Neidio i'r cynnwys

William Mathias

Oddi ar Wicipedia
William Mathias
Ganwyd1 Tachwedd 1934 Edit this on Wikidata
Hendy-gwyn Edit this on Wikidata
Bu farw29 Gorffennaf 1992 Edit this on Wikidata
Porthaethwy Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaetharweinydd, cyfansoddwr, cerddolegydd, pianydd Edit this on Wikidata
Cyflogwr
Arddullcerddoriaeth glasurol Edit this on Wikidata
Gwobr/auCBE Edit this on Wikidata

Cyfansoddwr oedd William James Mathias (1 Tachwedd 193429 Gorffennaf 1994), a anwyd yn Hendy-gwyn, Sir Gaerfyrddin.[1]

Roedd ei fam yn bianydd ac yn organydd. Dechreuodd William ganu'r piano pan oedd yn dair oed, ac yna yn chwech oed, derbydiodd wersi gan David Lloyd Phillips. Astudiodd ym Mhrifysgol Aberystwyth rhwng 1952 a 1956 gydag Ian Parrott. Roedd yn aelod o Gantorion Madrigalau Elisabethaidd, a chyfansoddodd 'Gloria in Excelsis Deo' ar eu cyfer yn 1954. Astudiodd hefyd yn Yr Academi Gerdd Frenhinol, Llundain gyda Lennox Berkeley, ac fe'i etholwyd yn gymrawd yno yn 1965.

Dychwelodd i Gymru ym 1959 fel darlithydd mewn cerdd ym Mhrifysgol Bangor, a rhwng 1970 a 1988 ef oedd pennaeth yr adran gerdd yno.[2] Sefydlodd Ŵyl Gerdd Ryngwladol Gogledd Cymru yn 1972, ac mae'n cael ei hystyried yn un o uchafbwyntiau diwylliannol Gogledd Cymru.[3]

Yn ystod ei yrfa, cyfansoddodd ar gyfer Cerddorfa Ffilharmonig Frenhinol Lerpwl, Cerddorfa Hallé, Proms y BBC ac Opera Cenedlaethol Cymru.

Enwyd Canolfan Gerdd William Mathias ar ei ôl, gyda'r bwriad o ddarparu hyfforddiant cerddorol a phrofiad perfformio o’r safon uchaf posib. [4]

Gwaith cerddorol

[golygu | golygu cod]

The Servants (opera) (1980)

  • Symffoni rhif 1
  • Symffoni rhif 2
  • Symffoni rhif 3
  • Let the people praise Thee, O God (1981)
  • Concerto Telyn
  • Improvisations i'r delyn
  • Sonata i'r delyn
  • Santa Fe Suite i'r delyn

Llyfryddiaeth

[golygu | golygu cod]
  • Barbara Davies, William Mathias, 1934–1992, gol. Dafydd Ifans (Aberystwyth: Llyfrgell Genedlaethol Cymru, 1994)

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. "Obituary: Professor William Mathias". The Independent. 30 July 1992.
  2. "William Mathias". global.oup.com. Cyrchwyd 28 Hydref 2025.
  3. "Ynghylch". Gŵyl Gerdd Ryngwladol Gogledd Cymru. Cyrchwyd 28 Hydref 2025.
  4. "Amdanom Ni | Canolfan Gerdd William Mathias". Cyrchwyd 27 Hydref 2025.

Dolenni allanol

[golygu | golygu cod]
Baner CymruEicon person Eginyn erthygl sydd uchod am un o Gymru. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.