansio'r awyren, a bachau ôl-dynadwy ar yr awyren i ddal yng ngwifrau ar y llong i arafu wrth lanio.

Y cludydd awyrennau priodol cyntaf, heb rwystrau ar ei fwrdd, oedd yr HMS Argus, a adeiladwyd gan y Llynges Frenhinol trwy addasu leinar. Lansiwyd y llong gyntaf a ddyluniwyd o'r cychwyn fel cludydd, yr Hosyo, gan lynges Japan yn Rhagfyr 1922. Yn ystod yr Ail Ryfel Byd, cludyddion oedd y llongau rhyfel pwysicaf yn y brwydro rhwng Unol Daleithiau America a Japan yn y Cefnfor Tawel. Ym Medi 1960 lansiwyd y cludydd cyntaf i'w yrru gan ynni o adweithydd niwclear, yr USS Enterprise, gan Lynges yr Unol Daleithiau.

Gall cludydd modern, a yrrir gan ynni niwclear, feddu ar fwrdd hedfan rhyw 300 m o hyd, yn dadleoli 75,000 o dunnelli, criw o 4000, a chludo 90 o awyrennau o wahanol fathau. Byrddau mawr, onglog sydd gan rai cludyddion er mwyn galluogi i awyrennau esgyn a glanio ar yr un pryd.

Hanes[golygu | golygu cod]

Y dyn cyntaf i hedfan awyren oddi ar long oedd Eugene Ely, peilot sifil o Americanwr, wedi i blatfform arbrofol gael ei godi ar y criwser Birmingham yn Hampton Roads, Virginia, yn Nhachwedd 1910. Deufis yn ddiweddarach, glaniodd Ely ar strwythur debyg ar bedryfwrdd y llong frwydr Pennsylvania, gan ddefnyddio gwirfau a glymwyd i sachau tywod ar y platfform i arafu'r awyren. Yna, esgynnodd oddi ar yr un long.[1]

Yr HMS Argus yn yr harbwr ym 1918, wedi ei phaentio mewn cuddliw "dallu".

Ym 1916, yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, prynodd y Llynges Frenhinol long deithio wedi ei hanner-adeiladu o'r Eidal, er mwyn rhoi iddi fwrdd agored ac awyrendy ar sail dyluniad a gynigwyd i'r Morlys gan gwmni William Beardmore. Comisiynwyd yr HMS Argus ym Medi 1918, ond daeth y rhyfel i ben cyn iddi ymwneud ag unrhyw frwydro. Roedd ganddi fwrdd glanio rhyw 170 m o hyd, awyrendy â lle i 20 o awyrennau, a chwech o ynnau pedair-modfedd, a chyflymder uchaf o 20.2 not.[2]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. (Saesneg) aircraft carrier. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 11 Hydref 2023.
  2. (Saesneg) Argus (ship). Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 11 Hydref 2023.