Argaeau Dyffryn Elan

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Argaeau Dyffryn Elan
Caban Coch Reservoir taken 1963 - geograph.org.uk - 784158.jpg
Argae Caban-coch c.1963.
Lleoliad Dyffryn Elan, Powys
Cyfesurynnau 52°16′20″N 3°41′20″W / 52.27222°N 3.68889°W / 52.27222; -3.68889
Prif fewnlif Afon Elan
Afon Claerwen
Prif afon Traphont Elan
Afon Elan
Asiant sy'n rheoli Dŵr Cymru
Adeiladwyd 1893
Gorlifiad cyntaf 1896
Hyd 5.9 km (3.7 mi)[1]
Lled 0.5 km (0.31 mi)[1]
Arwynebedd 606 ha ([convert: unknown unit])[1]
Dyfnder cyfartalog 41.5 m (136 ft)
Dyfnder (mwyaf) 56 m (184 ft)[1]
Cyfaint y dŵr 99,499,000 m3
(3.5138×109 tr ciwbig)
Uchder lefel y dŵr 250m – 368m[1]
Ffynhonnell [1] Manylion, Canolfan Dyffryn Elan.

Cadwyn o gronfeydd a wnaed gan ddyn yw Argaeau Dyffryn Elan, i gyflenwi dŵr i Birmingham a Gorllewin Canolbarth Lloegr. Codwyd waliau carreg yr argaeon ar afonydd Elan a Chlaerwen. Gwnaed y gwaith gan Birmingham Corporation Water Department er mwyn cyflenwi dŵr glân i ddinasyddion yr ardaloedd hynny. Mae Argaeau Dyffryn Elan yn gadwyn o 5 llyn: Claerwen, Craig-goch, Pen-y-garreg, Garreg-ddu, a Caban-coch.[2]

Llifa'r dŵr drwy bibell, drwy rym disgyrchiant i Argae Frankley ym Mirmingham dros Ddyrfrbont Elan, a hynny heb yr angen am bwmp na pheiriant o unrhyw fath. Mae'r gwahaniaeth uchder rhwng dau ben y beipen yn 52m, a'r beipen ei hun yn mesur 73 milltir. Mae graddiant y disgyniad, felly'n 1:2300 gyda chyflymder y dŵr yn llai na 2 miles per hour (3.2 km/h), ac yn cymryd rhwng dau ddiwrnod a hanner a thridiau i gyrraedd Birmingham.[3] Mae'r draphont, a godwyd rhwng 1896 a 1906, yn croesi sawl dyffryn, ac yn cynnwys sawl twnnel bric, pibellau ac adeiladau.[4]

Yr argaeau[golygu | golygu cod y dudalen]

Yn Gymraeg, gellir gelwir y dŵr o fewn llyn a wnaed gan bobl yn 'gronfa' a'r wal sy'n ei ddal yn ôl yn argae. Ceir 4 prif argae a 4 is-argae. Codwyd y 4 prif argae rhwng 1893 ac 1904 yn Nyffryn Elan a rhwng 1946 ac 1952 yng Nghlaerwen; mae eu cynhwyedd potensial yn 100,000 megalitr. Y 4 prif gronfa yw:[5]

  • Caban-coch (a Garreg-ddu) – 35,530 megalitr o ddŵr
  • Pen-y-garreg – 6,055 megalitr
  • Craig Goch – 9,220 megalitr
  • Claerwen – 48,694 megalitr.

Ceir hefyd sawl is-gronfa:

  • Cronfa Dôl-y-mynach – un o'r dair ar Afon Claerwen.
  • Cronfa Nant-y-Gro – cronfa fechan a adeiladwyd yn gynnar yn y prosiect; fe'i defnyddiwyd yn yr Ail Ryfel Byd gan Syr Barnes Wallis a'i brofion ar gyfer y bouncing bom.
  • Cronfa'r Garreg-ddu – er ei bod yn edrych fel traphont, argae tanddwr ydyw mewn gwirionedd. Ei phwrpas yw sicrhau lefel uchel o ddŵr yng Nghronfa'r Garreg-ddu er mwyn i ddŵr lifo Tŵr y Foel ac oddi yno i Gronfa Frankley, Birmingham.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. 1.0 1.1 1.2 1.3 1.4 1.5 "Specifications". Elan Valley Visitor Centre. Cyrchwyd 12 Tachwedd 2012.
  2. "Powys Digital History Project: Elan Valley Reservoirs". Cyrchwyd 9 Mai 2012.
  3. "Powys Digital History Project: Elan Valley Dams". Cyrchwyd 9 Mai 2012.
  4. "Valve house hidden in the woods". www.geograph.org.uk. Cyrchwyd 12 Tachwedd 2012.
  5. Elan dams: Specifications at Elan Valley Trust official website. Accessed 27 Tachwedd 2013
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i: