Siarl Martel
| Siarl Martel | |
|---|---|
| Ganwyd | Herstal |
| Bu farw | Quierzy |
| Dinasyddiaeth | Francia |
| Galwedigaeth | gwladweinydd, arweinydd milwrol |
| Swydd | Maer y Llys, Maer y Llys |
| Tad | Pepin o Herstal |
| Mam | Alpaida |
| Priod | Rotrude of Trier, Ruodhaid, Swanachild |
| Plant | Carloman, Pepin Fychan, Hiltrud, Landrada, Auda of France, Bernard, son of Charles Martel, Grifo, Hieronymus, Remigius of Rouen |
| Llinach | Arnulfings, Y Carolingiaid, Pippinids |

Siarl Martel (23 Awst 686 – 22 Hydref 741) oedd Maer y Llys yn nheyrnas Ffrancaidd Awstrasia o'r flwyddyn 715 hyd ei farwolaeth. Mae'n fwyaf enwog am ei fuddugoliaeth ym Mrwydr Tours yn erbyn byddin Fwslemaidd.
Bywgraffiad
[golygu | golygu cod]Roedd Siarl yn fab gordderch i Pepin de Heristal a'i ordderch Alpaïde de Bruyères. Ar farwolaeth ei dad yn (714), cymerodd Siarl ei le fel Maer y Llys. Deilydd y swydd yma oedd yn rheoli'r deyrnas mewn gwirionedd; swyddogaeth seremonïol yn unig oedd gan y brenin. Nid oedd Plectrude, gwraig Pepin, yn barod i dderbyn hyn, a llwyddodd i garcharu Siarl, gan reoli ei hun dros ei mab chwech oed, Thiaud. Cododd nifer o daleithiau mewn gwrthryfel mewn ymateb i'r syniad o gael eu rheoli gan wraig, a cymerodd teyrnas Neustria fantais i orchfygu Austrasia mewn brwydr.
Llwyddodd Siarl i ddianc o'r carchar. Gorchfygodd y Neustraid mewn dwy frwydr a gorfododd Plectrude a'i mab i ildio. Erbyn 720 yr oedd wedi uno tiriogaethau'r Ffranciaid yn un deyrnas. Yn 719 gorchfygodd Radbod, brenin y Ffrisiaid a gwneud Ffrisia yn rhan o Ymerodraeth y Ffranciaid.
Yn 732 bu raid i Martel wynebu byddin Fwslemaidd dan reolwr Al-Andalus, Abdul Rahman Al Ghafiqi. Diweddodd Brwydr Tours mewn buddugoliaeth fawr i'r Cristionogion, gyda Abdul Rahman ei hun ymhlith y lladdedigion. Mae nifer o haneswyr yn ystyried i'r frwydr yma fod yn un o'r rhai mwyaf tyngedfennol yn hanes Ewrop, ac y gallai Ewrop oll fod wedi dod yn rhan o'r byd Islamaidd onibai am fuddugoliaeth Martel. Rhwng 735 a 737 enillodd Martel nifer o fuddugoliaethau eraill dros yr Arabiaid yn ne Ffrainc.
Olyniaeth
[golygu | golygu cod]Bu Siarl Martel farw yn Quierzy ar 22 Hydref 741. Rhannwyd ei diroedd rhwng ei ddau fab:
- Carloman, a gafodd Austrasia, Alemania a Thuringia
- Pepin Fychan, a gafodd Neustrasia, Borgona a Profens.