Sarah Siddons
| Sarah Siddons | |
|---|---|
| Ganwyd | Sarah Kemble 5 Gorffennaf 1755 Aberhonddu |
| Bu farw | 8 Mehefin 1831 Llundain |
| Dinasyddiaeth | Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon |
| Galwedigaeth | actor llwyfan |
| Tad | Roger Kemble |
| Mam | Sarah Ward |
| Priod | William Siddons |
| Plant | Henry Siddons, Sarah Martha Siddons, Emma Siddons, Frances Emilia Siddons, George John Siddons, Cecilia Siddons, Eliza Ann Siddons, Maria Siddons |

Actores o Gymru oedd Sarah Siddons (5 Gorffennaf 1755 – 8 Mehefin 1831; nee Kemble), a gofir yn bennaf am ei phortread o Lady Macbeth. Fe'i hystyrir gan lawer fel actores drasig fwya'r 18g.[1] Ganwyd Sarah yn Aberhonddu, yn ferch i Roger Kemble a oedd yn rheolwr cwmni o actorion, sef y Warwickshire Company of Comedians. Roedd ei chwaer Ann Hatton yn nofelydd poblogaidd.
Yr hyn sy'n weddill
[golygu | golygu cod]Yn Aberhonddu ceir tafarn o'r enw "Sarah Siddons" ac roedd injan a adeiladwyd gan gwmni Metropolitan-Vickers a oedd yn rhedeg ar rwydwaith Trafnidiaeth Llundain yn dwyn ei henw, ond rhoddwyd yr injan i orffwys yn 1961. Mae 'Cymdeithas Sarah Siddons' yn parhau i gyflwyno gwobr y Sarah Siddons Award yn Chicago'n flynyddol i actores amlwg.

Ar 12 Ebrill 2010, darlledodd BBC Radio 4 y cyntaf o bum rhaglen am ei pherthynas hir gyda'r arlunydd Thomas Lawrence Sarah Siddons: Life in Five Sittings. Sgwennwyd y sgript gan David Pownall. Cafwyd drama amdani hefyd yn 2024 The Divine Mrs S. gan April De Angelis. [2]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Cecil John Layton Price. "Siddons, Sarah (1755-1831), actores". Y Bywgraffiadur Cymreig. Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Cyrchwyd 5 Gorffennaf 2026.
- ↑ "BBC Radio 4 - 15 Minute Drama, Sarah Siddons: Life in Five Sittings". BBC (yn Saesneg). Cyrchwyd 2026-07-03.