Brwydr Meicen (Hatfield)
| Brwydr Meicen Battle of Hatfield Chase |
|||||||
|---|---|---|---|---|---|---|---|
Cadwallon ap Cadfan, Brenin Gwynedd; llun o'r 15g yn yr Historia Regum Britanniae |
|||||||
|
|||||||
| Rhyfelwyr | |||||||
| Gwynedd, Mersia | Deifr a Brynaich | ||||||
| Arweinwyr | |||||||
| Cadwallon ap Cadfan Penda Eowa? | Edwin Osfrith Eadfrith (daliwyd) |
||||||
Brwydr a ymladdwyd oddeutu'r flwyddyn 632 oedd Brwydr Meicen (neu Brwydr Meigen) (Meigen: Heathfield yn Saesneg, sef Hatfield Chase yn Swydd Efrog yn ôl pob tebyg). Dyma'r cofnod cyntaf i Gymry (neu Frythoniaid fel y'u gelwyd yr adeg yma) ac Eingl-Sacsonaidd o Gaint ymuno mewn cynghrair.

Etifeddodd Cadwallon ap Cadfan deyrnas Gwynedd ar farwolaeth ei dad, Cadfan ap Iago. Ymosododd Edwin, brenin Deifr (Northumbria heddiw) ar Wynedd gan gyrraedd cyn belled ag Ynys Môn, gan orfodi Cadwallon i ffoi i Ynys Lannog (Ynys Seiriol) ac yna i Iwerddon. Yn ôl yr Annales Cambriae digwyddodd hyn yn 629.
Daeth y brenin Cadwallon i gytundeb â Penda, brenin Mersia, ac ymosododd y ddau ar Northumbria. Lladdwyd Edwin ym Mrwydr Meicen.[1] Dyma'r cofnod cyntaf i Gymry a Saeson ymuno mewn cynghrair fel hyn.
Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ John Davies, Hanes Cymru (Penguin, 1990), t.62