William John Griffith

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Awdur storïau byrion yn y Gymraeg oedd William John Griffith (15 Medi 18757 Hydref 1931). Cafodd ei eni yn Aberffraw ar Ynys Môn a'i fagu yn Llansadwrn.

Bywgraffiad[golygu | golygu cod y dudalen]

Cafodd ei addysg gynnar yn Ysgol Ramadegol Biwmares ac wedyn am gyfnod byr yng Ngholeg Prifysgol Gogledd Cymru, Bangor.

Ffermwr oedd W. J. Griffith wrth ei alwedigaeth. Treuliodd rhan helaeth ei oed yn ffermio yn yr Henllys Fawr ger Aberffraw, cartref teuluol ei dad. Roedd ei iechyd yn fregus ond roedd yn ffermwr medrus.

Dechreuodd ysgrifennu straeon byrion am ei fro. Arferai darllen ei straeon yng nghymdeithas lenyddol Capel Aberffraw er mawr difyrrwch y gynulleidfa. Daeth yn gyfaill i'r newyddiadurwr ac awdur E. Morgan Humphreys a'i anogodd i gyhoeddi ei straeon yn Y Genedl Gymreig ac fe wnaeth hynny o 1924 hyd Nadolig 1930. Casglwyd a chyhoeddwyd y straeon hynny yn y gyfrol Storïau'r Henllys Fawr (1938), wedi'u golygu gan y nofelydd T. Rowland Hughes. Maent yn straeon doniol, llawn o fwrlwm y fro a brasluniau o gymeriadau ardal y Berffro.

Ysgrifennai ambell bennill digrif yn ogystal, ond ni chyhoeddwyd hwy.

Cafodd Storïau'r Henllys Fawr eu haddasu ar gyfer y teledu yn 1983 gan y dramodydd Gareth Miles a'u dangos ar S4C.

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod y dudalen]