Buzz Aldrin

Oddi ar Wicipedia
Buzz Aldrin
Aldrin yng Ngorffennaf 1969

Gofodwr NASA
CenedligrwyddAmericanwr
StatwsWedi ymddeol
GanedEdwin Eugene Aldrin Jr.
(1930-01-20) 20 Ionawr 1930 (94 oed)
Ysbyty Mountainside, Montclair, New Jersey, U.D.A.
Swyddi arall
Peilot-ymladdwr
Academi filwrol yr Unol Daleithiau, B.S. 1951
Massachusetts Institute of Technology, Sc.D. 1963
Rheng Cyrnol, USAF
Amser yn y gofod
12 diwrnod 1 awr a 52 munud
Dewiswyd1963 NASA Grŵp 3
Cyfanswm EVA
4
Cyfanswm amser EVA
7 awr 52 munud
TeithiauGemini 12, Apollo 11
Bathodyn taith
Ymddeoliad1 Gorffennaf 1971
GwobrauUnited States Air Force Master Pilot/Astronaut Wings Medal Ryddid Arlywyddol
Gwefanbuzzaldrin.com

Mae Buzz Aldrin (sef Edwin Eugene Aldrin, Jr., ganwyd 20 Ionawr 1930) yn enwog am fod yr ail ddyn i gerdded ar y Lleuad. Glanodd Aldrin ar y Lleuad gyda Neil Armstrong ar 20 Gorffennaf 1969, fel rhan o'r perwyl ofod Apollo 11. Hedfanodd i'r gofod dwywaith, unwaith yn Gemini 12 (1966), ac eto ar Apollo 11 yn 1969. Ar ôl dychwelyd o'r Lleuad, gadawodd Aldrin NASA, a dioddefodd o iselder, ond derbynodd driniaeth effeithiol.[1] Mae'n awdur saith o lyfrau ar y gofod.

Ganed ef yn Montclair, New Jersey, ac astudiodd ym Massachusetts Institute of Technology.

Yn 2009, dywedodd na chredai fod dyn yn cael effaill newid yn hinsawdd y Ddaear:

"I think the climate has been changing for billions of years. If it's warming now, it may cool off later. I'm not in favor of just taking short-term isolated situations and depleting our resources to keep our climate just the way it is today. I'm not necessarily of the school that we are causing it all, I think the world is causing it."[2]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Aldrin, Buzz (2009). Magnificent Desolation: The Long Journey Home from the Moon. Harmony.
  2. Aldrin, Buzz (2009-07-03). "Buzz Aldrin calls for manned flight to Mars to overcome global problems". The Daily Telegraph. Cyrchwyd 2011-01-07.