Concerto

Oddi ar Wicipedia
Constantin Sandu yn canu concerto i'r piano

Mae concerto yn gyfansoddiad cerddorol sy'n cynnwys tri symudiad, yn gyffredinol, lle mae cerddorfa neu fand cyngerdd yn cyfeilio i un offeryn unigol (er enghraifft, piano, ffidil, sielo neu ffliwt). Derbynnir bod ei nodweddion a'i ddiffiniad wedi newid dros amser. Yn y 17 ganrif, roedd gwaith sanctaidd ar gyfer lleisiau a cherddorfa fel arfer yn cael ei alw'n concerto, fel yr adlewyrchir gan ddefnydd J. S. Bach o'r teitl "concerto" ar gyfer llawer o gynyrchiadau byddai'n cael eu galw'n cantatau bellach.[1][2]

Mae'r gair "concerto" yn dod o'r Eidaleg. Mae'n golygu "cytuno" neu "cyd chware". Y lluosog yw "concerti"[3].

Daeth y concerto yn boblogaidd yn ystod yr 17 ganrif yn yr Eidal. Roedd gan ambell i gyngerdd nifer o unawdwyr yn hytrach na dim ond un. Gelwir y math hwn o goncerto yn goncerto grosso.

Y Concerto yn y Cyfnod Baróc[golygu | golygu cod]

Daeth yr unawd concerto yn boblogaidd gyda chyfansoddwyr fel Antonio Vivaldi (1678-1741) a ysgrifennodd dros 400 concerto ar gyfer gwahanol offerynnau. Ei goncerti mwyaf enwog yw grŵp o bedair o'r enw Y Pedwar Tymor. Concerti ffidil yw'r rhain, ac mae pob concerto yn ymdrin yn ei dro gydag un o'r tymhorau: y gwanwyn, yr haf, yr hydref a'r gaeaf. Ysgrifennodd nifer o gyfansoddwyr Baróc eraill concerti: ysgrifennodd Johann Sebastian Bach (1685-1750) nifer o goncerti ar gyfer y ffidil er mai dim ond dau sydd wedi goroesi, mae'r rhai eraill wedi cael eu colli. Ysgrifennodd hefyd concerto unigol ar gyfer yr harpsicord. Ysgrifennodd Georg Friderich Handel (1685-1759) concerti ar gyfer yr organ. Roedd yr organau yn Lloegr yn fach iawn yn y dyddiau hynny ac yn cydbwyso'n dda gyda cherddorfa. Weithiau, mae Handel yn rhoi seibiannau yn ei gyngerdd lle gallai'r unawdydd yn gallu cynnwys rhywfaint o gerddoriaeth fyrfyfyr. Gelwir y darnau byrfyfyr yn "cadenze" (unigol: cadenza). Ers hynny mae gan nifer o goncerti cadenze lle mae'r unawdydd yn gallu dangos ei ddawn trwy ganu'n fyrfyfyr ar ei offeryn. Ysgrifennodd rhai cyfansoddwyr eu cadenze eu hunain.[4]

Y Concerto yn y Cyfnod Clasurol[golygu | golygu cod]

Yn y cyfnod Clasurol ysgrifennodd Joseph Haydn (1732-1809) ychydig o goncerti, gan gynnwys dau ar gyfer y sielo, ond mae'n fwy adnabyddus am ei symffonïau. Ysgrifennodd Wolfgang Amadeus Mozart (1756-1791) lawer o goncerti piano. Roedd hyn ar adeg pan oedd y piano yn offeryn newydd. Roedd Mozart yn bianydd dawnus ac ysgrifennodd y rhan fwyaf o'i goncerti i berfformio ei hun. Ysgrifennodd hefyd bum concerto feiolin, pedwar concerto utgorn, dau goncerto ffliwt a choncerto i'r clarinét. Ysgrifennodd hefyd concerti ar gyfer mwy nag un unawdydd, e.e. concerto i'r ffliwt a'r delyn concerto i'r feiolin a'r sielo. Galwyd y concerti i fwy nag un offeryn yn Sinffonia Concertante. Erbyn hyn, roedd gan goncerto tri symudiad: un gyflym (fel arfer ar y ffurf sonata), un araf, a symudiad cyflym (yn aml yn rondo) i orffen.[5]

Daeth Ludwig van Beethoven (1770-1827) yn enwog fel pianydd cyn iddo gael ei adnabod fel cyfansoddwr. Ysgrifennodd bum concerto piano. Mae'r un olaf, o'r rhain Concerto'r Ymerawdwr yn waith mawr a phwerus sy'n edrych ymlaen at gerddoriaeth y cyfnod Rhamantaidd. Ysgrifennodd Beethoven hefyd concerto triawd ar gyfer piano, ffidil, sielo a cherddorfa.

Y Concerto yn y cyfnod Rhamantaidd[golygu | golygu cod]

Yn y 19 ganrif, daeth y concerto yn fodd ar gyfer arddangos dawn pencampwyr yr offerynnau unigol. Roedd yn gyfnod lle'r oedd yr artist yn cael ei weld fel arwr, un i'w addoli. Gellir dod o hyd i nodweddion Rhamantaidd Cynnar yng nghyngherddau feiolin Battista Viotti, ond ddeuddeg concerto feiolin Louis Spohr, a ysgrifennwyd rhwng 1802 a 1827, sy'n cofleidio'r ysbryd rhamantaidd yn bennaf gyda'i rinweddau melodig a dramatig.[6]

Concerti Rhamantaidd a Modern[golygu | golygu cod]

Concerto i'r delyn

Ymysg rhai o'r concerti feiolin fwyaf enwog o'r 19 a'r 20 ganrif yw'r rhai gan Felix Mendelssohn, Max Bruch (rhif 1), Johannes Brahms, Pyotr Ilyich Tchaikovsky, Edward Elgar, Dmitri Shostakovich (rhif 1), Béla Bartók, Alban Berg, Igor Stravinsky a Syr William Walton.

