Brwydr Tours
Gwedd
| Enghraifft o: | brwydr |
|---|---|
| Dyddiad | 10 Hydref 732 |
| Rhan o | Umayyad invasion of Gaul |
| Lleoliad | Poitiers |
![]() | |
| Gwladwriaeth | Ffrainc |
| Dynodwyr | |
| Freebase | /M/0clr1 |
| Thesawrws y BNCF | 29746 |
| Quora | Battle-of-tours |

Brwydr a ymladdwyd rhwng Tours a Poitiers yn yr hyn sy'n awr yn Ffrainc ym mis Hydref 732 oedd Brwydr Tours, weithiau hefyd Brwydr Poitiers. Ymladdwyd y frwydr rhwng y Ffranciaid dan Siarl Martel a byddin Fwslimaidd dan reolwr Al-Andalus, Abdul Rahman Al Ghafiqi.
Diweddodd y frwydr mewn buddugoliaeth fawr i'r Cristionogion, gyda Abdul Rahman ei hun ymhlith y lladdedigion. Mae nifer o haneswyr yn ystyried i'r frwydr yma fod yn un o'r rhai mwyaf tyngedfennol yn hanes Ewrop, ac y gallai Ewrop oll fod wedi dod yn rhan o'r byd Islamaidd onibai am fuddugoliaeth Martel.
