William Abraham (Mabon)

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
William Abraham (Mabon)
Gweler hefyd Mabon.

Llywydd cyntaf Ffederasiwn Glowyr De Cymru ac Aelod Seneddol y Rhondda oedd William Abraham (Mabon) (14 Mehefin 1842 - 14 Mai 1922). Bu'n bleidiol iawn i'r Gymraeg a defnyddiodd hi unwaith yn y Senedd, ond chwarddodd pawb ar ei ben; yna dywedodd wrthynt eu bod wedi chwerthin am ben Gweddi'r Arglwydd.[1] Ymladdodd i gael cytundeb i bennu cyflogau'r glowyr wedi'i sefydlu ar brisiau a phroffidiau'r diwydiant. Hyrwyddodd ddatblygiad undebaeth llafur yng Nghymru.

Bywyd cynnar[golygu | golygu cod y dudalen]

Ganed ef yng Nghwmafan, yn 4 ydd mab i Thomas a Mary Abraham. Addysgwyd ef yn Ysgol Genedlaethol Cwmafan, gan adael yn ddeg oed, ac yna bu'n gweithio mewn gwaith alcam ac fel glowr. Yn y 1860au bu am gyfnod yn Chile yn gweithio yn y gweithfeydd copr yno. Wedi iddo ddychwelyd i Gymru, yn 1870, etholwyd ef yn gynrychiolydd y glowyr a bu'n llywydd y glowyr ar y Joint Sliding Scale Association o 1875 hyd 1903.

Diwrnod Mabon[golygu | golygu cod y dudalen]

Rhwng 1892 a 1898 byddai'r glowyr yn cael diwrnod o wyliau o'r gwaith ar y dydd Llun cyntaf o bob mis er mwyn cwtogi cynnyrch a sefydlogi cyflogau, a gelwid y diwrnod yma yn "Ddiwrnod Mabon."[2]

Yr Aelod Seneddol[golygu | golygu cod y dudalen]

Daeth yn aelod seneddol dros y Rhondda yn 1885, a bu'n cynrychioli Gorllewin Rhondda o 1918 hyd 1922. Hyd at 1906 roedd yn aelod o grwp radical y Blaid Ryddfrydol, yna'n ddiweddarach yn aelod o'r Blaid Lafur pan ddaeth y blaid honno'n sefydliad annibynnol. Sefydlwyd Ffederasiwn Glowyr De Cymru yn 1898, gyda Mabon yn llywydd. Pan oedd yn America gofynwyd iddo beth oedd ystyr "MP" ar ôl ei enw; atebodd "Mae'r llythrennau'n golygu 1. Mabon Pentref 2. Methodist Preacher 3. Minor's President 4. Member of Parliament 5. Man of Power, more's the pity!"

Eisteddfodwr brwd[golygu | golygu cod y dudalen]

Roedd hefyd yn gefnogwr brwd o'r Eisteddfod, a daeth ei enw barddol "Mabon" yn gysylltiedig a'i enw ac yn llysenw iddo. Daeth yn daeth enwog fel arweinydd effeithiol yn eisteddfodau diwedd y 19g a dechrau'r 20g. Roedd ganddo lais tenor clir, a chanai'n aml i'r cynulleidfaoedd.

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

  • Evans, Eric Wyn, Mabon (William Abraham, 1842-1922): a study in trade union leadership (Caerdydd, 1959).
  • Atgofion Dyn Papur Newydd; Picton Davies.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. Rhywbeth Bob Dydd; Hafina Clwyd Gwasg Carreg Gwalch (2008).
  2. Y Bywgraffiadur Arlein; Llyfrgell Genedlaethol Cymru; adalwyd 14 Mehefin 2017.
Senedd y Deyrnas Unedig
Rhagflaenydd:
etholaeth newydd
Aelod Seneddol dros Rondda
18851918
Olynydd:
dilewyd yr etholaeth
Rhagflaenydd:
etholaeth newydd
Aelod Seneddol dros Orllewin Rhondda
19181920
Olynydd:
William John