Mae concerti piano enwog wedi amser Beethoven yn cynnwys y rhai gan Frederic Chopin (2), Robert Schumann, Johannes Brahms (2), Pjotr I. Tchaikovsky (3), Edvard Grieg, Sergei Rachmaninoff (4), Béla Bartók (3), Sergei Prokofiev (5) ac Igor Stravinsky.

Mae concerti sielo poblogaidd yn cynnwys y rhai gan Antonín Dvořák, Edouard Lalo, Edward Elgar a Dmitri Shostakovich. Ysgrifennodd Tchaikovsky darn ar gyfer y sielo a'r gerddorfa o'r enw Amrywiadau Rococo. Ysgrifennodd Benjamin Britten darn i'r sielo a'r cerddorfa o'r enw Symffoni Sielo gan fod y sielo a'r gerddorfa mor bwysig a'i gilydd yn y darn. Ysgrifennodd Brahms deuawd concerto ar gyfer feiolin a sielo.

Cyfansoddwyd concerto i'r fiola gan Paul Hindemith a gan William Walton. Mae concerti poblogaidd ar gyfer offerynnau chwythbren yn cynnwys dau ar gyfer y clarinét gan Carl Maria von Weber, rhai ar gyfer y clarinét a'r ffliwt gan Carl Nielsen, concerto clarinét gan Aaron Copland, a choncerto i'r obo gan Ralph Vaughan Williams. Cyfansoddodd Richard Strauss dau goncerto i'r corn Ffrengig. Ysgrifennodd Nikolai Rimsky-Korsakov concerto i'r trombôn a Ralph Vaughan Williams un i'r tiwba.

Mae cyfansoddwyr modern wedi ysgrifennu concerti ar gyfer offerynnau taro. Mae'r rhain fel arfer yn ddarnau ar gyfer unawdydd offerynnau taro sy'n chwarae llawer o offerynnau taro gwahanol, a cherddorfa sy'n cyfeilio iddynt. Ysgrifennodd James MacMillan ddarn ar gyfer offerynnau taro a cherddorfa o'r enw Veni, Veni Emmanuel.

Mae Joaquin Rodrigo wedi cyfrannu sawl darn ar gyfer gitâr a cherddorfa gan gynnwys Concierto de Aranjuez.

Ysgrifennodd Béla Bartók darn o'r enw Concerto ar gyfer Cerddorfa. Rhoddodd y teitl hwn iddo oherwydd, er ei fod yn ddarn ar gyfer cerddorfa (fel symffoni), ond mae'n cynnwys llawer o unawdau ar gyfer y gwahanol offerynnau. Mae cyfansoddwr eraill, megis Alan Hovhaness, hefyd wedi ysgrifennu concerti ar gyfer cerddorfa.

Ysgrifennodd y cyfansoddwr o'r Alban Syr Peter Maxwell Davies cyfres o ddeg concerto, pob un ar gyfer wahanol offerynnau unigol, maent yn cael eu hadnabod fel Concerti Ystrad Clud ("Strathclyde Concertos").

Cyfansoddwyr Concerto o Gymru[golygu | golygu cod]

Ymysg y cyfansoddwyr Cymreig sydd wedi cyfansoddi concerti yw:

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Wolf, Eugene K., Concerto, yn Randel, Ed., 1986, tud 186–191
  2. Randel, Don Michael, Ed., 1986, The New Harvard Dictionary of Music, Harvard University Press, Cambridge, MA a Llundain.
  3. Y Termiadur addysg #Concerto adalwyd 12 Hydref 2018
  4. Talbot, Michael. "The Italian concerto in the Late seventeenth and early eighteenth centuries". The Cambridge Companion to the Concerto. Cambridge Companions to Music.
  5. BBC Schools Bitesize The concerto in the Classical period (roughly 1750-1800) adalwyd 12 Hydref 2018
  6. BBC Bitesize The concerto in the Romantic period (roughly the 19th century) ) adalwyd 12 Hydref 2018
  7. Tŷ Cerdd Grace Williams adalwyd 12 Hydref 2018
  8. Preston Music Puw: Concerto ar gyfer Obo adalwyd 12 Hydref 2018
  9. Cwmni Cyhoeddi Gwynn – cyfansoddwyr Archifwyd 2018-09-02 yn y Peiriant Wayback. adalwyd 12 Hydref 2018
  10. Cwmni Cyhoeddi Gwynn: catalog ar gyfer gweithiau i gerddorfa tud 3 adalwyd 12 Hydref 2018
  11. Tŷ Cerdd CD William Mathias; WILLIAM MATHIAS - PIANO CONCERTOS NOS. 2 AND 3; CEREMONY AFTER A FIRE RAID adalwyd 12 Hydref 2018
  12. All Music Hoddinott adalwyd 12 Hydref 2018
  13. Music Web Daniel Jones adalwyd 12 Hydref 2018