Canu Heledd

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search

Cyfres o englynion saga yn dyddio o'r 9fed neu'r 10g yw Canu Heledd. Y siaradwr yn yr englynion yw Heledd ferch Cyndrwyn, chwaer Cynddylan, brenin rhan ddwyreiniol Teyrnas Powys yn y 7g.[1]

Cerddi[golygu | golygu cod y dudalen]

Mae Cynddylan, a gysylltir Cynddylan a llys Pengwern, wedi ei ladd (wrth frwydro yn erbyn yr Eingl-Sacsoniaid yn ôl pob tebyg), a'i lys yn wag a thywyll. Crwydra Heledd gan alaru:

Stauell gyndylan ys tywyll heno,
heb dan, heb wely.
wylaf wers; tawaf wedy.[1]

Disgrifia ddau eryr, eryr Eli ac Eryr Pengwern, yn bwydo ar gyrff y lladedigion:

Eryr penngwern pengarn llwyt [heno]
aruchel y adaf,
eidic am gic a garaf.[1]

Trawiadol hefyd yw'r dilyniant englynion adnabyddus am Y Dref Wen (lleoliad ansicr). Mae rhyfel wedi torri ar dangnefedd y lle:

Y dref wenn yn y dyffrynt,
Llawen y bydeir wrth gyuamrud kat;
Y gwerin neur derynt.[1]

Y dref wen yn y dyffryn,
llawen y byddeir ('adar ysglyfaethus'?) wrth gyfanrudd cad;
Ei gwerin neur derynt (bu darfu am ei gwŷr).

Ysgolheictod a llenyddiaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

Cyhoeddwyd yr argraffiad safonol o'r farddoniaeth yma gan Syr Ifor Williams yn 1935 yn y gyfrol Canu Llywarch Hen. Yn 1990 cyhoeddodd Jenny Rowland olygiad gyda rhagymadrodd, astudiaeth a nodiadau Saesneg, sef Early Welsh Saga Poetry.

Mae'r nofelwraig Rhiannon Davies-Jones wedi ysgrifennu nofel am hanes Cynddylan, Heledd a Pengwern, o'r enw Eryr Pengwern. Ceir adlais bwriadol yn nheitl y nofel Tywyll Heno gan Kate Roberts.

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

  • Ifor Williams (gol.) Canu Llywarch Hen: gyda rhagymadrodd a nodiadau (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru, 1935)
  • Jenny Rowland (gol.), Early Welsh Saga Poetry (Caerdydd, 1990)
  • Marged Haycock, 'Hanes Heledd hyd Yma', yn Gweledigaethau: Cyfrol Deyrnged i Gwyn Thomas, gol. Jason Walford Davies (Gwasg Barddas, Abertawe, 2007)

Gweler hefyd[golygu | golygu cod y dudalen]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. 1.0 1.1 1.2 1.3 Ifor Williams (gol.) Canu Llywarch Hen (Gwasg Prifysgol Cymru, 1935).

Dolen allanol[golygu | golygu cod y dudalen]