Neil Armstrong
Jump to navigation
Jump to search
Neil Armstrong | |
---|---|
![]() | |
Ganwyd | Neil Alden Armstrong ![]() 5 Awst 1930 ![]() Wapakoneta ![]() |
Bu farw | 25 Awst 2012 ![]() Cincinnati ![]() |
Dinasyddiaeth | Unol Daleithiau America ![]() |
Alma mater | |
Galwedigaeth | awyrennwr llyngesol, peilot prawf, academydd, gofodwr, peiriannydd awyrennau ![]() |
Cyflogwr | |
Cartre'r teulu | Yr Almaen ![]() |
Tad | Stephen Koenig Armstrong ![]() |
Mam | Viola Louise Engel ![]() |
Priod | Janet Shearon, Carol Held Knight ![]() |
Gwobr/au | Medal Aer, Gold Star, Korean Service Medal, Distinguished Eagle Scout Award, Silver Buffalo Award, Medal Rhyddid yr Arlywydd, Congressional Space Medal of Honor, Collier Trophy, Langley Gold Medal, Sylvanus Thayer Award, Eagle Scout, Urdd Diwylliant, Arthur S. Flemming Award, Medal Aur y Gyngres, Gwobr 'Hall of Fame' am Hedfan, Urdd y Seren Iwgoslaf, Grande Médaille d'Or des Explorations, Gwobra Cullum mewn Daearyddiaeth, Gwobr 'Hall of Fame' i Ofodwyr UDA, NASA Distinguished Service Medal, Medal Hubbard ![]() |
Llofnod | |
![]() |
Neil Alden Armstrong (5 Awst 1930 – 25 Awst 2012)[1] oedd y gofodwr cyntaf i roi ei droed ar y Lleuad.
Ganed ef yn Wapakoneta, Ohio, yn yr Unol Daleithiau. Astudiodd ym Mhrifysgol Purdue cyn ymuno â Llynges yr Unol Daleithiau. Bu'n ymladd yn Rhyfel Corea. Wedi'r rhyfel bu'n beilot prawf.
Bu yn y gofod am y tro cyntaf ar Gemini 8 yn 1966, pan fu'n gyfrifol gyda David Scott am ddocio dwy long ofod wrth ei gilydd am y tro cyntaf. Ef oedd y pennaeth ar Apollo 11 a laniodd ar y Lleuad ar 20 Gorffennaf, 1969. Treuliodd Armstrong a Buzz Aldrin ddwy awr a hanner ar wyneb y Lleuad tra roedd Michael Collins mewn orbit uwchben.
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]
- ↑ (Saesneg) US astronaut Neil Armstrong dies, first man on Moon. BBC (25 Awst 2012). Adalwyd ar 25 Awst 2012.