Brwydr Maes Cogwy
(Ailgyfeiriad oddi wrth Maes Cogwy)
![]() | |
Data cyffredinol | |
---|---|
Enghraifft o'r canlynol | brwydr ![]() |
Dyddiad | 5 Awst 642 ![]() |
Lleoliad | Croesoswallt ![]() |
![]() | |
Gwladwriaeth | y Deyrnas Unedig ![]() |
Ymladdwyd Brwydr Maes Cogwy (neu Brwydr Cogwy, Saesneg: Battle of Maserfield) ar 5 Awst 641 neu 642, neu yn ôl yr Annales Cambriae yn 644, rhwng Oswallt, brenin Northumbria a Penda, brenin Mercia. Yn ôl pennill yng Nghanu Heledd, roedd Cynddylan ap Cyndrwyn o Bengwern hefyd yn rhan o'r ymladd. Er na ddywedir hynny, mae'n debygol ei fod mewn cynghrair gyda Penda, gan fod llinell ym Marwnad Cynddylan sy'n awgrymu hynny.
Gorchfygwyd byddin Northumbria, a lladdwyd Oswallt. Y farn gyffredinol yw fod y frwydr rywle gerllaw Croesoswallt.
Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod y dudalen]
- Peter C. Bartrum (1993) A Welsh classical dictionary (Llyfrgell Genedlaethol Cymru) ISBN 0-907158-73-0