Paul von Hindenburg

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Paul von Hindenburg

Cadlywydd Almaenig ac Arlywydd yr Almaen oedd Paul Ludwig Hans Anton von Beneckendorff und von Hindenburg, a adwaenid fel Paul von Hindenburg (2 Hydref 1847 - 2 Awst 1934).

Ganed Hindenburg yn Poznań, Gwlad Pwyl, yr adeg honno Posen yn Nheyrnas Prwsia. Daeth yn swyddog ym myddin Prwsia, gan ymddeol yn 1911. Dychwelodd i'r fyddin ar ddechrau'r Rhyfel Byd Cyntaf, a daeth i sylw byd-eang pan enillodd fuddugoliaeth dros fyddin Rwsia ym Mrwydr Tannenberg yn 1914. O 1916 ymlaen, oedd ef pennaeth y staff cyffredinol, gydag Erich Ludendorff yn ddirpwy iddo.

Ymddeolodd eto yn 1919. Yn 1925, etholwyd ef yn ail Arlwydd yr Almaen. Erbyn etholiad 1932, roedd yn 84 oed a'i iechyd yn dirywio, ond perswadiwyd ef i gymeryd rhan yn etholiad arlywyddol y flwyddyn honno, gan y credid mai ef yn unig a allai guro Adolf Hitler. Enillodd Hindenburg yr etholiad, ond yn Ionawr 1933, apwyntiodd Hilter yn Ganghellor yr Almaen.

Wedi i Hindenburg farw, cyhoeddodd Hitler ei fod yn gadael y swydd o Arlywydd yn wag, a chyhoeddodd ei hyn yn arweinydd yr Almaen fel Führer und Reichskanzler.